Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Beth allai cyllideb hirdymor yr UE ei olygu i Gymru ar ôl Brexit?

Ar 2 Mai 2018, cyflwynodd y Comisiwn Ewropeaidd ei gynigion (PDF 3,671KB) ar gyfer cyllideb hirdymor nesaf yr UE, sef y Fframwaith Ariannol Amlflwydd (MFF), a fydd ar waith rhwng 2021 a 2027. Hwn fydd y Fframwaith Ariannol Amlflwydd cyntaf ar gyfer 27 aelod-wladwriaeth yr UE wedi i’r DU adael yr UE, a bydd yn rhoi darlun da o gyfeiriad polisi tebygol yr UE dros y saith mlynedd nesaf.

12 Mehefin 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y cefndir

Ar 2 Mai 2018,  cyflwynodd y Comisiwn Ewropeaidd ei gynigion (PDF 3,671KB)  ar gyfer cyllideb hirdymor nesaf yr UE, sef y  Fframwaith Ariannol Amlflwydd (MFF),  a fydd ar waith rhwng 2021 a 2027. Hwn fydd y Fframwaith Ariannol Amlflwydd cyntaf ar gyfer 27 aelod-wladwriaeth yr UE  wedi i’r DU adael yr UE, a bydd yn rhoi darlun da o gyfeiriad polisi tebygol yr UE dros y saith mlynedd nesaf.

Er y rhagwelir y bydd y DU wedi gadael yr UE erbyn i’r MFF newydd ddod i rym, mae’n bosibl y bydd cynllun cyllideb yr UE yn dal yn arwyddocaol i Gymru. Y rheswm am hyn yw y bydd yn sail i’r rhaglenni hynny y mae’r DU wedi dweud y byddai, o bosibl, am fod yn rhan ohonynt ar ôl gadael yr UE, fel Horizon ac Erasmus +. Bydd hefyd yn rhoi syniad i sefydliadau a phobl y DU am yr hyn y byddent wedi gallu ei hawlio o dan bolisïau a rhaglenni’r UE pe baent wedi aros yn rhan o’r UE. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd, yn ystod ymgyrch y refferendwm ar yr UE, cafwyd ymrwymiadau ynghylch cadw rhai lefelau cyllido’r un fath yn ystod y cyfnod ar ôl gadael yr UE. Bydd yr MFF felly, yn dangos faint o gyllid y byddai angen i Lywodraeth y DU ei darparu i gyfateb i’r hyn y byddai wedi bod ar gael fel aelod o’r UE.

Effaith gadael yr UE

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnig (PDF 3,671KB)  mai €1,279 biliwn yw cyfanswm y gyllideb sydd ei angen ar gyfer yr MFF nesaf. Mae hyn yn cyfateb i 1.114% o incwm cenedlaethol gros 27 aelod-wladwriaeth yr UE. Yn ei gynigion, dywed y Comisiwn fod hyn yn debyg i faint Fframwaith Ariannol presenol 2014-2020 mewn termau real (gan gynnwys y Gronfa Datblygu Ewropeaidd, sydd ar wahân i gyllideb yr UE ar hyn o bryd,  ond a fydd yn cael ei chynnwys ynddi o 2021 ymlaen (PDF 3,671KB) .

Fodd bynnag, er y gall yr ymrwymiadau cyllidebol arfaethedig fod yn debyg i yrwymiadau’r MFF presennol, rhaid cofio y bydd yr UE, a fydd yn cynnwys 27 aelod-wladwriaeth cyn bo hir, yn colli cyfraniad net y DU. Bydd yr UE yn wynebu bwlch ariannol strwythurol o tua €12 – €13 biliwn wedi i’r DU adael yr UE,  yn ôl Günther Oettinger, Comisiynydd Cyllideb yr UE. Wrth baratoi’r cynigion ar gyfer MFF 2021-2027, nododd y Comisiwn ei fod yn derbyn hynny :

The withdrawal of the United Kingdom from the Union will mean the loss of a significant contributor to the financing of the Union’s policies and programmes. This will require us to take a critical look at where savings can be made and priorities delivered more efficiently.

Mae’r Comisiwn yn bwriadu mynd i’r afael â’r bwlch cyllido hwn (PDF 3,671KB)  drwy gyfuniad o gyfraniadau ac arbedion ychwanegol:

The departure of an important contributor to the EU budget will have a financial impact and the future Financial Framework must take account of that. Maintaining a level of support that matches our ambitions across the priority areas will require additional contributions from all Member States in a fair and balanced way. In parallel, no effort must be spared to make the EU budget more efficient. The Commission is proposing savings in some of the main spending areas and reforms across the budget to make it more streamlined and to get the most from every euro.

Mae’r Comisiwn hefyd yn cynnig (PDF 3,671KB) defnyddio nifer o ffynonellau cyllido eraill,  gan gynnwys:

  • 20% o’r refeniw o’r System Masnachu Allyriadau;
  • cymhwyso cyfradd o 3% i’r Sylfaen Drethu Gorfforaethol Gyfunol newydd (i’w gyflwyno fesul cam unwaith y bydd y ddeddfwriaeth angenrheidiol wedi’i fabwysiadu);
  • cyfraniad cenedlaethol yn seiliedig ar faint o wastraff pecynnu plastig na chaiff ei ailgylchu ym mhob Aelod-wladwriaeth (0.80 € y kilo)

Arwyddocâd hyn i Gymru

Rhagwelir y bydd y DU wedi gadael yr UE erbyn i’r MFF nesaf ddod i rym. Fodd bynnag, gall cyllideb hirdymor yr UE fod yn berthnasol i Gymru a’r DU, am y ddau reswm a amlinellwyd yn y cyflwyniad i’r erthygl hon.

Cyllid ar gyfer rhaglenni’r UE

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (PDF 1,782KB)  wedi dweud eu bod yn awyddus i barhau i fod yn rhan o rai o raglenni’r UE ar ôl Brexit, gan gynnwys Erasmus + a Horizon Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd y DU yn parhau i fod yn rhan o raglen Ewrop Greadigol. Wrth gytuno ar MFF 2021-2027, rhaid pennu’r gyllideb a gwneud cynigion ynghylch cynllun a swyddogaeth rhaglenni presennol yr UE a’r rhaglenni newydd.  Mae cynigion y Comisiwn ar gyfer y gyllideb hirdymor nesaf nid yn unig yn rhoi syniad o sut y caiff rhaglenni’r UE eu hariannu dros y saith mlynedd nesaf, ond gallant hefyd roi rhywfaint o syniad o allu’r DU i gymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar ôl Brexit, yn ogystal â’r gost o wneud hynny.

Er enghraifft, ar 30 Mai, cyflwynodd y Comisiwn ei gynnig ar gyfer rhaglen Erasmus 2021-2027 (PDF 792KB) . Mae’r cynnig hwn yn cynnwys newidiadau i erthygl 24 yn y system bresennol (2014-2020) sy’n gwahardd gwledydd rhag cymryd rhan yn Erasmus os nad ydynt yn un o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, wedi’u derbyn i fod yn aelod-wladwriaeth, yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop neu wedi’u cynnwys o dan Bolisi Cymdogaethol Ewrop. Mae cynigion y Comisiwn ar gyfer y saith mlynedd nesaf yn cynnwys categori newydd o wledydd y tu allan i’r UE y caniateir iddynt fod yn rhan o raglen Erasmus. Mae’r Comisiwn yn cynnig i’r rhaglen fod yn agored i wledydd yn y categori hwn ar yr amod bod unrhyw gytundeb yn sicrhau cydbwysedd teg o ran cyfraniad y gwledydd hyn a’r manteision a gânt o’r rhaglen. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu y byddai’r DU yn gallu talu i fod yn rhan o’r rhaglen.

Mae’r Comisiwn yn cynnig (PDF 792KB)  ‘rhaglen Erasmus fwy pwerus’ a fydd yn werth €30 biliwn dros y cyfnod o saith mlynedd. Hynny yw, bydd yn dyblu’r cyllid ar gyfer y rhaglen.

Fel rhan o’r MFF nesaf, mae’r Comisiwn hefyd yn gweithio ar ei gynnig (PDF 3,671KB)  ar gyfer Horizon Ewrop, y rhaglen fframwaith a fydd yn olynu Horizon 2020. O gofio y bydd  cyllideb arfaethedig y rhaglen cymaint â €97.9 biliwn, hon fyddai’r rhaglen fwyaf erioed ar gyfer ariannu ymchwil ac arloesi yn y UE.

Ffrydiau cyllido yn y DU ar ôl Brexit

Fel y soniwyd ar ddechrau’r erthygl hon, mae cynigion cyllideb yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn rhoi syniad i sefydliadau a phobl y DU o’r arian a fyddai wedi bod ar gael pe na bai’r DU wedi penderfynu gadael yr UE. Er enghraifft, bydd yr MFF newydd yn pennu cyfanswm yr arian a ddyrennir i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), Cronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Gall y rhai sy’n ymwneud â busnes a diwydiant yng Nghymru a gweddill y DU ddefnyddio’r swm hwn fel meincnod i asesu a yw’r cyllid a gânt gan Lywodraeth y DU ar ôl Brexit yn debyg i’r hyn y byddent wedi gallu ei gael fel aelod o’r UE.

O ran cymorth ariannol i ffermwyr, er enghraifft, mewn araith yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen ar 5 Ionawr 2018 dywedodd Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fod Llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd y swm a ddyrennir i gynorthwyo ffermwyr – mewn termau arian parod – yn cael ei ddiogelu tan ddaw’r Senedd hon i ben yn 2022. Mewn llythyr at Is-bwyllgor Ynni a’r Amgylchedd Tŷ’r Cyffredin ar 11 Medi 2017, dywedodd George Eustice AS, Gweinidog Gwladol Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd, fod ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu’r un cymorth ariannol i ffermwyr tan 2022, wedi’i seilio ar yr cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd o dan MFF 2014-2020.

Amser a ddengys beth y mae’r ymrwymiadau hyn yn ei olygu o ystyried cynnig y Comisiwn Ewropeaidd  i leihau taliadau PAC uniongyrchol i ffermwyr ryw ychydig o dan yr MFF newydd, o 2021 ymlaen.  Wrth gyflwyno’i gynigion ar gyfer y MFF nesaf, dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd :

By moderately reducing funding in Common Agricultural Policy and Cohesion Policy programmes, the proposal also responds in a fair and balanced way to the budgetary consequences of the withdrawal of the United Kingdom, an important contributor to the EU budget.

Ar 1 Mehefin 2018 – fel rhan o gynigion yr MFF – cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei gynlluniau strategol ar gyfer y PAC  rhwng 2021 a 2027. Yn ôl y cynigion hyn, bydd gan y PAC diwygiedig gronfa gwerth €365 biliwn i’w rheoli  dros y cyfnod o saith mlynedd, sy’n ostyngiad o 5% o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol. Mae’r Comisiwn wedi cynnig lleihau ac yna capio’r taliadau uniongyrchol i ffermwyr i €60,000 i bob fferm (gan ystyried llafur). Fodd bynnag, mae’r Comisiynydd Ewropeaidd dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Phil Hogan, wedi dweud na fydd taliadau uniongyrchol yn gostwng mwy na 4 y cant mewn unrhyw aelod-wladwriaeth.

Beth nesaf?

Ar ôl datgelu ei gynigion ar gyfer MFF 2021-2027, rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd wneud cyfres o gynigion deddfwriaethol ar gyfer sectorau penodol yn y meysydd a ganlyn: datblygu a chydlyniad rhanbarthol; buddsoddi mewn pobl, cydlyniant cymdeithasol, gwerthoedd; Undeb economaidd ac ariannol; amaethyddiaeth, yr amgylchedd a’r hinsawdd. Bydd hyn yn digwydd rhwng 29 Mai a 14 Mehefin. Yna, rhaid i Gyngor Gweinidogion Ewrop fabwysiadu rheoliad yr MMF, ac yna’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â sectorau penodol, yn unfrydol, ar ôl cael caniatâd Senedd Ewrop. Nod y Comisiwn Ewropeaidd  yw cytuno ar yr MFF newydd erbyn etholiad Senedd Ewrop yn 2019.


Erthygl gan Alastair Grey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Alastair Gray gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), wrth baratoi’r erthygl hon.

Ffynhonnell: Llun Flickr gan Images Money. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.