Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymunedau

“Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun”: Cymru a’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang

Mae gan y byd y lefelau uchaf o ddadleoli pobl erioed, ac amcangyfrifir bod 65.6 miliwn o bobl wedi'u gorfodi i adael eu cartrefi ar hyn o bryd. Bydd Wythnos y Ffoaduriaid (18-24 Mehefin) yn cael ei nodi yn y Cynulliad gyda datganiad gan Julie James AC, Arweinydd y Tŷ, ddydd Mawrth 19 Mehefin. Ym mis Ebrill 2017, gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ystod o argymhellion i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn ei adroddiad, sef Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun. Mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â nifer o'r argymhellion, tra bo eraill yn dal i fynd rhagddynt.

15 Mehefin 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae gan y byd y lefelau uchaf o ddadleoli pobl erioed, ac amcangyfrifir bod 65.6 miliwn o bobl wedi’u gorfodi i adael eu cartrefi ar hyn o bryd.

Bydd Wythnos y Ffoaduriaid (18-24 Mehefin) yn cael ei nodi yn y Cynulliad gyda datganiad gan Julie James AC, Arweinydd y Tŷ, ddydd Mawrth 19 Mehefin.

Ym mis Ebrill 2017, gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ystod o argymhellion i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn ei adroddiad, sef Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun. Mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â nifer o’r argymhellion, tra bo eraill yn dal i fynd rhagddynt.

Graff sy'n dangos cyfrannau ffoaduriaid a gynhelir gan Affrica (30%), y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (26%), Ewrop (17%), Cyfandiroedd America (16%) ac Asia a'r Pasiffig (11%).

Cynllun gweithredu ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chynllun gweithredu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ar 22 Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu ffoaduriaid a cheiswyr lloches drafft, o’r enw Cenedl Noddfa. Cynhelir yr ymgynghoriad tan 25 Mehefin. Mae’n cynnwys cynigion (ymysg eraill) i sicrhau’r canlynol:

  • bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i ddechrau integreiddio i gymdeithas Cymru o’r diwrnod cyntaf;
  • y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael mynediad at wasanaethau iechyd (gan gynnwys iechyd meddwl) sydd eu hangen arnynt trwy gydol y ‘siwrnai loches’. Mae hyn yn cynnwys asesiadau iechyd wrth gyrraedd ac yn ystod y cyfnodau gwasgaru ac wedi trawma;
  • nad yw ceiswyr lloches yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gynlluniau Llywodraeth Cymru a fyddai’n eu helpu i integreiddio;
  • bod ffoaduriaid newydd yn llai tebygol o wynebu amddifadedd, a
  • bod pob ffoadur a cheisiwr lloches (yn enwedig plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches) yn cael eu diogelu’n briodol ac yn gallu cael gafael ar gefnogaeth eirioli.

Tai

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth am lety o ansawdd gwael a ddarparwyd i geiswyr lloches a oedd yn aros am ganlyniadau eu ceisiadau lloches. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau brys â’r Swyddfa Gartref i ddiwygio’r system llety lloches cyn y broses o adnewyddu contract yn 2019. Argymhellodd hefyd y dylai landlordiaid ceiswyr lloches fod yn rhan o gynllun cofrestru, naill ai fel estyniad i gynllun Rhentu Doeth Cymru neu i gyd-fynd ag ef.

Mae gan y cynllun gweithredu drafft ystod o ymrwymiadau ynghylch gwella llety ceiswyr lloches. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflwyno:

  • cyfundrefn archwilio eiddo’n rheolaidd a chyhoeddi safonau gwasanaeth ac amseroedd ymateb ar-lein, a phroses gwyno annibynnol;
  • cronfa ddata ganolog o eiddo llety lloches a rennir ag awdurdodau lleol sydd â’r hawl i archwilio eiddo gyda’r rhybudd lleiaf;
  • llety priodol i gefnogi deiliaid mwy agored i niwed, megis plant ar eu pen eu hunain, menywod beichiog, teuluoedd, unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT), pobl anabl a’r rhai sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, a
  • gofyniad i’r holl landlordiaid eiddo a ddefnyddir ar gyfer llety ceiswyr lloches fod yn bobl addas a phriodol.

Gwiriadau ‘Hawl i Rentu’

Galwodd y Pwyllgor hefyd am asesiad o wiriadau ‘Hawl i Rentu’ Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd gan Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid wirio statws mewnfudo tenantiaid posibl. Dywedodd tystion wrth y Pwyllgor y gallai’r gwiriadau arwain at wahaniaethu yn erbyn gwladolion tramor.

Canfu ymchwil ddiweddar fod 51 y cant o’r landlordiaid a holwyd yn dweud y byddai’r cynllun yn eu gwneud yn llai tebygol o ystyried gosod eiddo i wladolion tramor. Caiff her gyfreithiol o’r rheolau ei gwrando yn yr Uchel Lys y mis hwn.

Nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr asesiad hwn, ac mae’n dal i fod yn aneglur pryd caiff y gwiriadau ‘Hawl i Rentu’ eu cyflwyno yng Nghymru.

Cyngor ac iechyd

Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor cyfreithiol digonol; gwybodaeth reolaidd i atgoffa am bwysigrwydd sgrinio iechyd yn ogystal â chymorth i bobl fynd i gael eu sgrinio; a chymorth iechyd meddwl i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Argymhellodd hefyd sicrhau’r isafswm safonau cymorth iechyd meddwl i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches gyda thrawma.

Dechreuodd Rhaglen Hawliau Lloches gwerth £1m Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2017, a gyflwynwyd gan gonsortiwm dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae’n cynnwys cyngor ac eiriolaeth, cyngor cyfreithiol, cymorth i oroeswyr trais neu fasnachu pobl, a chymorth arbenigol i blant.

Mae’r cynllun gweithredu drafft yn cynnig ystod o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran iechyd, gan gynnwys:

  • datblygu cynlluniau gwirfoddol a mentora sy’n gwrthwynebu ynysu ac iselder i’r rhai sy’n byw mewn llety gwasgaredig;
  • sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn gallu diwallu anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn modd amserol ac effeithiol trwy adolygu’r Llwybr Gofal Iechyd Meddwl a’r canllawiau cysylltiedig erbyn mis Rhagfyr 2020;
  • gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ceiswyr lloches sydd mewn Llety Cychwynnol yn cael eu hannog i gael eu sgrinio ar gyfer iechyd a chael cymorth i gofrestru ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol pan gânt eu gwasgaru i lety arall, a
  • diweddaru’r Pecyn Cymorth Cwnsela erbyn Gwanwyn 2019, i dynnu sylw at y ffaith ei bod yn fwy tebygol bod plant/pobl ifanc sy’n ceisio lloches neu’n ffoaduriaid wedi bod trwy brofiadau arbennig o drawmatig.

Cronfa amddifadedd

Gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru greu cronfa grantiau bach i geiswyr lloches a phobl heb hawl i arian cyhoeddus.

Mae’r cynllun drafft yn cynnig hyrwyddo prosesau newydd i alluogi ffoaduriaid newydd [nid ceiswyr lloches] i gael mynediad at y Gronfa Cymorth Dewisol cyn cael rhifau Yswiriant Gwladol yn ystod 2018.

Ym mis Rhagfyr 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei bod wedi gweithio gyda’r Groes Goch Brydeinig, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a phartneriaid eraill i drafod opsiynau ar gyfer cronfa argyfwng amddifadedd i geiswyr lloches yng Nghymru ac mae’r sgyrsiau hyn yn parhau.

Plant sydd ar eu pen eu hunain

Dywedodd llawer o dystion wrth y Pwyllgor fod angen Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i blant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain yng Nghymru. Mae gwarcheidiaeth yn ffordd ragweithiol o gynrychioli anghenion plant, lle mae eiriolaeth yn adweithiol.

Tynnodd Plant yng Nghymru sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o’r blaen i ymchwilio i’r potensial ar gyfer y fath wasanaeth yn 2008.

Argymhellodd y Pwyllgor sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth, ac mae’r cynllun gweithredu drafft, eto, yn ymrwymo i drafod opsiynau i ddatblygu gwasanaeth ‘Gwarcheidiaeth’ i helpu plant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain i lywio’r system ceisio lloches.

Cyflogaeth ac addysg

Roedd y Pwyllgor yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at addysg a chyflogaeth, gan gynnwys helpu ffoaduriaid i gael cydnabyddiaeth am eu cymwysterau blaenorol.

Mae’r cynllun gweithredu drafft yn cynnig comisiynu ymchwil ar gyflogadwyedd ffoaduriaid, a sicrhau bod anghenion ffoaduriaid yn cael eu hystyried yn y Cynllun Cyflogadwyedd. Mae hefyd yn ymrwymo i “[dd]iweddaru’r polisi Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i Gymru yn ystod 2018”.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonell: Llun o UNHCR