Cyhoeddiad newydd: Persbectif Newydd ar Fframweithiau Cyffredin i’r Deyrnas Unedig: y cyfleoedd ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yng Nghymru yn Gynaliadwy

Cyhoeddwyd 22/06/2018   |   Amser darllen munudau

Cafodd y gwaith ymchwil hwn gan Dr Victoria Jenkins, Athro Cyswllt, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, ei gwblhau fel rhan o gynllun cymrodoriaeth Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y papur hwn, mae Dr Victoria Jenkins yn trafod y gofyniad am fframweithiau cyffredin rhwng y DU a llywodraethau datganoledig mewn meysydd polisi amgylcheddol ar ôl Brexit. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar bryderon strwythurol o ran Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yng Nghymru, ac yn defnyddio hynny fel modd o ystyried effaith Fframweithiau Cyffredin i’r DU yn hyn o beth.

Cyhoeddiad newydd:Persbectif Newydd ar Fframweithiau Cyffredin i’r Deyrnas Unedig: y cyfleoedd ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yng Nghymru yn Gynaliadwy (PDF, 1,265KB)

Llun o dirlun mynydd


Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru