Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr: a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i dyfu diwydiant y sgrin ddomestig?

Cyhoeddwyd 14/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd y blog hwn ei ddiweddaru ar 14 Mehefin 2018 ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi adroddiad ar berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood.

Mae'r degawd diwethaf wedi gweld twf mawr yn y sector cynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru, ac ar draws y DU yn gyffredinol. Dros y cyfnod hwn mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn seilwaith - megis stiwdios ffilm a theledu - ac mewn prosiectau cyfryngau mawr, ar yr amod bod llawer iawn o'u costau cynhyrchu yn cael eu gwario yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod hyn wedi annog cwmnïau cynhyrchu mawr i ffilmio yng Nghymru: ond a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gefnogi diwydiant sgrin cynhenid Cymru?

Tyfiant mawr, o sylfaen isel

Ers 2006, mae twf yn y diwydiannau sgrin wedi bod yn sylweddol gyflymach yng Nghymru nag ar draws y DU; er ei fod o sylfaen sylweddol is. Fodd bynnag, mae cyfran y sector yng Nghymru yn gymharol fach o hyd o sector y DU gyfan o ystyried maint y boblogaeth.

Gwerth ychwanegol gros cynyrchiadau rhaglenni ffilm, fideo a theledu yng Nghymru a'r DU

  • Ers 2006, mae gwerth ychwanegol gros y sector cynyrchiadau ffilm, fideo a rhaglenni teledu yng Nghymru wedi tyfu o £56 miliwn i £187 miliwn yn 2016. Mae hyn yn gynnydd o 334 y cant.
  • Yn y DU gyfan, mae gwerth ychwanegol gros yn y maes hwn wedi cynyddu o £6.7 biliwn yn 2006 i £9.5 biliwn yn 2016. Mae hyn yn gynnydd o 42 y cant.
  • Rhwng 2006 a 2016, mae gwerth ychwanegol gros Cymru yn y maes hwn wedi cynyddu o 0.8 y cant o gyfanswm y DU i 1.8 y cant.

Buddsoddiadau Llywodraeth Cymru

Mae Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau gwerth £30 miliwn Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid masnachol (benthyciadau a grantiau) ar gyfer cynyrchiadau'r cyfryngau, ar yr amod y byddant yn ffilmio ac yn gwario yng Nghymru. Ers mis Tachwedd 2017, roedd y Llywodraeth wedi buddsoddi £12 miliwn mewn prosiectau ffilm a theledu drwy'r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, ac wedi adennill £3.7 miliwn Mae'r Llywodraeth wedi nodi nad yw'r holl brosiectau hyn wedi cyrraedd rhyddhad sinematig, ac mae'n disgwyl parhau i gael cyfran o'r elw am o leiaf ddeng mlynedd arall.

Mae'r Llywodraeth hefyd wedi ceisio gwella'r seilwaith ar gyfer gwneud ffilm a theledu yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn stiwdios. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Stiwdio Blaidd Cymru: mae stiwdios y cwmni cynhyrchu Bad Wolf yng Nghaerdydd wedi'u caffael gan Lywodraeth Cymru, ac fe'u prydlesir ar delerau masnachol i Bad Wolf.
  • Stiwdios Pinewood Cymru: Yn 2015, dechreuodd y cwmni ffilm brydles 15 mlynedd ar warws sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Cafodd y telerau eu hailnegodi, a dechreuwyd Cytundeb Gwasanaethau Rheoli newydd ar 1 Tachwedd 2017. Amcangyfrifir fod cost net flynyddol y Cytundeb Gwasanaethau Rheoli i Lywodraeth Cymru yn £392,000 (yn ogystal â ffi reoli flynyddol ychwanegol i Pinewood). Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw’r rhagolygon ariannol hyn yn cynrychioli gwerth da am arian. Roedd perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood yn destun adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin.
  • Datblygu stiwdios Porth y Rhath lle mae'r BBC yn gwneud cynyrchiadau drama megis Dr Who, Casualty a Pobol y Cwm.

Cafodd cwmni cynhyrchu Bad Wolf ei ffurfio yn 2015 gan ddefnyddio benthyciad o £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Bad Wolf yn dweud bod y buddsoddiad cyhoeddus hwn wedi helpu i sefydlu angor, cwmni cynhyrchu a chyfleusterau ar raddfa arwyddocaol a hanes ac uchelgais o safon fyd-eang, a allai helpu i greu diwydiant cynaliadwy yng Nghymru. Dywed Bad Wolf ei fod wedi creu 245 o swyddi mewn tair blynedd, sicrhau £13 miliwn mewn buddsoddiad preifat i Gymru, a sicrhau cyllidebau cynhyrchu o £134 miliwn ar gyfer y dyfodol.

A yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn rhy 'fasnachol'?

Mae'r tystion i ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Gynyrchiadau Ffilm a Theledu Mawr wedi cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i dyfu diwydiant sgrin cynhenid Cymru. Cred Ffilm Cymru - a arennir yn bennaf gan y loteri ac sy'n ceisio datblygu'r sector ffilm yng Nghymru - fod y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, sydd â natur fasnachol, yn naturiol yn canolbwyntio'n fwy ar fewnfuddsoddiadau a chynyrchiadau ar raddfa fawr sy’n para am amser hir, yn hytrach nag adeiladu sector sgrin Cymru o'r gwaelod i fyny.

Nododd Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi cael llwyddiant eithaf rhesymol yn dod â mewnfuddsoddiad i Gymru a chael llif o gyfleoedd ar gyfer sgiliau a chyflogaeth.

Roedd Roger Williams o Joio - un o'r ychydig gwmnïau Cymreig a gafodd arian o'r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, ar gyfer drama drosedd ddwyieithog BANG - yn disgrifio'r broses o wneud cais am gyllid o'r Gyllideb fel 'anhygoel o rwystredig'. Dywedodd nad oedd y dosbarthwyr a'r cyfreithwyr a oedd yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad erioed wedi dod ar draws cytundeb mwy cyfyngedig. Dywedodd Ed Talfan o Severn Screen, cynhyrchydd drama drosedd ddwyieithog Y Gwyll/Hinterland, fod telerau'r Gyllideb yn rhy 'feichus' i bartïon eraill sy'n ymwneud â chyllido ei gynhyrchiad, felly roedd wedi oedi cyn gwneud cais.

Mae'r Pwyllgor wedi clywed nifer o awgrymiadau ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r diwydiant lleol yn well. Mae'r cwmnïau cynhyrchu o Gymru megis Truth Department a Cynhyrchiadau ie ie yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer cynyrchiadau llai na'r rhai a all wneud cais ar hyn o bryd i'r Gyllideb, yn seiliedig ar eu gwerth diwylliannol yn ogystal â'u gwerth economaidd.

Gofynnodd eraill - megis Paul Higgins o Dragon DI ac Ed Talfan o Severn Screen - y cwestiwn a ddylai amod gael ei atodi i gyllid y Gyllideb fod cwmnïau cynhyrchu mawr sy'n derbyn arian yn cyd-gynhyrchu gyda chwmnïau cynhyrchu lleol llai. Awgrymodd yr actor Julian Lewis Jones a'r cyfarwyddwr Euros Lyn y dylai arian fod yn amodol ar gyflogi cast neu uwch-aelodau o'r criw o Gymru. Cred undeb y perfformwyr Equity y dylid gorfodi cwmnïau cynhyrchu i ymchwilio i gastio'n lleol.

'Yn bendant ddim' digon o arbenigedd o fewn Llywodraeth Cymru

Mae'r sgyrsiau hyn yn digwydd ar adeg o newid yn strategaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd ei chynllun economaidd newydd, Ffyniant i bawb, ym mis Rhagfyr 2017. Mae hyn yn gweld Llywodraeth Cymru yn symud i ffwrdd o'i hymagwedd 'sectoraidd' flaenorol, lle roedd yn ceisio tyfu naw sector blaenoriaeth, lle roedd un ohonynt y diwydiannau creadigol. Rhwng 2006 a 2015, cynyddodd gwerth ychwanegol gros y diwydiannau creadigol 23.4 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â thwf cyfartalog ar draws pob diwydiant o 9.6 y cant.

O dan y dull sectoraidd, cafodd Llywodraeth Cymru gyngor gan Banel y Sector Diwydiannau Creadigol, dan arweiniad Ron Jones, cadeirydd a sylfaenydd Tinopolis. Holwyd Natasha Hale o Bad Wolf - a oedd mewn uwch-rôl yn nhîm diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru yn flaenorol - a fyddai gan Lywodraeth Cymru ddigon o gyngor mewnol pe bai'r panel hwn yn dirwyn i ben, a dywedodd 'yn bendant ddim'.

Nid ydym yn gwybod pa sgiliau nad oes gennym

Mae'r Pwyllgor wedi clywed - gan dystion gan gynnwys y BBC a Bad Wolf - mai'r ffactor mwyaf sy'n cyfyngu ar dwf yn y diwydiannau sgrin yng Nghymru yw prinder sgiliau posibl. Nododd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, raddfa'r cyfle: “Because of the growth in high-end television across the world, because of the emergence of new players like Amazon and Apple and Netflix, the demand for high-end television skills is at an unprecedented level”.

Rhybuddiodd Natasha Hale y Pwyllgor, os bydd yn parhau i dyfu gormod heb ddatblygu talent a sgiliau, y bydd yn rhoi'r gorau i allu darparu ar gyfer y diwydiant. Nid yw graddfa unrhyw brinder sgiliau yn hysbys. Eglurodd Dr Ruth McElroy o Brifysgol De Cymru mai un o'r problemau mawr yw nad oes data sylfaenol da ar gael.

Cyfle byd-eang

Mae pob arwydd yn cyfeirio at y ffaith y bydd y cynnydd enfawr yn y defnydd o gynnwys fideo ar ddyfeisiadau electronig yn parhau i yrru twf yn y diwydiannau sgrin yn rhyngwladol. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn ystyried sut y dylai Llywodraeth Cymru gydbwyso mewnfuddsoddiad, twf cynhenid a chymorth sgiliau yn y ffordd orau i sicrhau bod Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle byd-eang hwn.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Nominal and real GVA by industry (2017)