Beth yw dyfodol GIG Cymru?

Cyhoeddwyd 08/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

'Chwyldro o'r Tu Mewn: Trawsnewid Iechyd a Gofal yng Nghymru'.

Gellid esgusodi'r rheini sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG yng Nghymru ers peth amser am fod yn amheus ynglŷn â chyhoeddi adroddiad arall sy'n ailnodi'r heriau sy'n wynebu GIG Cymru. Cyhoeddwyd 'Yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - Chwyldro o'r Tu Mewn: Trawsnewid Iechyd a Gofal yng Nghymru' ym mis Ionawr 2018. Ond mae'r ymateb i'r adroddiad hwn wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan; nid yn lleiaf oherwydd y ffaith bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wynebu caledi.

Mae'r adroddiad yn gwneud cyfraniad mawr i'r ddadl ar sut i greu system iechyd a gofal gynaliadwy yng Nghymru. Mae'n nodi'r achos dros newid ac yn amlygu nifer o heriau a chyfleoedd ar gyfer diwygio.

Bydd p'un a yw ei argymhellion yn cael eu hystyried yn weithredol yn dod i'r amlwg pan fydd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gwneud datganiad am y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (12 Mehefin 2018). Bydd y 'cynllun hirdymor' newydd yn ystyried argymhellion adroddiad yr Adolygiad Seneddol.

Yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Sefydlwyd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol - adolygiad annibynnol o ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - yn dilyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016. Roedd ganddo gefnogaeth drawsbleidiol a chafodd ei ystyried fel ffordd o helpu i ddadwleidyddoli'r ddadl ynghylch sut y dylid strwythuro GIG Cymru i ateb y galw yn y dyfodol.

Mae'r adolygiad yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut y dylai iechyd a gofal cymdeithasol edrych yn y dyfodol. Mae'n argymell modelau gofal newydd gyda gwasanaethau wedi'u trefnu o amgylch yr unigolyn a'i deulu ac mor agos at ei gartref â phosibl. Mae'n pwysleisio bod angen i wasanaethau fod yn ataliol ac y dylai gofal a chymorth fod yn ddi-dor, heb rwystrau artiffisial rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddyliol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd, na gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn cydnabod yr angen am gynnwys y cyhoedd wrth ddylunio a datblygu modelau gwasanaeth newydd.

Mae gan yr adroddiad ffocws hefyd ar feithrin a grymuso cyflogeion ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n galw am wella lles, hyfforddiant, rheolaeth ac ymgysylltiad staff.

Fodd bynnag, mae ei brif neges yn drawsnewidiad radical - mae angen i wasanaethau arloesi a moderneiddio ar gyfradd llawer cyflymach os ydynt am barhau i ddarparu gofal o safon. Mae'r adroddiad yn glir bod graddfa a brys y diwygiad sydd ei angen yn golygu na fydd newidiadau cynyddol i'r modelau gofal presennol yn ddigonol. Er mwyn sicrhau gwell iechyd a lles i bobl Cymru, mae angen cyfeiriad cenedlaethol cryfach i alluogi'r system iechyd a gofal cymdeithasol i ymateb i'r pwysau y mae'n eu hwynebu.

Mae'r heriau o ddiwygio ar y raddfa hon yn arwyddocaol. Mae'r galw am wasanaethau yn parhau i dyfu, mae adnoddau'n brin, ac ni ellir gwarantu cefnogaeth ar gyfer gwaith ailgyflunio mawr, yn enwedig lle mae ysbytai dan sylw.

Y cwestiwn yw a all GIG Cymru gyflwyno trawsnewidiad ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei angen? Mae adroddiad yr Adolygiad Seneddol yn argymell sefydlu rhaglen a Chronfa Trawsnewid Cenedlaethol. A wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i hyn a sicrhau bod buddsoddiad ychwanegol ar gael?

Y gobaith yw y bydd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ddydd Mawrth yn darparu'r manylion am sut y bydd y trawsnewid hwn yn digwydd. Heb amheuaeth, bydd y strategaeth bwysig hon yn penderfynu dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru