Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Cyhoeddwyd 17/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Lansiodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn swyddogol ddydd Mercher 16 Mai. Mae hi'n gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2018.

Pam academi arweinyddiaeth

Nodwyd pryderon ynghylch ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion mewn nifer o adroddiadau ac adolygiadau ar system addysg Cymru, gan gynnwys adroddiadau gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) (PDF 2.74MB) ac Adroddiadau Blynyddol Estyn ers nifer o flynyddoedd. Roedd y pryderon hyn yn cynnwys:

  • Diffyg cynllunio olyniaeth;
  • Nifer gyfyngedig o gyfleoedd datblygu proffesiynol wedi'u teilwra'n dda ar gyfer arweinwyr uwch a chanolig, ac athrawon;
  • Nid yw arweinyddiaeth ysgol yn cael ei hystyried yn broffesiwn deniadol;

Roedd arolygiadau Estyn yn nodi mai dim ond nifer fach o ysgolion sydd ag ymarfer rhagorol mewn arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer gwella.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i arweinyddiaeth yn ei Chynllun Gweithredu ar gyfer 2017-2021, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl (Medi 2017) [PDF 2MB]. ‘Arweinwyr sy’n ysbrydoli ac sy’n cydweithio i godi safonau’ yw un o'r pedair thema allweddol sy'n galluogi amcanion y Cynllun, sy'n nodi: ‘bydd hybu a chefnogi arweinyddiaeth effeithiol a chydweithredol yn ganolog i’n diwygiadau’.

Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth a'r cefndir i sefydlu'r Academi yn cael ei drafod mewn erthygl blog blaenorol, Arweinyddiaeth mewn Addysg (16 Mai 2017)

Llun o lyfrau

Sut y datblygwyd yr Academi

Ar 12 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Kirsty Williams ei bwriad i sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysg. Mewn datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar 16 Mai 2017, dywedodd Kirsty Williams:

Er mwyn llwyddo, mae angen arweinwyr ysbrydoledig ar bob ysgol, a chredaf fod sefydlu ein hacademi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn gam pwysig ymlaen. O’i osod ochr yn ochr â safonau proffesiynol newydd, diwygio addysg gychwynnol athrawon a diwygio cwricwlwm, mae'n rhan o ddull cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth.

Sefydlwyd Bwrdd Cysgodol, sy'n gweithio fel Grŵp Gorchwyl a Gorffen, ym mis Rhagfyr 2016 i ddatblygu gweledigaeth, egwyddorion a strwythur llywodraethu yr Academi. Roedd y Bwrdd Cysgodol yn cael ei gadeirio gan Ann Keane, cyn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gyda chynrychiolwyr o randdeiliaid ac arbenigwyr allweddol.

Yn ystod 2017, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu, sioeau teithiol rhanbarthol, fforymau a gweithdai ar faterion penodol er mwyn casglu barn rhanddeiliaid [PDF 435KB].

Strwythur yr Academi

Bydd yr Academi hyd braich o Lywodraeth Cwmni ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant. Bydd yn cael grant gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gadw i gyfrif am ei wariant, ond yn cynrychioli barn ei randdeiliaid.

Mewn datganiad i'r Cynulliad ar 16 Mai 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod hi'n disgwyl y bydd yr Academi yn ‘sefydliad bach a hyblyg, gyda bwrdd strategol bach, ac yn cael ei arwain gan brif weithredwr.’

Yn dilyn proses penodi cyhoeddus, ar 1 Mai 2018, cyhoeddwyd mai Cadeirydd yr Academi fydd Dr Sue Davies. Cyhoeddwyd enwau'r Aelodau Bwrdd hefyd.

Yn ogystal, penodwyd Aelodau Cyswllt yr Academi hefyd. Penaethiaid ysgolion yw'r rhain sydd wedi'u penodi i ddylanwadu ar waith cychwynnol yr Academi. Byddant yn gallu ymgysylltu â'r rhaglen datblygu arweinyddiaeth gyntaf a fydd yn cael ei llunio ar ran yr Academi. Bydd eu rôl yn cynnwys bod yn rhan o weithgorau a phaneli a fydd yn cymeradwyo'r gwaith o ddarparu ar gyfer datblygu arweinyddiaeth a chefnogi'r gwaith o ddylunio, datblygu a chomisiynu darpariaeth datblygu arweinyddiaeth.

Beth fydd yr Academi yn cael ei wneud

Mae'r Bwrdd Cysgodol wedi cyhoeddi ‘gweledigaeth ac egwyddorion’ [PPT 102KB] ar gyfer yr Academi. Yr egwyddorion yw y bydd yr Academi yn rhagorol, yn gydweithredol, yn ymatebol, yn broffesiynol ac yn arloesol.

Ni fydd yr Academi ei hun yn darparu hyfforddiant. Bydd ganddi bresenoldeb ar-lein gref a'i hamcanion craidd fydd:

  • Sicrhau bod rhaglenni a darpariaeth ar gael i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth, a chomisiynu darpariaeth addas lle mae bylchau;
  • Sicrhau ansawdd darpariaeth drwy broses gymeradwyo;
  • Hyrwyddo'r defnydd a hygyrchedd gwaith ymchwil arweinyddiaeth ac arfer gorau yn genedlaethol a rhyngwladol;
  • Cynnig cymorth a chyngor ar lwybrau gyrfa arweinyddiaeth;
  • Creu cymuned o gyfoedion a chynnig gwybodaeth a chyngor.

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi gweithio i ddatblygu egwyddorion ac arfer cymeradwyo a diwrnod gwybodaeth i ddarparwyr a gynhaliwyd ym mis Ebrill.

Disgwylir y bydd y rhaglenni cyntaf i'w cymeradwyo gan yr Academi ar gael o fis Medi eleni.


Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru