Cymunedau Economi

Gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Gyda bron i chwarter pobl Cymru (24%) yn byw mewn tlodi wedi i gostau tai gael eu cymryd i ystyriaeth, mae darganfod ffyrdd i fynd i’r afael â hyn wedi bod yn ganolbwynt gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar wneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel ar 23 Mai.

23 Mai 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda bron i chwarter pobl Cymru (24%) yn byw mewn tlodi wedi i gostau tai gael eu cymryd i ystyriaeth, mae darganfod ffyrdd i fynd i’r afael â hyn wedi bod yn ganolbwynt gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar wneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel ar 23 Mai.

Ffigwr 1: Canran yr unigolion sy’n byw mewn cartrefi ble mae’r incwm yn llai na 60% o ganolrif incwm cartrefi ar draws y DU (ar ôl costau tai), 2014-15 i 2016-17

Nid yw’r pŵer dros yr holl bolisïau a chamau ariannol angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru. Felly, mae’r Pwyllgor yn pwysleisio y bydd angen gwneud defnydd creadigol o’r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ar draws Cymru gyda swyddi o safon a chyflogau safonol.

Felly, beth mae pobl wedi dweud wrth y Pwyllgor yw’r ffyrdd gorau o wella incwm y rheini sy’n wynebu’r angen mwyaf, a beth mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud er mwyn cyflawni hyn?

Beth mae pobl ar incwm isel yn credu gall y llywodraeth wneud er mwyn gwneud i’r economi weithio’n well i’r rheini sydd ag incwm isel?

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi fideo sy’n dangos y prif faterion sy’n poeni pobl sydd ddim yn gweithio neu pobl sy’n gweithio ar incwm isel, gan gynnwys:

Cyfleoedd gwaith:

  • Roedd pobl ar draws Cymru yn teimlo bod gwaith ar gael, ond bod llawer o’r gwaith hwnnw yn talu cyflog isel.
  • Roedd pobl oedd yn cychwyn gweithio yn syth o’r ysgol yn teimlo eu bod nhw’n wynebu anawsterau wrth chwilio am waith oherwydd diffyg profiad.
  • Roedd nifer o rieni sengl yn teimlo eu bod nhw’n wynebu anawsterau penodol wrth chwilio am waith hyblyg.

Tâl:

  • Roedd barn gyffredinol nad yw cyflog isel yn ddigon, a bod gweithwyr yn gorfod ‘crafu byw’.
  • Dylai cwmnïau mawr dalu’r cyflog byw gwirfoddol (sydd wedi’i bennu fel £8.75 yr awr ar hyn o bryd gan y Sefydliad Cyflog Byw)
  • Byddai talu’r cyflog byw gwirfoddol yn helpu i wella lles emosiynol gweithwyr.

Cytundebau dim oriau:

  • Mae cyflogwyr yn gofyn wrth weithwyr i weithio sifft ar y munud olaf, ac mae’r gweithwyr yn teimlo bod rhaid iddyn nhw gytuno neu fyddan nhw ddim yn cael cynnig mwy o waith yn y dyfodol.
  • Mae gweithio ar gytundebau dim oriau yn gwneud hi’n anodd i weithwyr allu cynllunio’n ariannol.
  • Mae’r ansicrwydd ynglŷn ag oriau gwaith yn achosi straen a phryder.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi clywed am bryderon ynglŷn â nifer o feysydd eraill, gan gynnwys trafnidiaeth, diffyg hyfforddiant a chefnogaeth, problemau gyda Credyd Cynhwysol a’r system budd-daliadau, a diffyg tai cymdeithasol.

Beth mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud er mwyn helpu pobl sydd ag incwm isel?

Mae’r pwyllgor wedi gwneud 23 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Argymell bod cwmnïau sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn lleihau eu defnydd o gytundebau dim oriau.
  • Argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n derbyn y cyflog byw gwirfoddol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, a chymell cwmnïau i dalu’r cyflog byw gwirfoddol fel rhan o’r broses o ymgeisio am gymorth i fusnesau sy’n dod dan adain Contract Economaidd newydd Llywodraeth Cymru.
  • Yr economi sylfaenol sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol, megis manwerthu, iechyd a gofal. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r gwelliannau i gyflogau, sicrwydd gwaith a hyfforddiant y bydd angen i gwmnïau gyflawni er mwyn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
  • Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyflogwyr i wella dilyniant ymysg gweithwyr yn y sectorau sylfaenol, a mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n wynebu’r gweithlu, gyda’r mwyafrif o’r rheini yn ferched.
  • Mae’r Pwyllgor wedi pwysleisio’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n ofynnol ar gwmnïau gyda 50-249 o weithwyr sy’n derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ynglŷn â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (mae cwmnïau gyda mwy na 250 o weithwyr eisoes yn gorfod cyhoeddi’r wybodaeth hon).
  • Mi wnaeth y Pwyllgor hefyd argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun gweithredu sy’n nodi beth mae Llywodraeth Cymru am wneud er mwyn lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Beth fydd yn digwydd nesa’?

Bydd adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r Llywodraeth ymateb yn y misoedd nesaf, ac wedi i’r ymateb hwnnw gael ei dderbyn bydd Aelodau yn trafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Comisiwn Cyflog Teg, fydd yn ystyried nifer o’r materion sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor, ac yn ehangach gan fudiadau eraill. Bydd y Comisiwn yn cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol, yn gytbwys o ran rhyw, gan gyhoeddi eu casgliadau erbyn Mawrth 2019.


Erthygl gan Gareth Thomas a Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau, Households Below Average Income 2014-15 to 2016-17