Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – dadl Cynulliad ar adroddiad terfynol y Comisiynydd

Ar 22 Mai 2018, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wrth i dymor Sarah Rochira, y Comisiynydd presennol, ddod i ben fis Mehefin 2018.

17 Mai 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 22 Mai 2018, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wrth i dymor Sarah Rochira, y Comisiynydd presennol, ddod i ben fis Mehefin 2018.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi adroddiad etifeddiaeth, ynghyd â’i Hadroddiad Effaith a Chyrhaeddiad blynyddol, a chafodd ei holi am ei gwaith a’i gwaddol gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (y Pwyllgor) ar 9 Mai 2018 (mae’r sesiwn i’w gweld ar Senedd.tv). Mae’r erthygl hon yn ystyried rhai o’r prif faterion a ddaeth i’r amlwg.

Ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal

Trafododd y Comisiynydd y gwaith sywleddol y mae wedi’i gyflawni’n dilyn ei hadolygiad o gartrefi gofal ac, er iddi nodi y bu cynnydd da mewn rhai meysydd, roedd yn pryderu nad oedd camau gweladwy wedi’u cymryd yng Nghymru mewn perthynas â nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Ymataliad
  • Ailalluogi ac adsefydlu
  • Atal pobl rhag cwympo
  • Hyfforddiant dementia
  • Meddyginiaeth wrthseicotig
  • Adolygu meddyginiaeth
  • Ansawdd bywyd ac ymgysylltu

Mae’r Comisiynydd wedi gofyn am ragor o wybodaeth am y materion hyn gan gyrff cyhoeddus a dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn sicr y bydd cam arall yn y broses o graffu ar yr adolygiad yn y dyfodol i sicrhau cynnydd.

Hawliau dynol ac eiriolaeth annibynnol

Yn ei hadroddiad blynyddol, mae’r Comisiynydd yn nodi nad oes fawr o ddealltwriaeth o hawliau dynol nac o ddulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau dynol, ac nid yw’r hawliau hyn yn cael eu cymhwyso’n ymarferol, a hynny er gwaethaf y dyletswy ddau a roddwyd ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Gwasanaethau a Llesiant (Cymru) 2014, ac:

‘This often leads to poor decision making and places vulnerable people at risk of harm’.

Mae’r Comisiynydd yn nodi bod y gwaith achos y mae’n ei gael yn dangos nad yw pobl yn cael hawl i fywyd teuluol, na rhyddid i gymdeithasu ac nad oes ganddynt ryddid yn gyffredinol. Yn ogystal â hyn, mae’n dangos bod pobl yn cael eu trin yn ddiraddiol ac yn annynol, ac mae’n glir bod unigolion yn aml yn wynebu anghydbwysedd sylweddol o ran pŵer pan fyddant yn ceisio tynnu sylw at broblemau a chwyno wrth gyrff cyhoeddus. Mae’r Comisiynydd yn credu mai dyma un rheswm pam mae eirolaeth annibynnol yn rhan mor allweddol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd newydd gyhoeddi adroddiad newydd ar  fynediad at eiriolaeth annibynnol, sy’n dod i’r casgliad ei bod yn amlwg “bod nifer mawr o bobl hŷn nad ydynt yn gallu derbyn gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, yn fwy cyffredinol ac mewn perthynas â’r dyletswyddau mewn deddfwriaeth’, a bod ‘nifer mawr o bobl hŷn yn parhau i’w chael yn anodd cael llais’.

Mae gwelliannau’r gwrthbleidiau wedi’u cyflwyno i’r cynnig dadl sy’n galw am i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ar frys â’r pryderon hyn am fynediad at eiriolaeth annibynnol, a chyflwyno bil iawnderau ar gyfer pobl hŷn. Dywedodd y Comisiynydd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei bod wedi galw am gyflwyno bil, ond mai barn Llywodraeth Cymru yw, am amryw o resymau, gan gynnwys effaith Brexit, na fydd deddfwriaeth o’r fath yn bosibl yn y cyfnod hwn.

Mynd i’r afael ag esgeulustod

Yn ei hadroddiad blynyddol, mae’r Comisiynydd yn nodi bod pryder cynyddol ynghylch nifer yr achosion o esgeulustod sy’n cael eu cofnodi, yn enwedig y rhai’n ymwneud â briwiau pwysedd difrifol y gellid eu hosgoi.

‘Through my casework and my review of many high-profile neglect cases in Wales involving older people, I have seen a worrying pattern emerging’.

Yn ôl y Comisiynydd, ar hyn o bryd mae diffyg atebolrwydd llesteiriol ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am ofalu am y rhai mwyaf agored i niwed. Dywedodd mai un feirniadaeth ar y system bresennol yw bod angen tystiolaeth benodol iawn i erlyn achosion troseddol o esgeulustod yn llwyddiannus, hyd yn oed os yw person wedi marw oherwydd diffyg gofal priodol. Mae’r Comisiynydd, felly, wedi parhau i alw ar y Llywodraeth i adolygu a diwygio deddfwriaeth i sicrhau bod modd herio’r broblem gynyddol hon drwy ein system gyfreithiol.

Materion sy’n codi o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Pwyllgor fod angen rhoi sylw i’w meysydd a ganlyn:

  • Mynediad at eiriolaeth annibynnol (fel y nodwyd uchod)
  • Yr hawl i gael gwasanaethau – dywedodd y Comisiynydd fod Cynghrair Henoed Cymru yn pryderu’n arw bod y trothwy cymhwyso’n rhy uchel a bod gwasanaethau gofal a chymorth yn cael eu gwrthod i’r rhai a ddylai eu cael.
  • Cymorth i ofalwyr – Yn ôl ffigurau’r Comisiynydd, mae 370,000 o ofalwyr yng Nghymru ac, er bod gan ofalwyr hawl i gael asesiad a chymorth o dan y Ddeddf, dim ond 6,200 o ofalwyr gafodd asesiad y llynedd, a dim ond 1,200 gafodd gynnig cymorth wedyn. Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad yn ymwneud â hyn yn ddiweddar, sef Ailystyried Seibiant, a dywedodd fod nifer o’n gofalwyr ar eu gliniau a bod angen rhagor o gymorth arnynt.

‘If our carers fall, our public services fall’


Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru