Llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit: cau'r 'bwlch llywodraethu'

Cyhoeddwyd 27/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae cyrff yr UE, fel y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop, yn chwarae rôl lywodraethu bwysig ar hyn o bryd o ran gweithredu a gorfodi cyfreithiau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE ledled y DU.

Mae'r cyfreithiau hyn, a sut y maent yn cael eu dehongli, wedi'u llunio gan 'Egwyddorion amgylcheddol yr UE', sydd wedi'u cynllunio i sicrhau safonau amgylcheddol uchel.

Mae pryder eang ar draws sector yr amgylchedd y bydd ‘bwlch llywodraethu’ os na fydd y cyrff llywodraethu a’r egwyddorion amgylcheddol hyn bellach yn gymwys yn y DU ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fanteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith a chau'r bwlch llywodraethu. Ond beth fydd yn llenwi'r bwlch hwn?

Mae Llywodraeth y DU (Defra) ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y mater hwn. Mae'r ymgynghoriad yn rhagflaenu Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Llywodraethu Drafft y DU a ddisgwylir yn yr hydref.

Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â Lloegr a materion sydd heb eu datganoli yn unig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn gwahodd cydweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu trefniadau ar y cyd ar gyfer y corff llywodraethu amgylcheddol a'r egwyddorion amgylcheddol. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael 'ymgysylltu'n llawn' cyn y cyhoeddiad, ond mae’n 'barod i gydweithio.'

Trafododd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad y materion hyn yn ddiweddar yn ei ymchwiliad diweddar i lywodraethu amgylcheddol ac egwyddorion ar ôl Brexit.

  1. Corff Llywodraethu Amgylcheddol

Swyddogaethau corff llywodraethu

Mae gorfodi cyfraith amgylcheddol yn swyddogaeth allweddol i unrhyw gorff llywodraethu amgylcheddol. Clywodd y Pwyllgor nad yw'r pwerau gorfodi a gynigir yn ymgynghoriad Defra yn ddigon cryf gan eu bod yn syml yn cefnogi 'hysbysiadau cynghori' sy'n gofyn am gydymffurfio. Pwysleisiodd rhanddeiliaid y byddai angen y pŵer ar y corff llywodraethu i weithredu camau cyfreithiol a allai arwain at osod dirwyon os oes angen. Y farn gyffredin oedd y byddai angen i'r corff llywodraethu hefyd fod yn annibynnol o'r llywodraeth a byddai angen adnoddau ac arbenigedd priodol arno ynghyd â bod yn atebol i ddeddfwrfeydd.

Potensial cyrff sy'n bodoli eisoes i lenwi'r bwlch

Bu dyfalu a allai cyrff presennol y DU lenwi'r bwlch llywodraethu. Yng Nghymru, awgrymwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; fodd bynnag, tynnodd ymchwiliad y Pwyllgor sylw at y ffaith y byddai angen trawsnewidiad swyddogaethau'r Comisiynydd yn fawr ar gyfer hyn gan nad oes gan y rôl bresennol y ffocws amgylcheddol gofynnol. Trafodwyd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd. Teimlwyd nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddiwr amgylcheddol, ddigon o annibyniaeth.

Maint daearyddol y corff

Roedd cynnig a glywyd dro ar ôl tro yn yr ymchwiliad yn galw am gorff ar y cyd o'r DU wedi’i siapio a’i gynllunio ar y cyd gan y gweinyddiaethau datganoledig ochr yn ochr â Llywodraeth y DU. Gallai'r dewis hwn ddarparu lefel o ddatgysylltiad o wleidyddiaeth llywodraethau unigol, yn ogystal ag asesu materion amgylcheddol trawsffiniol a gwneud arbedion effeithlonrwydd drwy gydweithio. Byddai hyn hefyd yn rhoi cyfle cyfartal i fusnesau a chyrff eraill sy'n gweithredu ledled y DU.

Cydnabu rhanddeiliaid y gallai cael cyrff ar wahân olygu y byddai'r cyrff unigol yn fwy cydnaws â materion datganoledig, er y byddai angen cydlynu’r dewis hwn ar lefel y DU o hyd. Fodd bynnag, dywedwyd fod amserlen, costau a chyfyngiadau o ran capasiti ynghlwm â sefydlu corff llywodraethu datganoledig. Roedd pryderon efallai na fydd digon o arian i sefydlu corff llywodraethu digonol i Gymru os yw cyllid ar gyfer yr amgylchedd yn destun fformiwla Barnett.

Rhybuddiodd rhanddeiliaid y bydd y dasg o sefydlu corff/cyrff llywodraethu effeithiol yn heriol o fewn y cyfyngiadau amser, hyd yn oed gyda'r amser ychwanegol a ddarparwyd gan y cyfnod pontio.

Argymhellion y Pwyllgor o ran corff llywodraethu amgylcheddol yw:

Argymhelliad 1:Dylai Llywodraeth Cymru egluro a yw'n cefnogi'r cam o sefydlu corff llywodraethu ar lefel y DU.

Argymhelliad 2:Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn, a hynny fel mater o frys, ar y trafodaethau sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o sefydlu corff ar gyfer y DU.

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor, a hynny fel mater o frys, ar unrhyw waith archwilio y mae wedi'i wneud at ddibenion asesu'r adnoddau y byddai eu hangen ar gyfer sefydlu corff yng Nghymru, ac ar unrhyw drafodaethau sy'n cael eu cynnal â Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor, a hynny fel mater o frys, ar unrhyw waith sy'n cael ei wneud i archwilio trefniadau trosiannol posibl ym maes llywodraethu amgylcheddol os nad yw corff llywodraethu yn cael ei sefydlu cyn i'r DU adael yr UE.

Argymhelliad 5: Rhaid i gorff llywodraethu ar lefel y DU fodloni'r meini prawf a ganlyn:

  • rhaid iddo gael ei gyd-gynllunio gan holl wledydd gwahanol y DU;
  • rhaid iddo fod yn atebol i ddeddfwrfeydd, yn hytrach nag i lywodraethau;
  • rhaid iddo gael adnoddau priodol; a
  • rhaid bod yna fecanweithiau priodol i ddatrys anghydfodau.

Argymhelliad 6. Rhaid i'r bensaernïaeth lywodraethu amgylcheddol newydd gynnwys y swyddogaethau a ganlyn:

  • hyrwyddo'r gwaith o ddiogelu'r amgylchedd ymhlith gweithredwyr y llywodraeth a'r gymuned ehangach;
  • monitro ac adrodd ar y cynnydd a wneir wrth weithredu cyfreithiau amgylcheddol, a darparu data gwyddonol hanfodol;
  • cymryd camau lle nad yw targedau/amcanion yn cael eu cyflawni, er enghraifft drwy osod cosbau economaidd;
  • sicrhau bod gan ddinasyddion a sefydliadau'r gymdeithas sifil fynediad at y systemau cwyno a gorfodi; a
  • mabwysiadu strategaeth hirdymor sy'n mynd y tu hwnt i gylchoedd gwleidyddol.

coedwig niwlog

  1. Egwyddorion Amgylcheddol

Egwyddorion craidd yr UE

Mae cytundeb cyffredinol bod achos cryf dros gadw egwyddorion amgylcheddol craidd yr UE a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y strwythur llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit. Egwyddorion craidd yr UE yw:

  • Yr egwyddor atal;
  • Yr egwyddor y dylai niwed amgylcheddol, fel blaenoriaeth, gael ei unioni yn llygad y ffynnon;
  • Yr egwyddor llygrwr sy'n talu; ac
  • Yr egwyddor ragofalus;

Cadw'r egwyddorion

Mae ansicrwydd o hyd ynghylch sut y caiff yr egwyddorion amgylcheddol eu cadw. Mae Ymgynghoriad Defra yn ystyried dau brif ddewis:

  1. I'w rhestru yn y Bil drafft, gyda datganiad polisi statudol yn cael ei gyhoeddi o dan y Bil i egluro sut y dylid eu dehongli a'u cymhwyso; neu
  2. Ni fyddai'r Bil drafft ei hun yn rhestru’r egwyddorion. Yn lle hynny, byddai'r egwyddorion yn cael eu nodi a'u hegluro mewn datganiad polisi statudol wedi’i gyhoeddi o dan y Bil.

Clywodd y Pwyllgor am brif fanteision a chyfyngiadau pob dewis. Byddai Dewis 1 yn rhoi mwy o statws i'r egwyddorion na Dewis 2. Hyd yma, mae Dewis 2 wedi cael ei feirniadu gan gyrff anllywodraethol amgylcheddol am ddiffyg ymrwymiad i egwyddorion amgylcheddol yr UE sydd wedi’u hen sefydlu. Er y byddai Dewis 2 yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i'r egwyddorion gael eu diweddaru â thystiolaeth wyddonol sy'n dod i'r amlwg, gall yr hyblygrwydd hwn gyfyngu ar gryfder a chymhwysedd yr egwyddorion mewn gwirionedd. Y farn gyffredinol yn ystod yr ymchwiliad oedd bod angen cynnwys yr egwyddorion ar wyneb y Bil i gynnig ymrwymiad (Dewis 1), ond dylid hefyd cael dull iddynt newid, er enghraifft o ganlyniad i benderfyniadau cyfreithiol a / neu newidiadau cymdeithasol.

Egwyddorion Amgylcheddol yng Nghymru

Teimlai rhanddeiliaid, er bod cyfraith Cymru yn cynnwys egwyddorion gwerthfawr fel 'rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy' (Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) a 'datblygu cynaliadwy' (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015), nid yw'r rhain yn dyblygu egwyddorion yr UE. Cynlluniwyd y Deddfau hyn gyda'r rhagdybiaeth y byddai egwyddorion yr UE yn parhau i fod yn gymwys i Gymru.

Roedd rhanddeiliaid o'r farn na ddylid ystyried bod rhestr graidd bresennol yr UE o egwyddorion yn gynhwysfawr, ac y dylid ystyried egwyddorion sy'n dod i'r amlwg, fel 'egwyddor di-atchweliad' ac 'egwyddor integreiddio'.

Pe bai’r egwyddorion yn cael eu cynnwys yng nghyfraith y DU, byddai cwestiwn ynghylch sut y byddai'r egwyddorion yn rhyngweithio ag egwyddorion presennol Cymru a pha ddiffiniadau fyddai'n cael blaenoriaeth. Er enghraifft, dywedodd rhanddeiliaid fod diffiniad Cymru o 'ddatblygu cynaliadwy' yn mynd ymhellach na diffiniad yr UE. Mae hyn yn codi'r cwestiwn a ddylid datganoli'r egwyddorion ai peidio. Pe baent yn cael eu datganoli, wedyn byddai cwestiwn o ba egwyddorion fyddai'n gymwys pan fyddai Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn gwneud penderfyniad cydsynio ar gyfer gweithgaredd Cymru - ai egwyddorion Cymru neu egwyddorion y DU?

Dyma argymhellion y Pwyllgor o ran egwyddorion amgylcheddol:

Argymhelliad 7:Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ymgorffori'r egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith, a hynny cyn gynted â phosibl. Dylid cynnwys yr egwyddorion hynny ar wyneb y Bil.

Argymhelliad 8:Fel mater o frys, dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn yn egluro pryd a sut y mae'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori'r egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith.

Argymhelliad 9:Fel mater o frys, dylai Llywodraeth Cymru adrodd i'r Pwyllgor hwn ar y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y broblem lle gallai'r DU wneud penderfyniadau ar faterion a gedwir yn ôl sy'n effeithio ar Gymru ond sy'n gwrthdaro ag egwyddorion neu safonau amgylcheddol Cymru.


Erthygl a gyd-ysgrifennwyd gan Dr Lindsay Walker, Cymrawd ESRC IAA gyda Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Dr Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.