Be nesa’ ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 05/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar ddydd Mawrth, 10 Gorffennaf, bydd Aelodau yn trafod yr Adolygiad o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy.

Beth ydi tai fforddiadwy?

Mae’r diffiniad o dai fforddiadwy ar gyfer dibenion y system gynllunio wedi’i nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 2 (sy’n cael ei adnabod fel TAN 2). Mae’r diffiniad yn cyfeirio at dai ble mae mecanweithiau diogel er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’r rheiny na all fforddio tai ar y farchnad agored, gan gynnwys y meddianwyr dilynol yn ogystal â’r rheiny sy’n eu meddiannu gyntaf. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys tai cymdeithasol ar rent sy’n eiddo i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a thai canolradd, ble mae’r prisiau neu’r rhenti yn uwch na rhent tai cymdeithasol, ond yn is na’r prisiau neu’r rhenti ar y farchnad agored.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol – Darpariaeth Tai Fforddiadwy – sy’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r tai fforddiadwy ychwanegol sy’n cael eu darparu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae’r ffigyrau ar gyfer 2016-17 yn dangos bod awdurdodau lleol wedi nodi 2,547 o dai fforddiadwy ychwanegol ar draws Cymru, cynnydd o 6% ar y flwyddyn flaenorol. Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymraeg oedd yn gyfrifol am 93% o’r tai fforddiadwy ychwanegol yn 2016-17.

Mae’n rhaid nodi bod y ffigyrau yma yn dangos yr holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd, boed hynny drwy adeiladu tai o’r newydd, prynu tai, caffael, prydlesu neu drawsnewid tai sydd eisoes yn bodoli. Nid yw’r ffigyrau yma’n cymryd i ystyriaeth bod rhai tai fforddiadwy’n cael eu colli drwy gael eu gwerthu neu eu dymchwel yn ystod y flwyddyn.

Goriadau

20,000 o dai fforddiadwy

Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru – Symud Cymru Ymlaen 2016-2021 – yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn darparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn nhymor presennol y Cynulliad, gan gynnwys darparu cymorth ar gyfer adeiladu mwy na 6,000 o dai drwy’r cynllun Cymorth i Brynu. Cafodd y targed hwn hefyd ei gynnwys yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru – Ffyniant i Bawb.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gyflawni’r targed o 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol, yn cynnwys:

  • Parhau i gefnogi gwaith adeiladu i godi tai cymdeithasol i’r rheiny sydd fwyaf bregus, drwy gynlluniau megis y Grant Tai Cymdeithasol;
  • Cefnogi’r gwaith o adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu;
  • Datblygu rhaglen adeiladu tai fwy uchelgeisiol – sy’n uchelgeisiol o ran cynllun, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi hynny;
  • Cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau ar gyfer tai, er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion;
  • Datblygu cynllun Rhentu i Brynu, fydd yn cefnogi’r rhai hynny sydd eisiau prynu cartref eu hunain, ond sy’n ei chael hi’n anodd i gynilo blaendal sylweddol; a
  • Hybu sawl ffordd o brynu tŷ am gost fforddiadwy, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n prynu am y tro cyntaf mewn ardaloedd ble maen nhw’n aml yn methu a phrynu cartref oherwydd bod gwerthoedd yr eiddo lleol yn uchel.

Yn Rhagfyr 2016, mi wnaeth Llywodraeth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru arwyddo Cytundeb Cyflenwad Tai, sy’n cynnwys cytundeb y bydd awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn darparu 13,500 o dai tuag at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi arwyddo cytundeb gyda Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, er mwyn cefnogi darparu tai fforddiadwy a thai ar bris y farchnad drwy ddatblygiadau preifat.

Adolygiad o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy

Ar 23 Ebrill 2018, cyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, adolygiad annibynnol o’r cyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru. Bwriad yr adolygiad ydi darganfod a oes modd gwneud mwy i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, a gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael. Yn benodol, bydd yr adolygiad yn:

  • Edrych ar y posibilrwydd o gynyddu nifer y ffynonellau arian cyfatebol a goblygiadau hynny ar gyfraddau ymyrraeth grant;
  • Edrych ar sut caiff gwaith partneriaeth ei reoli ar hyn o bryd, rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, ac argymell ffyrdd o wneud y mwyaf o waith o’r fath er mwyn darparu tai yn unol â’r nod o ran cyflenwi tai;
  • Gwerthuso effaith trosglwyddo i ddarparu cartrefi di-garbon erbyn 2020 gan gynnwys rôl gweithgynhyrchu ar safle arall yn y broses a dulliau modern o adeiladu tai;
  • Rhoi cyngor o ran a ddylid newid y safonau sy’n rheoli dyluniad ansawdd tai fforddiadwy;
  • Cynnig argymhellion ynglŷn â sut y gall polisi rhenti cynaliadwy helpu i benderfynu a fydd tenantiaid yn gallu fforddio’r rhent yn y hirdymor, a pha mor ymarferol yw’r datblygiadau tai sydd ar gael ar hyn o bryd a’r datblygiadau tai newydd; a
  • Cynghori ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o’r gallu i ddatblygu mewn cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol sy’n dal stoc, yn enwedig ar ôl 2020 pan fydd yr holl stoc presennol yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru.

Ar 11 Mai 2018, cyhoeddodd y Gweinidog pwy fydd aelodau’r panel annibynnol fydd yn goruchwylio’r adolygiad o’r cyflenwad tai fforddiadwy. Bydd y panel yn cael ei gadeirio gan Lynn Pamment, Uwch-bartner yn swyddfa Caerdydd PwC. Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys:

  • Dr Peter Williams – academydd sy’n gysylltiedig ag Adran Economi’r Tir ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ymgynghorydd annibynnol ar y marchnadoedd tai a morgeisi, a pholisi tai;
  • Helen Collins – Savills, Pennaeth yr Ymgynghoriaeth Dai
  • Yr Athro Kevin Morgan – Athro Llywodraethu a Datblygu a Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd;
  • Dr Roisin Willmott – cyfarwyddwr ar gyfer Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru; a
  • Phil Jenkins – Rheolwr Gyfarwyddwr, Centrus.

Mae disgwyl i’r panel gyhoeddi adroddiad a gwneud argymhellion i’r Gweinidog erbyn diwedd mis Ebrill 2019.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o Flickr gan VirtualWolf. Dan drwydded Creative Commons.