Trafnidiaeth

Yr awr o brysur bwyso

Bore heddiw, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, fod KeolisAmey wedi curo MTRCymru Ltd i ennill y contract i weithredu'r fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru ac i ddatblygu gwasanaethau Metro De Cymru o fis Hydref 2018. Daw hyn â phroses gaffael hir a chymhleth i ben; proses a ddisgrifiwyd yn "arwrol" (PDF, 1MB) gan Russell George, Cadeirydd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad (Pwyllgor EIS).

23 Mai 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bore heddiw, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, fod KeolisAmey wedi curo MTRCymru Ltd i ennill y contract i weithredu’r fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru ac i ddatblygu gwasanaethau Metro De Cymru o fis Hydref 2018. Daw hyn â phroses gaffael hir a chymhleth i ben; proses  a ddisgrifiwyd yn “arwrol”  (PDF, 1MB) gan Russell George, Cadeirydd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad (Pwyllgor EIS).

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud  mai ei “gofyniad sylfaenol” ar gyfer cynigwyr sy’n tendro am y contract yw “y bydd y gwasanaethau o leiaf yn cyfateb i’r rhai a ddarperir ar hyn o bryd”, mae manylion y gwasanaethau a gaiff eu cynnig inni yn ystod y cyfnod newydd hwn eto i’w cadarnhau.

Fodd bynnag, bydd gan y cyhoedd ddisgwyliadau uchel o’r hyn y bydd y fasnachfraint Gymreig hon yn ei gynnig – yn enwedig o gofio y caiff cyfanswm o tua £5 biliwn o arian cyhoeddus ei wario arni dros 15 mlynedd, yn ôl yr amcangyfrifon, sy’n golygu mai hwn yw’r contract mwyaf a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ac, yn sicr, un o’r contractau mwyaf yng Nghymru erioed.

Felly pwy yw KeolisAmey a phryd y byddwn ni’n cael gwybod am eu cynlluniau?

Menter ar y cyd rhwng  Keolis , grŵp trafnidiaeth Ffrengig, ac  Amey, cwmni Prydeinig sy’n darparu gwasanaethau ymgynghori a chymorth ym maes seilwaith, yw KeolisAmey.

Mae 70% o Keolis yn eiddo i weithredwr rheilffordd SNCF, sy’n eiddo i wladwriaeth Ffrainc, sy’n gweithredu amrywiaeth o wasanaethau rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn yn y DU. Mae’n disgrifio’i hun fel “gweithredwr rheilffyrdd ysgafn mwyaf y DU”, er enghraifft, mae’n rhedeg Rheilffordd Ysgafn Ardal y Dociau yn Llundain a Metrolink Manceinion. Mae Amey yn eiddo i Ferofaidd,  cwmni rhyngwladol o Sbaen ac mae ganddo gryn dipyn o fuddiannau yn y DU, gan gynnwys gwaith yng Nghymru.

Yn croesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Alistair Gordon, Prif Weithredwr Keolis UK:

This will be a transformative new rail service for Wales and its borders which will see Keolis once more combine its worldwide expertise in passenger operations with Amey’s engineering excellence.

Yn yr un modd, dywedodd Andy Milner, Prif Weithredwr Amey:

This is a great opportunity for us to use our joint capabilities to deliver a first-rate service for Wales. We will be focused on working with Transport for Wales to transform the existing infrastructure and introduce new trains to significantly improve the passenger experience, as well as creating hundreds of new jobs and apprenticeship opportunities.

Bydd yn rhaid aros ychydig ddyddiau eto cyn y cawn wybod beth yn union y gall Cymru ei ddisgwyl. Yn ei lythyr at holl Aelodau’r Cynulliad ar 16 Mai 2018, esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet y rheswm dros hyn. Ar ôl  cyhoeddiad cychwynnol heddiw, rhaid cael “cyfnod segur o ddeg diwrnod” i roi cyfle i’r cynigwyr eraill herio’r penderfyniad yn gyfreithiol. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfnod hwn, ac mae wedi ymrwymo eisoes i gyhoeddi  manyleb y tendr a fersiwn wedi’i golygu o’r contract.

Ffigur 1: Metro Cam 2 – Llinellau craidd y Cymoedd

Beth rydym ni’n ei wybod yn awr?

Er bod gwybodaeth bendant braidd yn denau ar hyn o bryd, mae eisoes yn glir bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd KeolisAmey yn gweithredu mwy na dim ond masnachfraint rheilffordd safonol.

Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi caffael Gweithredwr a Phartner Datblygu (ODP) i ddarparu nid yn unig gwasanaethau rheilffyrdd, ond hefyd i ddatblygu cynigion ar gyfer Metro Cam 2 – gwasanaethau rheilffyrdd neu reilffyrdd ysgafn ar yr hyn a ddisgrifir fel llinellau craidd y Cymoedd (yn y llun) i fod yn gwbl weithredol erbyn 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cryn dipyn ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Yn ei hadroddiad, Gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer y dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2017, dywedodd ei bod yn gofyn am wasanaethau gwell, mwy cyfforddus ac o ansawdd gwell; trawsnewid y profiad o fynd ar drên; gwella’r system docynnau, technoleg a phrisiau; gorsafoedd gwell; a manteision amgylcheddol.

Bydd disgwyliadau ar gyfer Metro Cam 2 hefyd yn uchel. Wrth ysgrifennu at holl Aelodau’r Cynulliad (PDF 212KB)  ym mis Mawrth 2018, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at fuddsoddiad disgwyliedig o £750m yn llinellau craidd y Cymoedd, gan ddweud:

Yn ystod Cam dau, bydd y llinellau hynny’n cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ac yn dod yn eiddo iddi. Gan weithio mewn partneriaeth â’r cwmni a fydd yn gyfrifol am y fasnachfraint newydd, byddant yn cael eu moderneiddio’n llwyr fel y bo modd inni uwchraddio’r gwasanaeth yn unol â’n haddewid, gan greu gwasanaeth a fydd yn caniatáu i bobl ‘gyrraedd yr orsaf a mynd’, gydag o leiaf 4 gwasanaeth yr awr. Yn wir, bydd 12 gwasanaeth yr awr yn cael eu darparu yn rhai o orsafoedd y cymoedd. Bydd yr arbedion o ran amser teithio a’r gostyngiadau o ran allyriadau carbon yn ffyrdd pwysig o sbarduno economi’r rhanbarth, a byddant yn ein helpu hefyd i chwarae’n rhan ni leihau allyriadau CO2.

Bydd y cyhoedd hefyd yn disgwyl cael mwy o werth am arian o’r fasnachfraint. Yn 2015 sefydlodd Llywodraeth Cymru  Trafnidiaeth Cymru  (TfW), i ddechrau rheoli’r broses gaffael.  Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud  ei fod am i Drafnidiaeth Cymru wneud llawer mwy na hynny:

There will be mechanisms in the new approach, that  will operate similar to a concession, to ensure that excess profit is reinvested back into the transport system here in Wales, incentivising choice and driving down costs for the passenger. Our plan is that Transport for Wales will only let those contracts that it has to on a commercial basis.  Where they do, the profits from those services will be at a capped margin with excess profits reinvested back into the wider transport system.

Those services that can be run through a directly not for profit model will be run that way.  We hope to see many more services, such as ticketing, marketing, station management and car parking operating in new and innovative ways under that new approach.  That model, which is used by Transport for London, will allow the flexibility to incorporate further devolved powers as they come.

Gyda  chynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer Trafnidiaeth Cymru,  ar wahân i’r fasnachfraint rheilffyrdd a’r Metro, bydd y cwmni’n brysur dros yr haf yn paratoi i’r fasnachfraint newydd  fynd yn fyw.

Proses gymhleth

Mae’r broses gaffael wedi bod yn llawn drama – yn enwedig y ffaith bod dau o’r pedwar cynigydd cymwys wedi tynnu’n ôl, sef  Arriva Rail Cymru  ym mis Hydref 2017 ac  Abellio  ym mis Chwefror 2018. Mae angen egluro rhai materion go bwysig o hyd.

Mae’r broses o ddatganoli pwerau rhyddfraint wedi bod yn araf. Er bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i’w datganoli  ym mis Tachwedd 2014, dim ond yn ddiweddar y cafodd y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau drafft  ei osod yn y Senedd, sef ar 28 Chwefror 2018. Heb bwerau cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar Gytundeb Asiantaeth gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ystod y broses gaffael. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud  y bydd angen Cytundeb Asiantaeth arall i ymdrin â’r “gwasanaethau trawsffiniol” y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt.

Mae’r broses o drosglwyddo perchenogaeth llinellau craidd y Cymoedd oddi ar Network Rail yn parhau. Mae hon yn broses gymhleth sy’n galw am asesiad gofalus o’r seilwaith Fictoraidd hwn i leihau’r perygl o drosglwyddo rhwymedigaethau annisgwyl a chostus.  Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor EIS  ym mis Ionawr 2018 yn amlinellu sut y cafodd y broses hon ei rheoli, gan egluro y “bydd y gwaith hwn yn dod i ben fel rhan o’r gwaith diwydrwydd dyladwy dros y 18 mis nesaf”.

Yn olaf, ym mis Awst 2017 daeth i’r amlwg, mewn gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth at Ysgrifennydd y Cabinet,  fod anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros y cyfanswm o £1 biliwn o gyllid refeniw ar gyfer y fasnachfraint newydd dros y pymtheg mlynedd y bydd ar waith. Mae hyn cymaint â £67 miliwn y flwyddyn o gyfanswm dyraniad Grant Bloc ar gyfer y fasnachfraint o oddeutu £155 miliwn.

Ar  25 Ebrill 2018 dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor EIS  bod y berthynas rhyngddo ef a’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystod y trafodaethau i ddatrys y bwlch cyllido hwn wedi bod yn “gadarnhaol”, a’i fod yn disgwyl cynnig ganddo cyn bo hir ynghylch y trefniadau ariannu arfaethedig. Fodd bynnag, er y byddai rhywun yn disgwyl y bydd y trefniadau ariannu wedi’u cytuno cyn y cyhoeddiad heddiw, rhaid aros i weld faint o’r £1 biliwn cynhennus y bydd Cymru yn ei gael, ac a fydd unrhyw fwlch ariannol yn effeithio ar brisiau a gwasanaethau.

Er bod y cyhoeddiad heddiw yn ddechrau cyfnod newydd i reilffyrdd Cymru, bydd y rhai sy’n teithio yng Nghymru yn aros yn eiddgar nid dim ond am fanylion y contract ond hefyd am ragor o drenau, a’r rheiny’n drenau gwell, am fwy o amrywiaeth o ran tocynnau – ar gyfer gwasanaethau sy’n rhedeg yn amlach ac sy’n integreiddio â’r dulliau eraill o deithio y byddant yn eu defnyddio bob dydd.

Yn ei sylwadau yn y wasg yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidogion  y gallai gymryd cryn dipyn o amser i’r fasnachfraint newydd roi newidiadau ar waith ac, er bod hyn, efallai yn realistig, amser a ddengys pa mor amyneddgar fydd y rhai sy’n teithio ar y trenau gorlawn ar rwydwaith y Cymoedd.


Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Llyfryn Metro Llywodraeth Cymru (PDF 1.88MB)