Lleoedd cynaliadwy: Lansio ymgynghoriad yr opsiwn a ffefrir ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei hymgynghoriad ar yr Opsiwn a Ffefrir ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y Fframwaith). Disgwylir i'r fersiwn derfynol o'r Fframwaith gael ei chyhoeddi ym mis Medi 2020 a bydd yn eistedd ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru i amlinellu polisïau defnydd tir Llywodraeth Cymru.

Bydd y Fframwaith, ynghyd â'r Polisi Cynllunio, yn amlinellu sut bydd y system gynllunio yng Nghymru yn gweithio yn y dyfodol agos ac mae'n cynnwys newid o ran y dull gweithredu. Yn yr ymgynghoriad, sydd ar agor tan 23 Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru yn nodi yr opsiwn a ffefrir ganddi ar gyfer y Fframwaith, sef ‘lleoedd cynaliadwy’, a hefyd yn trafod yr opsiynau eraill a ystyriwyd.

Yma, rydym yn edrych yn fanylach ar beth yn union yw'r Fframwaith, y materion a'r opsiynau a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru, a pha faterion gofodol a chyfeiriad polisi a allai gael eu cynnwys yn yr opsiwn a ffefrif sef ‘lleoedd cynaliadwy’.

Beth yw'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?

Mae'r Fframwaith yn ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a bydd yn nodi fframwaith defnydd tir am 20 mlynedd her mwyn cynorthwyo i ddarparu strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb (PDF 643KB).

Mae'n disodli Cynllun Gofodol Cymru ac, yn wahanol i hwnnw, bydd ganddo statws cynllunio datblygu ac felly bydd yn fwy arwyddocaol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r cynlluniau sy'n dod oddi tano - Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol - fod yn gyson â'r Fframwaith. Bydd hefyd yn cefnogi penderfyniadau ar brosiectau seilwaith ar raddfa fawr drwy'r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Bydd y Fframwaith yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar rifyn diwygiedig o'r Polisi y bwriedir ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Gallwch ddarllen mwy am sut mae'r system gynllunio yn cael ei hail-weithio drwy'r Polisi a'r Fframwaith yn ein post blog blaenorol.

Drwy'r newidiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd agwedd newydd at gynllunio defnydd tir yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ei hadroddiad yn 2018 ‘Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn’(PDF 1.2MB) wedi croesawu ‘penderfyniad Llywodraeth Cymru i ail-gastio eu polisïau cynllunio yng ngoleuni’r Ddeddf’.

Ar beth y mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arno?

Er nad oes disgwyl i'r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi tan fis Medi 2020, mae rhai rhannau o'r gwaith ymgynghori yn mynd rhagddynt. Mae'r ymgynghoriad diwethaf, a lansiwyd ym mis Mai 2018, yn chwilio am farn ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer y Fframwaith, cyn dechrau ar fersiwn drafft yn ddiweddarach eleni.

Er nad yw union fanylion pa bolisïau y bydd y Fframwaith yn eu pennu ar gyfer pob rhan o Gymru o dan yr opsiwn a ffefrir wedi'u hamlinellu ar hyn o bryd, mae'r ddogfen ymgynghori (PDF 4MB) yn nodi fframwaith ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a fydd yn arwyddocaol o ran llunio'r fersiwn derfynol. Mae'n nodi cyfres o faterion gofodol sydd o bwys cenedlaethol ac yn cynnwys y cyfeiriad polisi posibl y gellir eu cymryd ar gyfer nifer o themâu. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i nodi nad ydynt yn bolisïau terfynol ar hyn o bryd ac mae'r ymgynghoriad yn gyfle i randdeiliaid a phartïon eraill â diddordeb fynegi eu barn arnynt.

Beth mae'r opsiwn a ffefrir yn ei gynnwys?

Mae'r ymgynghoriad yn cyflwyno fframwaith ar gyfer yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ‘lleoedd cynaliadwy’, sy'n cael ei gyflwyno o dan bum thema:

  • Creu Lleoedd
  • Lleoedd Unigryw a Naturiol
  • Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus
  • Lleoedd Actif a Chymdeithasol
  • Rhanbarthau Cymru.

Mae creu lleoedd wrth wraidd dull newydd Llywodraeth Cymru, ac fe gynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar rôl y system gynllunio wrth greu lleoedd ar 15 Mai 2018. Gan siarad yn ddadl, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

Creu lleoedd yw'r ffordd o ddwyn y materion hyn at ei gilydd i greu cymunedau cynaliadwy, ffyniannus. Mae creu lleoedd yn meithrin egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn eu rhoi wrth wraidd trafodaethau sy'n effeithio ar yr amgylchedd adeiledig.

Mae'r cysyniad o greu lleoedd wedi'i amlinellu ym Mholisi Cynllunio Cymru fel proses gynhwysol, sy'n cynnwys pawb sydd â budd yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Mae'n ystyried materion ar bob lefel, o'r raddfa fyd-eang, megis newid yn yr hinsawdd, i'r raddfa leol, megis effaith amwynderau ar gymdogion.

Gallwch ddarllen mwy am greu lleoedd yn ein post blog sy'n trafod beth yw creu lleoedd a beth mae'n ei olygu yng nghyd-destun Cymru.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn amlinellu pwysigrwydd thema creu lleoedd gan nodi:

… y thema creu lleoedd yw’r egwyddor gyntaf a ddefnyddir i ystyried dewisiadau gofodol. Rhaid i benderfyniadau i gefnogi themâu eraill ddangos yn gyntaf eu bod yn gydnaws â’r thema creu lleoedd.

Mae'r opsiwn a ffefrir ar gyfer y Fframwaith yn canolbwyntio ar dair agwedd ofodol o’r thema creu lleoedd – datgarboneiddio a’r newid yn yr hinsawdd; iechyd a llesiant; a chymunedau cydlynus a’r iaith Gymraeg. Mae'r ddogfen ymgynghori yn awgrymu y bydd targedau i gyflawni nodi datgarboneiddio strategol Llywodraeth Cymru yn yrrwr allweddol y bydd yn rhaid i bob cynllun datblygu ei gefnogi.

Er bod yr ymgynghoriad yn nodi nad yw'r cyfeiriad polisi a nodir yn y Fframwaith yn derfynol, mae'r polisïau posibl yn cynnwys meysydd fel tai, ynni a seilwaith.

Mae'r thema ‘Lleoedd Unigryw a Naturiol’ yn awgrymu y bydd y Fframwaith yn nodi adnoddau naturiol cenedlaethol, meysydd o berygl amgylcheddol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a thirweddau o bwys cenedlaethol. Mae hefyd yn awgrymu y bydd y Fframwaith yn nodi cyfleoedd ar gyfer tyfu ac ymestyn y meysydd hyn sydd o bwys cenedlaethol, ar gyfer seilwaith gwyrdd newydd a datblygiad diwylliannol cenedlaethol newydd.

Gallai'r thema ‘Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus’ gynnwys nodi lleoliadau ar gyfer cynhyrchu, storio a dosbarthu ynni adnewyddadwy a charbon isel newydd ar raddfa genedlaethol, tra bod yr ymgynghoriad hefyd yn awgrymu y bydd fframwaith ar gyfer cynhyrchu ynni lleol yn cael ei gynnwys. Amlygir seilwaith trafnidiaeth o bwys cenedlaethol a chynigion ar gyfer buddsoddiad seilwaith newydd hefyd. Mae awgrymiadau hefyd, o dan y thema ‘Lleoedd Actif a Chymdeithasol’ y gellid cynnwys polisi cenedlaethol yn seiliedig ar ragolygon poblogaeth a thai, gan gynnwys amrediad Cymru gyfan o niferoedd tai ar gyfer cyfnod y cynllun.

O dan y thema ‘Rhanbarthau Cymru’ mae'r ddogfen yn awgrymu y bydd y Fframwaith yn rhoi cyfeiriad ar gyfer tair rhanbarth ledled Cymru – Gogledd Cymru, Canol a De-Orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru, ac y gallai'r polisi gynnwys gofyniad i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Mae'r ddogfen hefyd yn awgrymu y gallai'r Fframwaith:

… nodi amcanestyniadau poblogaeth a thai rhanbarthol, seiliedig ar bolisi, ar gyfer pob rhanbarth, a fydd yn cynnwys ystod ranbarthol o niferoedd tai ar gyfer cyfnod y cynllun.

Pa opsiynau eraill a ystyriwyd?

Ym mis Hydref 2017, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar bedwar opsiwn gwahanol ar gyfer y Fframwaith. Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio'r opsiwn y mae'n ei ffafrio, sef ‘lleoedd cynaliadwy’ fel model ‘hybrid’ yn seiliedig ar dda cryfderau perthnasol pob un o'r dewisiadau eraill hyn. Yr opsiynau eraill (PDF 6MB) a ystyriwyd ar gyfer y Fframwaith yw:

  • Canolbwyntio ar dwf yn ardaloedd cryfaf y farchnad yng Nghymru, gan ddarparu'r seilwaith sydd ei angen i gefnogi hynny.
  • Dosbarthu twf a seilwaith ledled Cymru a chanolbwyntio ar gefnogi ardaloedd sydd â'r angen mwyaf lle mae'r marchnadoedd yn wannach.
  • Cyflawni amcanion datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd drwy wneud y materion hyn yn ystyriaeth sylfaenol o bolisïau o fewn y Fframwaith.
  • Canolbwyntio ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy trwy bwysleisio amaethyddiaeth, coedwigaeth, ynni adnewyddadwy, dŵr a thwristiaeth fel ffyrdd o ddatblygu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru gyfan.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Wrth i'r gwaith ddechrau ar y Fframwaith drafft llawn yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn, bydd union fanylion o ran yr hyn mae'r opsiwn a ffefrir yn ei olygu i Gymru yn ofodol, ac unrhyw gyfaddawdu yn sgil hynny, yn dechrau ymddangos.

Disgwylir i'r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Medi 2020 a chyn iddo gael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 60 diwrnod eistedd i drafod y cynnwys. Mae'n debygol y bydd hyn yn digwydd yn ystod gwanwyn 2020.

Yn y cyfamser, bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad yn gwneud gwaith i archwilio'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan Llywodraeth Cymru ar gyfer y fframwaith.


Erthygl gan Francesca Howorth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru