Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Economi

Gweinidog i wneud datganiad ar strategaeth coetiroedd

Bydd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn gwneud datganiad yn y Cynulliad ar strategaeth coetiroedd ar 26 Mehefin.

21 Mehefin 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn gwneud datganiad yn y Cynulliad ar strategaeth coetiroedd ar 26 Mehefin.

Mewn datganiad blaenorol, ar 17 Ebrill, nododd gynyddu gorchudd coetir fel un o’i phum blaenoriaeth ar gyfer yr amgylchedd, a dywedodd y byddai’n cyflwyno strategaeth coetiroedd wedi’i diweddaru gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf.

Mae Cymru yn un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop gyda dim ond tua 15 y cant o dir y wlad wedi’i orchuddio gan goetir, o’i gymharu â chyfartaledd yr UE o 37 y cant.

Cyhoeddwyd strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru, Coetiroedd i Gymru, yn 2001 a diwygiwyd hi yn 2009. Mae’r strategaeth yn gosod gweledigaeth 50 mlynedd ac mae’n cynnwys pedair thema:

  • ymateb i newid hinsawdd;
  • coetiroedd i bobl;
  • sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig; ac
  • ansawdd amgylcheddol.

Golygfa o darth mewn coedwig gonifferaidd

Yn cyd-fynd â’r strategaeth mae cynllun gweithredu pum mlynedd (2015-2020) sy’n gosod targed uchelgeisiol o 2,000 hectar o blannu newydd y flwyddyn.

5,000 hectar y flwyddyn oedd y targed blaenorol, a oedd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, ac fe’i nodwyd yn Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru (2010) Llywodraeth Cymru.

Yn 2017 edrychodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ar bolisi coetiroedd. Lansiwyd adroddiad yr ymchwiliad, Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2017 ac fe’i trafodwyd yn y Cynulliad ym mis Rhagfyr.

Canfu’r Pwyllgor fod cyfraddau plannu coed yn sylweddol is na’r hyn sydd ei angen i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, ac argymhellodd y dylid diweddaru’r strategaeth goetir fel mater o frys. Pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen cynyddu’r gorchudd coetiroedd er mwyn gwneud y gorau o’r amrywiaeth eang o fanteision economaidd, manteision amgylcheddol a manteision cymdeithasol y gall coetir eu darparu.

Amlygodd hefyd y cyfle i ddod â choedwigaeth fasnachol ac amaethyddiaeth at ei gilydd mewn polisi rheoli tir mwy cydgysylltiedig ar ôl Brexit.

Ymhlith ei argymhellion roedd y canlynol:

  • defnyddio coetir fel offeryn adfywio, gan gynnwys sefydlu cwmni coedwig cenedlaethol i helpu i adfywio cymoedd y De a chynyddu cefnogaeth i grwpiau coetir cymunedol;
  • cynyddu cyfleoedd mynediad i’r cyhoedd ar yr ystâd goetiroedd cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer grwpiau ymylol;
  • hyrwyddo coetir fel ateb naturiol i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, fel suddfannau carbon a thrwy helpu i reoli perygl llifogydd;
  • mynd i’r afael â chyfyngiadau ar goedwigaeth fasnachol a gosod targedau i ddod yn fwyfwy hunangynhaliol o ran cynhyrchu pren;
  • hyrwyddo’r defnydd o bren mewn adeiladu; a
  • chynyddu’r gorchudd coed mewn ardaloedd trefol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 12 o’r 13 argymhelliad gan y Pwyllgor (PDF 239KB),, er, derbyniodd naw mewn egwyddor yn unig.

Ailadroddodd y Pwyllgor ei farn fod angen plannu rhagor o goed yn ei adroddiad blynyddol ar Gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd (PDF 655KB), a gyhoeddwyd ym mis Mai.

Ceir crynodeb o ymchwiliad coetiroedd y Pwyllgor yn y blog a gyhoeddwyd cyn dadl y Cynulliad, a cheir gwybodaeth gefndir gyffredinol yn y cyhoeddiadau a ganlyn gan y Gwasanaeth Ymchwil: Coetiroedd yng Nghymru (PDF 1MB); a Chreu coetir yn y gwledydd Ewropeaidd (PDF 1MB).

Deunydd darllen pellach:

Confor, A Common Countryside Policy: Securing a prosperous green future after Brexit (PDF 790KB)

Confor, Trosolwg infograffig o goedwigaeth yng Nghymru (PDF 2.41MB)

Coed Cadw (Woodlands Trust), Sustainable Land Management: How woods and trees can deliver public goods in Wales

Cyswllt Amgylchedd Cymru, A sustainable land management vision for Wales

NFU Cymru, Vision for a new Domestic Agricultural Policy post-Brexit


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru