Y Fenter Cyllid Preifat a chontractau allanol: pa wersi y gellir eu dysgu yng Nghymru o ddatblygiadau diweddar gyda Carillion a Capita?

Cyhoeddwyd 29/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 4 Gorffennaf, bydd y Cynulliad yn trafod galwad i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o adroddiadau i Carillion a Capita, dau chwaraewr arwyddocaol o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allanol ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd Carillion yn gwmni rheoli cyfleusterau ac adeiladu amlwladol mawr yn y DU a aeth i ddiddymiad gorfodol ym mis Ionawr 2018. Ar adeg ei ddirywiad, roedd ganddo 423 o gontractau ar draws y sector cyhoeddus yn y DU. Dyfarnwyd nifer o'r rhain drwy'r model Menter Cyllid Preifat (PFI), lle mae sefydliadau'r sector preifat yn adeiladu ac yn cynnal seilwaith cyhoeddus, ac yna'n cael eu talu gan y sector cyhoeddus. Canfu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yr amcangyfrifir fod y gost i Lywodraeth y DU sy'n ymwneud â'r diddymiad yn £148 miliwn.

Yn dilyn cwymp Carillion, cyhoeddodd Capita rybudd o ran elw a chyhoeddodd gynllun i godi £700 miliwn drwy gyhoeddi cyfranddaliadau newydd ym mis Ionawr 2018, ar ôl cyhoeddi nifer o rybuddion o ran elw yn ystod 2017. Mae Capita yn ymgymryd â swyddogaethau rheoli cwsmeriaid, gweinyddu a TG sydd ar gontract allanol o'r sector cyhoeddus.

Bu nifer o adroddiadau i faterion a godwyd gan ddatblygiadau yn Carillion a Capita. Mae'r blog yn trafod rôl y cwmnïau hyn wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, rôl y Fenter Cyllid Preifat yng Nghymru, a'r casgliadau allweddol o'r adroddiadau gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Phwyllgorau Dethol Tŷ'r Cyffredin.

Pa gontractau a oedd gan Carillion a Capita gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru?

Roedd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â chwymp Carillion yn nodi enghreifftiau o ble roedd contractau sector cyhoeddus Carillion wedi'u lleoli ledled y DU. Map yn dangos lleoliad contractau'r sector cyhoeddus a ddelir gan Carillion Map yn dangos lleoliad contractau'r sector cyhoeddus a ddelir gan Carillion

Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr 2018, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mai Carillion oedd contractwr penodedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno'r dyluniad ar gyfer cynllun ffordd yr A40 Llanddewi Felffre i Benblewin, ac am ddylunio'r gwelliannau i gyffordd 15 ac 16 yr A55. Mae hefyd wedi ymddangos yn un o'r cynigion i redeg y gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau o fis Hydref 2018, ac i ddatblygu agweddau allweddol ar gam nesaf y Metro.

Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Chwefror 2018, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fod gan Lywodraeth Cymru chwe chontract byw gyda Capita mewn meysydd megis gwasanaethau peirianneg, syrfewyr, hyfforddiant a datblygu ac ymgynghoriaeth. Mae Capita hefyd yn gyflenwr ar bedwar Fframwaith Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, o fewn y Categori Gwasanaethau Proffesiynol. Canfu dadansoddiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2018 fod 42 o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi defnyddio Capita ers 2015.

Pa rôl y mae'r Fenter Cyllid Preifat wedi'i chwarae yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU?

Mae'r Fenter Cyllid Preifat wedi bod yn ffynhonnell ddadleuol o ariannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda Phwyllgor Dethol y Trysorlys yn senedd 2010-15 y DU yn dod i'r casgliad nad yw'n rhoi gwerth am arian i drethdalwyr, ac y dylai prosiectau fod yn amodol ar feini prawf llymach. Yn fwy diweddar, daeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin i'r casgliad nad oes gan Drysorlys EM ddata ar fanteision y Fenter Cyllid Preifat na'i olynydd PF2, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl penderfynu a yw'r naill fodel yn rhoi gwerth am arian.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol fel ffordd arall o gynnwys y sector preifat mewn prosiectau seilwaith cyhoeddus. Mae gan y Model rywfaint o bethau'n debyg ac yn wahanol i'r Fenter Cyllid Preifat, gyda'r gwahaniaethau allweddol yn cynnwys caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd cyfran ecwiti o hyd at 20 y cant yn y cwmni dal a sefydlwyd i gyflwyno'r prosiect ac i benodi cyfarwyddwr i fwrdd y cwmni dal; a'i gwneud hi'n orfodol i gwmnïau ddarparu buddion cymunedol a chydymffurfio â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Er bod 23 o brosiectau cyfredol y Fenter Cyllid Preifat yng Nghymru gyda gwerth cyfalaf o £701 miliwn a noddir gan Lywodraeth Cymru, a 5 phrosiect a noddir gan adrannau Llywodraeth y DU, mae hyn yn llai nag mewn mannau eraill yn y DU. Mae gwerth cyfalaf £885 miliwn 28 o brosiectau cyfredol y Fenter Cyllid Preifat yng Nghymru yn cynrychioli 1.5 y cant o werth cyfalaf holl brosiectau'r Fenter yn y DU, yr isaf o wledydd y DU. Ffigur 1: Cyfanswm nifer prosiectau cyfredol y Fenter Cyllid Preifat ar 31 Mawrth 2017 Graff yn dangos nifer prosiectau cyfredol y Fenter Cyllid Preifat ym mhob gwlad yn y DU Ffigur 2: Gwerth cyfalaf prosiectau cyfredol y Fenter Cyllid Preifat ar 31 Mawrth 2017 Graff yn dangos cyfanswm cyfalaf prosiectau cyfredol y Fenter Cyllid Preifat ym mhob gwlad yn y DU Y ffynhonnell ar gyfer y ddau graff: Trysorlys EM, Prosiectau'r Fenter Cyllid Preifat a Chyllid Preifat 2: Data cryno 2017

Beth oedd y gwersi allweddol o adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol a Phwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin?

Cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau adroddiad ar y cyd ar Carillion ym mis Mai 2018. Amlygodd hyn nifer o wersi ar gyfer y llywodraeth, y ceir crynodeb ohonynt isod:

  • Mae Llywodraethau olynol y DU wedi meithrin amgylchedd busnes ac wedi dilyn model o ddarparu gwasanaeth a olygodd bod dirywiad o'r fath, os nad yn anochel, o leiaf yn bosibilrwydd amlwg. Gall fod pris i'w dalu am yr ymgyrch ar gyfer arbed costau: nid yw'r cynnig rhataf bob amser yn well. Er hynny, mae cwmnïau wedi canolbwyntio ar gyflawni ar brisiau, nid gwasanaeth; cyfaint nid gwerth. Nid yw'r system gyfredol yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y llywodraeth i reoli risgiau o ran darparu gwasanaethau ac ymddygiad cwmni.
  • Canfu'r adroddiad hefyd bryderon ynghylch diwylliant cyrff rheoleiddio yn mynd i'r afael â materion, a theimlai na fyddai rhoi pwerau ychwanegol iddynt yn arwain at welliant digonol oni bai bod newid mewn rhagolygon hefyd. Daeth i'r casgliad hefyd fod ymateb Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â gwendidau rheoleiddiol wedi bod yn ofalus, yn dechnegol yn bennaf, a bu ymgynghori diddiwedd.

Mae dau Bwyllgor Dethol arall Tŷ'r Cyffredin hefyd yn ymgymryd â gwaith ar Carillion. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gwymp Carillion. Mae'r Pwyllgor Gweinyddu Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol wrthi'n cynnal ymchwiliad i'r gwersi a ddysgwyd gan Carillion ar gyrchu gwasanaethau cyhoeddus.

Mewn perthynas â Capita, ystyriodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei chontract gyda GIG Lloegr i weithredu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol. Daeth i'r casgliad bod methiant wedi bod yn cyflawni agweddau allweddol o'r gwasanaeth cyflawn, a ddarparwyd gan Capita a sefydliadau eraill. Roedd materion o ran perfformiad wedi dod i'r amlwg yn 2016, y cyfrannwyd atynt gan benderfyniad Capita i barhau i gau swyddfeydd cymorth. Canfu'r adroddiad nad oedd GIG Lloegr na Capita yn deall yn llawn gymhlethdod ac amrywiad y gwasanaeth sy'n cael ei roi ar gontract allanol, a bod y ddwy ochr wedi camfarnu maint a natur y risg o roi contract allanol i'r gwasanaethau hyn. At hynny, nododd yr adroddiad er bod GIG Lloegr wedi arbed symiau sylweddol o arian, nid yw gwerth am arian yn ymwneud â lleihau costau'n unig. Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin wrthi'n cynnal ymchwiliad i'r pwnc hwn.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru