Chwa o awyr iach? Ansawdd aer yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 19/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae dydd Iau, 21 Mehefin yn Ddiwrnod Aer Glân. I nodi’r diwrnod, ar 20 Mehefin bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar ansawdd aer.

Mewn mannau yng Nghymru y mae’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Yng Nghaerdydd a Phort Talbot mae lefelau gronynnol uwch nag a geir ym Mirmingham a Manceinion, a ffordd yng Nghaerffili yw’r mwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Mae’r llygredd aer hwn yn ffactor sy’n cyfrannu tuag at oddeutu 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei ddisgrifio fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys, a dim ond ysmygu sy’n uwch nag ef ar y raddfa hon. Mae rhai ardaloedd wedi torri Rheoliadau’r UE ers sawl blwyddyn, ac mae hyn wedi arwain at ddwyn Llywodraeth Cymru i’r llys am ei diffyg gweithredu. Yn wahanol i’r Alban, sydd â’i Strategaeth Ansawdd Aer a’i therfynau llygredd is ei hun , mae’r strategaeth ansawdd aer yng Nghymru wedi ei phennu’n bennaf ar sail Rheoliadau’r UE, a’i darparu gan awdurdodau lleol.

Ar 24 Ebrill, gwnaeth Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ansawdd aer. Dywedodd bod darparu aer glân yng Nghymru yn un o’i blaenoriaethau allweddol. Amlinellodd nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd aer. Mae crynodeb o’r rhain isod.

Polisi Cynllunio Cymru

Dywedodd y Gweinidog wrth y Cynulliad fod Polisi Cynllunio Cymru wedi’i ailysgrifennu a’i ailstrwythuro yn ddiweddar ar sail egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae fersiwn newydd y polisi yn cynnwys adran ar ansawdd aer a synau. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 18 Mai a disgwylir i’r Polisi Cynllunio newydd gael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

Rhaglen Aer Glân i Gymru

Dywedodd y Gweinidog y bydd yn cyflwyno Rhaglen Aer Glân i Gymru i ystyried tystiolaeth, i ddatblygu camau gweithredu a’u rhoi ar waith, sy’n ofynnol ar draws adrannau a sectorau Llywodraeth Cymru i sicrhau aer glân. Nôd y Rhaglen yn gyntaf fydd cydymffurfio â chyfrifoldebau ansawdd aer presennol. Dywedodd fod pwrpas ehangach y Rhaglen yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio â chyfraith, a’i nod fydd lleihau baich ansawdd aer gwael ar iechyd dynol a’r amgylchedd.

Cynllun Aer Glân

Bydd y Cynllun Aer Glân yn elfen graidd o’r Rhaglen Aer Glân i Gymru. Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi, ar gyfer ymgynghori yn ei gylch, erbyn diwedd 2018. Dywedodd y bydd yn:

  • Nodi’n fanylach sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu gwelliannau o ran ansawdd aer a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at nodau lles;
  • Nodi camau traws-lywodraethol a chamau ar gyfer sectorau, sy’n ofynnol i sicrhau aer glân;
  • Nodi’r camau o ran cyfathrebu, ymgysylltu ac addysg sydd eu hangen i annog newid ymddygiadol; a
  • Chynnwys camau gweithredu i gryfhau dulliau rheoleiddio allyriadau gan wahanol sectorau o ddiwydiant.

Canolfan Monitro ac Asesu Ansawdd Aer

Cydran arall o’r Rhaglen fydd sefydlu Canolfan Monitro ac Asesu Ansawdd Aer yn 2019. Dywedodd y Gweinidog y sefydlir y Ganolfan i sicrhau bod penderfyniadau ar fynd i’r afael â llygredd yn yr awyr yn seiliedig ar dystiolaeth, a bod camau cysylltiedig yn cael eu blaenoriaethu er mwyn sicrhau y ceir y manteision gorau posibl o ran iechyd a lles y cyhoedd.

Fframwaith Parth Aer Glân

Ar 25 Ebrill, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Hymgynghoriad ar Fframwaith Parth Aer Glân i Gymru drafft. Mae’r Parth Aer Glân yn ardal ddaearyddol ddiffiniedig lle gellir cymhwyso amrywiaeth o gamau gweithredu gyda’r nod o leihau’n sylweddol amlygrwydd y cyhoedd a’r amgylchedd i lygryddion ar y cyd. Mae’r Fframwaith yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu Parthau Aer Glân yn gyson, sut y dylid eu sefydlu a pha welliannau iechyd y dylent eu cyflawni. Bydd y model arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i rai cerbydau sy’n defnyddio’r ffyrdd fodloni’r Safonau Allyriadau Ewropeaidd diweddaraf er mwyn gallu teithio o fewn Parth Aer Glân. Dywedodd y Gweinidog y gellid gwneud hyn drwy gyflwyno cyfyngiadau mynediad (fel, gwaharddiadau neu daliadau) ar gyfer y cerbydau sy’n llygru fwyaf.

Gwefan Ansawdd Aer Cymru

Yn fuan ar ôl y datganiad, ail-lansiodd y Gweinidog y Wefan Ansawdd Aer Cymru. Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth am ansawdd aer gan gynnwys gwybodaeth fyw am lefelau llygredd aer cyfredol a rhagolygon, yn ogystal â data hanesyddol.

Crynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd

Y diwrnod ar ôl y datganiad cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai’n ymgynghori ar ei chynllun atodol i gynllun y DU ar gyfer mynd i’r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid (NO2) ar ymylon ffyrdd. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau crynodiadau NO2 o ran y ffyrdd lle mae lefelau yn uwch na’r cyfyngiadau cyfreithiol. Nid oedd rhan flaenorol Cymru o’r cynllun yn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Ansawdd Aer Amgylcheddol a’r Rheoliadau yng Nghymru a oedd yn gysylltiedig â hi. Dywedodd y Gweinidog fod yr ymgynghoriad a’r cynllun diwygiedig cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun cydymffurfio terfynol erbyn 31 Gorffennaf 2018.

Mae rheoli gormodedd o NO2 ar y draffordd a’r rhwydwaith cefnffyrdd yn gyfrifoldeb uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Yn ei datganiad, amlinellodd y Gweinidog y caiff nifer o gyfyngiadau cyflymder o 50 milltir yr awr a marciau ffordd i lyfnhau llifoedd traffig eu cyflwyno (erbyn diwedd mis Mehefin) lle mae lefelau N02 yn uwch na chyfyngiadau’r Gyfarwyddeb. Bydd y rhain yn cael eu gweithredu yn y lleoliadau a ganlyn:

  • A494 yng Nglannau Dyfrdwy;
  • A483 ger Wrecsam;
  • M4 rhwng cyffordd 41 a chyffordd 42;
  • M4 rhwng cyffordd 25 a chyffordd 26 (yn ystod y nos, gan ddefnyddio’r seilwaith cyfyngder cyflymder newidiol presennol); a’r
  • A470 rhwng Upper Boat a Phontypridd.

Cronfa Ansawdd Aer

Y cyhoeddiad terfynol yn y datganiad oedd y byddai dros £20 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer Cronfa Ansawdd Aer hyd at 2021. Bwriedir i’r gronfa helpu i gyflymu graddfeydd cydymffurfio â chyfyngiadau NO2  a gwella ansawdd aer. Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai’r gronfa yn cael ei defnyddio i ddarparu cefnogaeth, arweiniad a chyllid parhaus i alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau gweithredu a’u rhoi ar waith, i sicrhau y ceir cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl.

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd aer, darllenwch gyhoeddiad diweddar y Gwasanaeth Ymchwil: Ansawdd Aer yng Nghymru.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru