Sut y mae grantiau datganoledig yn cael eu pennu?

Cyhoeddwyd 02/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yfory (3 Gorffennaf 2018) bydd dadl Diwrnod Amcangyfrifon yn cael ei chynnal yn Nhŷ'r Cyffredin. Bydd y ddadl hon yn canolbwyntio ar sut y caiff grantiau i sefydliadau datganoledig eu pennu, ac yn benodol ar y modd y mae penderfyniadau'r Trysorlys sy’n ymwneud â gwariant adrannau'r DU yn effeithio ar y grantiau a ddyrennir i sefydliadau datganoledig. Am ragor o fanylion gweler y ddolen at erthygl blog ac adroddiadau. Detholwyd y pwnc ar gyfer y ddadl hon gan Bwyllgor Busnes y Meinciau Cefn, a hynny fel rhan o'r broses newydd ar gyfer dewis pynciau ar gyfer dadleuon Diwrnod Amcangyfrifon, yn dilyn cyhoeddi'r Prif Amcangyfrifon ar gyfer 2018-19 ar 19 Ebrill 2018. Gwnaethpwyd y cais gan Stewart Malcolm McDonald AS, SNP.


Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru