Beth yw goblygiadau cynigion diweddaraf y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen Erasmus+ nesaf i Gymru?

Cyhoeddwyd 25/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Y cefndir

Mae gweithredu Erthygl 50 a'r penderfyniad i ymadael â'r UE wedi creu ansicrwydd ynghylch cyfranogiad myfyrwyr, athrawon a sefydliadau'r DU yn rhaglen Erasmus+ yn y dyfodol, sef rhaglen yr UE i gefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ledled Ewrop. Fodd bynnag, mae'r cynigion a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 30 Mai 2018 yn nodi y byddai'r DU yn gymwys i gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ 2021-2027 fel gwlad trydydd parti. Yn adroddiad Llywodraeth Cymru (PDF 2894KB) ar 'Ddiogelu Dyfodol Cymru', nodwyd y bydd y cwestiwn a gaiff y DU barhau i gymryd rhan yn Erasmus+ ai peidio yn fater o bwys i Gymru, gan fod y rhaglen yn ffynhonnell allweddol o gyllid ar gyfer cyfleoedd datblygu addysgol, proffesiynol a phersonol i ddinasyddion Cymru.

Rôl Erasmus+

Mae'r rhaglen gyfredol yn rhedeg o 2014 i 2020, gyda'r nod o wella sgiliau a chyflogadwyedd, yn ogystal â moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid. Mae ei chyllideb o €14.7 biliwn dros gyfnod o saith mlynedd yn rhoi cyfleoedd i ddinasyddion Ewropeaidd astudio, hyfforddi, dilyn profiad gwaith a gwirfoddoli dramor. Mae cyllid lleoliadau ar gael i fyfyrwyr a staff sy'n astudio neu'n gweithio ar draws y sectorau addysg ac ieuenctid. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi partneriaethau rhwng addysg, hyfforddiant a sefydliadau ieuenctid, yn ogystal â phrosiectau chwaraeon ar lawr gwlad.

Erasmus+ yng Nghymru

Mae'r ffigurau diweddaraf o fis Chwefror 2018 yn dangos y dyfarnwyd €507 miliwn i sefydliadau gyflawni prosiectau Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2017. Mae'r cyllid hwn wedi cefnogi 3,829 o brosiectau ar draws ysgolion, addysg uwch, addysg oedolion, addysg a hyfforddiant galwedigaethol a'r sector ieuenctid. Cafodd sefydliadau yng Nghymru €29.3 miliwn i ddarparu 197 o brosiectau ledled y wlad rhwng 2014 a 2017. Yn 2017, dyfarnwyd mwy nag €8.6 miliwn i sefydliadau addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid Cymru, o'i gymharu â €5.1 miliwn yn 2014. Mae hyn yn gynnydd o dros 68 y cant ers dechrau'r rhaglen gyfredol.

Ansicrwydd Brexit

Yn ystod cam cyntaf y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ym mis Rhagfyr 2017 ynghylch Erthygl 50, cadarnhawyd – yn amodol ar y cafeat na fydd dim yn cael ei gytuno nes bod popeth yn cael ei gytuno – y bydd myfyrwyr, addysgwyr a sefydliadau'r DU yn gallu cymryd rhan yn y rhaglen tan ddiwedd cyllideb bresennol yr UE yn 2020. Fodd bynnag, roedd ansicrwydd ynglŷn â beth a fyddai'n digwydd ar ôl 2020, gan fod Erthygl 24 o system bresennol Ersamus+ yn gwahardd gwledydd rhag cymryd rhan yn y rhaglen os nad ydynt yn un o aelod-wladwriaethau’r UE, wedi’u derbyn i ddod yn aelod-wladwriaeth, yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop neu wedi’u cynnwys o dan Bolisi Cymdogaethol Ewrop.

Safbwynt Llywodraeth y DU

Ar 2 Mawrth 2018, nododd Theresa May, Prif Weinidog y DU yn ei haraith yn Mansion House y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio cymryd rhan barhaus ym mhrif rhaglenni'r UE, gan gynnwys rhaglenni addysgol a diwylliannol i hyrwyddo'r gwerthoedd a rennir gennym a gwella ein cryfder deallusol yn y byd. Ar 15 Mawrth, dywedodd Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd:

The Department for Education is the lead Department for Erasmus+ policy, and its officials are in regular touch with the [European Commission’s] Directorate-General for Education, Youth, Sport and Culture.

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei hawydd i weld gwledydd a rhanbarthau'r DU yn parhau i gymryd rhan yn rhaglenni amrywiol yr UE ar ôl Brexit, gan gynnwys y rhaglen a fydd yn olynu Erasmus+ 2014-2020. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad yr adroddiad 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol' (PDF 9727KB), lle nodwyd bod y Pwyllgor “o’r farn bod rôl Erasmus+ o ran gwella profiad myfyrwyr, a meithrin rhagor o gysylltiadau rhwng Cymru ac Ewrop, yn rhywbeth cadarnhaol i’r holl bartïon dan sylw”. Roedd yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi gwybod am hynt y trafodaethau ar barhau i gymryd rhan yn Erasmus+. Ar 16 Mai 2018, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru (PDF 222KB):

Byddwn yn parhau i bwyso'n gryf ar Lywodraeth y DU i ganiatáu cyfranogiad mewn rhai rhwydweithiau a rhaglenni sydd wedi'u lleoli yn yr UE sydd o fudd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol arwyddocaol, yn enwedig ERASMUS+; nid ydym yn gweld rheswm da dros beidio mynd ar ôl trefniant penodol o'r fath, hyd yn oed heb bartneriaeth economaidd lawnach.

Cynnig y Comisiwn Ewropeaidd

Ar hyn o bryd, mae'r Undeb Ewropeaidd wrthi’n ystyried ei dull gweithredu o ran y rhaglen Erasmus+ nesaf, a fydd yn weithredol o fis Ionawr 2021 hyd at 2027. Mae hyn yn rhan o'r broses o gytuno ar gyllideb hirdymor nesaf yr UE. Fel rhan o gynnig Erasmus+ 2021-2027 y Comisiwn Ewropeaidd, a gyflwynwyd ar 30 Mai, roedd addasiad i Erthygl 24 o'r system gyfredol i gynnwys categori newydd ar gyfer cyfranogiad trydydd parti (nad yw'n rhan o'r UE), a fyddai'n galluogi'r DU i gymryd rhan yn y rhaglen. Mae'r Comisiwn yn cynnig i’r rhaglen fod yn agored i drydydd gwledydd gymryd rhan ar yr amod y gellir dod i gytundeb sy'n sicrhau cydbwysedd teg o ran cyfraniad trydydd gwledydd a’r manteision a gânt yn sgil hynny. Mae hyn yn arwain at bosibilrwydd y gallai'r DU dalu i gymryd rhan yn y cynllun. O dan gynigion y Comisiwn, byddai cyfranogiad llawn y DU yn ddarostyngedig i 'gytundeb penodol', a fyddai’n gosod yr amodau ar gyfer cymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys cyfrifo ei chyfraniad ariannol. Fel trydedd wlad, ni fyddai'r DU yn rhan o benderfyniadau ynghylch gweithrediad y rhaglen. Wrth amlinellu ei gynigion, dywedodd y Comisiwn:

There is, in particular, a need to intensify international mobility and cooperation with third countries - in particular enlargement, neighbourhood, industrialised and emerging countries - in order to support institutions and organisations in Europe in facing the challenges of globalisation.

Beth nesaf?

Mae disgwyl i gyfranogiad y DU yn rhaglen Erasmus+ 2021-2027 fod yn rhan o drafodaethau Llywodraeth y DU â'r Comisiwn Ewropeaidd am ei pherthynas â'r UE yn y dyfodol. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan Is-ysgrifennydd Seneddol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd: “no decisions have yet been made about the post-2020 participation, since the scope of that programme has not been agreed”. Gan fod Erasmus+ yn cael ei ariannu drwy gyllideb hirdymor yr UE, sef y Fframwaith Ariannol Amlflynyddol, dim ond wrth i gynigion y Comisiwn gael eu trafod yn Senedd Ewrop y mae union delerau cyfranogiad y DU yn y dyfodol yn debygol o ddod yn gliriach. Mae'r Senedd yn bwriadu trafod cyllideb hirdymor nesaf yr UE yn y Cyfarfod Llawn rhwng 2 Gorffennaf a 25 Hydref 2018. Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wrthi'n cynnal ymchwiliad i'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer y sector addysg uwch a'r sector addysg bellach yng Nghymru yn sgîl Brexit, a dull Llywodraeth Cymru o baratoi mewn cysylltiad â'r sectorau hyn. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried symudedd myfyrwyr a staff a'r cynllun Erasmus+ ymhlith pethau eraill. Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, mae'r Pwyllgor yn cynnal digwyddiad grwpiau trafod i randdeiliaid ar 4 Gorffennaf.


Erthygl gan Alastair Grey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Alastair Grey gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), wrth baratoi’r erthygl hon.