Busnes y Cynulliad Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ‘Cadernid meddwl’ ym mis Ebrill 2018, yn galw am newid sylweddol yn y cymorth sydd ei angen i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl a meithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod yr adroddiad a'i ganfyddiadau, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru iddo yn y Cynulliad yr wythnos nesaf (dydd Mercher 4 Gorffennaf).

02 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma in Saesneg

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ‘Cadernid meddwl’ ym mis Ebrill 2018, yn galw am newid sylweddol yn y cymorth sydd ei angen i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a meithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod yr adroddiad a’i ganfyddiadau, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru iddo yn y Cynulliad yr wythnos nesaf (dydd Mercher 4 Gorffennaf).

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am weithredu ar frys.

Mae cyflymder y newid a’r cynnydd y gelwir amdano yn cael eu hadlewyrchu yn nifer o argymhellion y Pwyllgor, sy’n pennu amserlenni clir ac uchelgeisiol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan gynnwys adroddiad ar gynnydd o fewn naill nai tri neu chwe mis i gyhoeddi’r adroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o’r 27 o argymhellion y Pwyllgor, er bod rhai ohonynt ‘mewn egwyddor’. Ond, yn ddi-os, bydd pa mor gyflym y caiff cynnydd ei gyflawni yn siomi rhai Aelodau o’r Pwyllgor yn ogystal â rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru yn glir yn ei hymateb i’r adroddiad, mewn perthynas â nifer o argymhellion y Pwyllgor, na fydd gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen a bennwyd.

Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar gynnydd yn ddiweddarach, erbyn diwedd 2018.

Llun o blant yn chwarae

Prif argymhelliad

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi un prif argymhelliad – bod Llywodraeth Cymru yn gwneud lles a gwydnwch emosiynol a lles a gwydnwch meddwl ein plant a’n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’ yn cydnabod iechyd meddwl da fel un o’r pum prif faes sydd â’r cyfraniad posibl mwyaf i ffyniant a lles hirdymor, ac mai rhan allweddol o’r strategaeth honno yw canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig drwy:

  • Ddarparu adnoddau digonol wedi’u clustnodi i wneud ysgolion yn ganolfannau cymunedol gefnogaeth traws-sector a thraws-broffesiynol ar gyfer gwydnwch emosiynol a lles meddwl, gyda chefnogaeth gan gyrff statudol a’r trydydd sector, yn enwedig iechyd;
  • Sicrhau bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl wedi’i ymgorffori yn y cwricwlwm newydd;
  • Sicrhau bod pawb sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, sy’n gwirfoddoli, neu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â stigma a hybu iechyd meddwl da;
  • Cyhoeddi adolygiad annibynnol o gynnydd bob dwy flynedd, a ddylai gynnwys plant a phobl ifanc drwyddi draw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ‘derbyn’ y dylai iechyd emosiynol ac iechyd meddwl gael eu hymgorffori’n iawn yn y cwricwlwm newydd, gan ddweud bod gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc i fod yn unigolion iach a hyderus eisoes yn mynd rhagddo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ‘derbyn mewn egwyddor’ dau gam gweithredu arall o dan yr argymhelliad hwn. Mae’n nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen eisoes wedi’i sefydlu i helpu i gyflwyno model newydd o Ganolfannau Dysgu Cymunedol.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo nad yw’n realistig i sicrhau bod pawb sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, neu sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda nhw, yn cael eu hyfforddi mewn ymwybyddiaeth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, ond mae’n cytuno y dylai gweithwyr allweddol gael eu hyfforddi. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at gynllun gwaith 2018-19 Rhaglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r gweithlu, addysg a hyfforddiant.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ‘wrthod’ galwad y Pwyllgor i gyhoeddi adolygiad annibynnol o’r cynnydd bob dwy flynedd, gan gynnig yn lle i ddarparu diweddariadau rheolaidd i’r Pwyllgor ar y rhaglenni amrywiol.

Ynghyd â’i brif argymhelliad, gwnaeth y Pwyllgor 27 argymhelliad arall yn ei adroddiad. Beth maent yn eu cynnwys?

Trosolwg o adroddiad y Pwyllgor

Mae adroddiad y Pwyllgor ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn eang iawn.

Mae ffocws cryf ar wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, gan ganolbwyntio’n benodol ar ysgolion a sut y gallant gydweithio’n fwy effeithiol â gwasanaethau iechyd i feithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc. Mae adroddiad y Pwyllgor yn pwysleisio y gellid lleihau neu hyd yn oed osgoi’r trallod y mae nifer o blant a phobl ifanc yn ei brofi drwy sicrhau y gallent elwa ar y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, mewn ysgolion ac mewn gofal sylfaenol ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn edrych ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) arbenigol hefyd. Mae’n cydnabod bod gwelliannau wedi’u gwneud ers y tro diwethaf i’r Pwyllgor edrych ar y mater hwn yn 2014, a bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol mewn gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’n dod i’r casgliad nad yw’r newidiadau’n mynd yn ddigon pell. Er enghraifft, mae rhai o argymhellion y Pwyllgor yn cynnwys galw am y canlynol:

  • Gwelliannau pellach i Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) ar gyfer plant a phobl ifanc i bontio’r bwlch rhwng cymorth gwydnwch emosiynol ar un llaw, a CAMHS arbenigol ar y llaw arall;
  • Llywodraeth Cymru i lunio cynllun adfer ar unwaith ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hir;
  • Gwelliannau o ran mynediad ac arferion gweithio i wasanaethau argyfwng a gofal y tu allan i oriau;
  • Cynllun gweithredu cenedlaethol i gyflwyno therapïau seicolegol i blant a phobl ifanc.

Mae’r achos a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor ar gyfer buddsoddi cymaint mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, ynghyd â gofal arbenigol, yn ddiamwys. Mae’r adroddiad yn nodi y bydd methu â chyflawni yn hyn o beth yn golygu y bydd mwy o alw am wasanaethau arbenigol na’r hyn sydd ar gael, gan fygwth eu cynaliadwyedd a’u heffeithiolrwydd.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru