Addysg

Sut y dylid addysgu am faterion yn ymwneud â rhywioldeb a pherthnasoedd mewn ysgolion?

Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyhoeddi manylion am ei hymateb i adolygiad o'r ffordd y caiff plant a phobl ifanc eu haddysgu am faterion yn ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb. Bydd Kirsty Williams yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (22 Mai 2018) yn dilyn yr adroddiad gan banel arbenigol.

18 Mai 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyhoeddi manylion am ei hymateb i adolygiad o’r ffordd y caiff plant a phobl ifanc eu haddysgu am faterion yn ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb. Bydd Kirsty Williams yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (22 Mai 2018) yn dilyn yr adroddiad gan banel arbenigol.

Sefydlodd Ysgrifennydd y Cabinet y Panel Rhyw a Pherthnasoedd ym mis Mawrth 2017. Cyhoeddwyd mai’r Athro Emma Renold, Athro mewn Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, oedd y Cadeirydd. Gofynnwyd i’r panel nodi materion a chyfleoedd i gefnogi Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn y cwricwlwm presennol a rhoi cyngor ac argymhellion ar sut y dylid ei hymgorffori yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.

Cyhoeddwyd adroddiad y panel arbenigol (PDF 1.53MB) ym mis Rhagfyr 2017 a gwnaeth 11 o argymhellion, sydd wedi’u rhestru ar dudalennau 25-26. Maent yn canolbwyntio ar wneud Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn rhan o’r cwricwlwm newydd, gan sicrhau bod ganddi statws cyfartal â meysydd eraill, a darparu mwy o hyfforddiant a chymorth i athrawon.

Ymateb cychwynnol Ysgrifennydd y Cabinet

Cyhoeddodd Kirsty Williams ddatganiad ar 13 Rhagfyr 2017, ochr yn ochr â chyhoeddi’r adroddiad, lle dywedodd y byddai’n ystyried yr argymhellion. Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu ei hymateb bellach er mae hi eisoes wedi awgrymu bod hwn yn bwnc pwysig:

Rwy’n benderfynol o sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn cael ei drafod mewn ysgolion, a hynny i’r safon uchaf bosibl. Mae’n bwysig bod staff ac athrawon wedi eu harfogi yn briodol i ddiwallu anghenion a phrofiadau eu dysgwyr wrth iddynt dyfu ac aeddfedu. (…)

Felly, mae’n bwysicach nag erioed bod ysgolion yn gallu cefnogi disgyblion drwy Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Rhaid i’r addysg hon fod yn briodol o ran eu datblygiad, yn ffeithiol ac o ansawdd uchel, ac y gall yr athrawon gael gafael ar wybodaeth bellach a chyngor arbenigol.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd adroddiad y panel arbenigol yn “rhoi tystiolaeth amhrisiadwy i’r Ysgolion Arloesi wrth iddynt edrych ar strwythurau’r cwricwlwm, ac yn ehangach na hynny, y dulliau gweithredu ysgol gyfan o ran ymdrin ag Addysg Rhyw a Pherthnasoedd”.

Y sefyllfa bresennol yn y cwricwlwm

O dan adran 101(c) o Ddeddf Addysg 2002, rhaid i bob ysgol uwchradd a gynhelir gynnwys addysg rhyw ar gyfer disgyblion cofrestredig fel rhan o ‘gwricwlwm sylfaenol’ yr ysgol. Nid oes rhaid i ysgolion cynradd, yn ôl Deddf 2002, ddarparu addysg ryw fel rhan o’r ‘cwricwlwm sylfaenol’, ond gallant wneud hynny yn ôl disgresiwn eu hunain.

Mae gan rieni hawl i dynnu eu plant o unrhyw elfen o addysg ryw nad yw’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Fodd bynnag, pan mae’n rhan o raglenni astudio y cwricwlwm cenedlaethol a gorchmynion pwnc (er enghraifft Gwyddoniaeth), rhaid i ddisgyblion gael eu haddysgu am elfennau o addysg ryw.

Mae statws addysg ryw yn y cwricwlwm sylfaenol yn golygu, er ei bod hi’n orfodol i ysgolion uwchradd ei darparu, nid yw sut a beth y dylid ei ddarparu wedi’i ragnodi, yn wahanol i bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau anstatudol yn 2010, sy’n rhestru agweddau ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd y dylid eu darparu o fewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh), gan gyfeirio at Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru, sydd hefyd yn anstatudol. Yn wahanol i Addysg Rhyw a Pherthnasoedd, mae ABCh yn ofyniad o’r cwricwlwm sylfaenol, sy’n golygu ei bod yn orfodol i ysgolion ei darparu ond mae ganddynt ddisgresiwn o ran sut i wneud hynny.

Mae’r panel arbenigol wedi argymell newid y derminoleg o ‘addysg rhyw a pherthnasoedd’ i ‘addysg rhywioldeb a pherthnasoedd’, gan gyfeirio at ddull Sefydliad Iechyd y Byd sy’n seiliedig ar hawliau a chydraddoldeb. Ymysg canfyddiadau’r panel arbenigol oedd:

  • “Mae angen diweddaru’r gyfraith a’r canllawiau presennol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd”;
  • “Prin yw’r Addysg Rhyw a Pherthnasoedd a ddarperir mewn ysgolion ar hyn o bryd”;
  • “Mae bwlch rhwng profiadau byw plant a phobl ifanc a chynnwys Addysg Rhyw a Pherthnasoedd”;
  • “Yn aml, ni roddir digon o adnoddau ar gyfer Addysg Rhyw a Pherthnasoedd fel maes cwricwlwm, ac ni roddir blaenoriaeth uchel iddo mewn ysgolion, sy’n arwain at ddarpariaeth anghyson ac anghyfartal”.

Y Cwricwlwm newydd i Gymru

Mae Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei ddatblygu yn dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson o gwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru, Dyfodol Llwyddiannus (PDF 1.53MB). Un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad newydd fydd Iechyd a Lles, a fydd yn disodli’r fframweithiau ABCh ac Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn rhannol.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio gyda rhwydwaith o ysgolion arloesi i gynllunio’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad ac i ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Lluniodd y Gweithgor Iechyd a Lles adroddiad ym mis Rhagfyr 2017 (PDF 342KB) yn amlinellu cynllun lefel uchel y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles hyd yma a ‘beth sy’n bwysig’. Roedd adroddiad cynharach o grynodeb gweithredol ym mis Gorffennaf 2017 (PDF 1.01MB) yn dweud bod y gweithgor yn gweithio gyda phanel arbenigol yr Athro Renold i benderfynu sut byddai Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn ffurfio rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cadarnhau’n flaenorol y bydd addysg perthnasoedd iach a rhyw yn cael ei chynnwys yn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 12 Ionawr 2017, paragraffau 157-162 (PDF 543KB).

Argymhellodd y panel arbenigol y dylai Addysg Rhyw a Pherthnasoedd fod yn rhan statudol o’r cwricwlwm newydd i bob ysgol ac y dylai fod â statws cyfartal â meysydd eraill yn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, ac y dylai’r Maes Dysgu a Phrofiad penodol hwn fod â statws cyfartal i’r pum Maes Dysgu a Phrofiad arall.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Roedd addysg perthnasoedd iach yn fater allweddol yn ystod gwaith craffu deddfwriaethol ac ôl-ddeddfwriaeth y Cynulliad ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Roedd Papur Gwyn 2012 (PDF 250KB) a ddaeth cyn y ddeddfwriaeth yn cynnig y byddai’r Bil yn sicrhau ei bod yn orfodol cyflwyno addysg ar berthynas iach ag eraill ym mhob ysgol. Ond, roedd y Ddeddf derfynol ond yn cynnwys gofyniad (yn adran 9) i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol.

Yn ystod gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol (PDF 1.79MB) ar y Ddeddf yn 2016, daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r casgliad mai “addysg orfodol yw’r allwedd i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf”. Yna, dywedodd, “os nad yw’n ofyniad statudol i ysgolion ddarparu addysg ynglŷn â pherthnasoedd iach, er y bydd rhai ysgolion yn dal i fynd i’r afael â hyn yn effeithiol, y bydd rhai yn dewis peidio, fel sy’n wir ar hyn o bryd”.

Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru “ymrwymo i gynnwys addysg perthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd o dan y Maes Dysgu a Phrofiad ‘Iechyd a Llesiant’, a sicrhau y caiff hyn ei ddarparu ym mhob ysgol”.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yn rhannol (PDF 183KB), gan ddweud y bydd gwaith ar y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn ystyried dulliau o gynnwys hyn yn y cwricwlwm newydd.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid dechrau adrodd, o dan adran 9 o’r Ddeddf, yn y flwyddyn academaidd 2017/18. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r argymhelliad hwn drwy ddweud ei bod yn bosibl “y bydd cyfleoedd i gael gwybodaeth a data ar yr hyn y mae lleoliadau addysg o fewn awdurdodau lleol yn ei gyflawni ar hyn o bryd o ran darpariaeth addysg sy’n deillio o’r Ddeddf, gan sefydliadau allanol”.

Fodd bynnag, mewn diweddariad i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau (PDF 654KB) gan Arweinydd y Tŷ ym mis Chwefror 2018, cadarnhawyd na fyddai rheoliadau o dan adran 9 yn cael eu gwneud oherwydd y gwaith parhaus ar y cwricwlwm newydd.

Canfu’r panel arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd fod “diffyg ymwybyddiaeth ac addysg ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol” ac mai dim ond ychydig o ysgolion sy’n ymwybodol o Ddeddf 2015 a’r canllawiau a’r adnoddau cysylltiedig. Cyfeiriodd y panel at waith ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Ysgolion Iach yn 2015 gan ddweud “dim ond hanner y myfyrwyr ysgol uwchradd yng Nghymru sy’n cytuno bod eu hysgol yn eu haddysgu ynghylch pwy y dylent gysylltu â hwy os byddant hwy neu ffrind yn wynebu trais mewn perthynas”.

Sut i ddilyn datganiad Ysgrifennydd y Cabinet

Trefnwyd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chwestiynau gan Aelodau’r Cynulliad ar y datganiad ar gyfer dydd Mawrth 22 Mai 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey a Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru