Ardaloedd Menter: Mae dull 'rhannu gwybodaeth yn dameidiog' Llywodraeth Cymru o roi gwybodaeth yn effeithio ar y broses graffu wrthrychol

Cyhoeddwyd 06/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad byr i Ardaloedd Menter yng Nghymru. Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan chwech o wyth Cadeirydd Bwrdd Ardal Fenter a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Teithiodd tri aelod o'r Pwyllgor i Eryri ac Ynys Môn i gyfarfod â Chadeiryddion y byrddau hynny.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud deg argymhelliad i Lywodraeth Cymru - y derbyniwyd chwech ohonynt yn llwyr, ac y derbyniwyd pedwar 'mewn egwyddor'.

Dechreuodd polisi presennol Ardaloedd Menter yng Nghymru fel ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2011 am greu Ardaloedd Menter yn Lloegr. Ceisiodd Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth tebyg yn gyflym drwy greu saith Ardal Fenter yng Nghymru erbyn mis Ionawr 2012, a nod penodol gan bob un i greu swyddi a thwf.

Roedd yr ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau. Dewiswyd rhai, er enghraifft Caerdydd a Glannau Dyfrdwy, i fanteisio ar gryfderau economaidd amlwg, a'r bwriad y tu ôl i eraill, megis Ynys Môn ac Eryri, oedd mynd i'r afael â heriau lleol sylweddol.

Mae amheuaeth ddilys a oedd wir angen Ardaloedd Menter mewn rhai o'r ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig yng Nghaerdydd lle clywodd y Pwyllgor fod yr ardal yn "gwthio drws agored" yn economaidd.

Mewn cyferbyniad, clywodd y Pwyllgor gan Gadeirydd Bwrdd Ardal Fenter Eryri fod y Bwrdd wedi sylweddoli'n gynnar iawn, o ystyried yr heriau yn eu hardal, na fyddent fyth yn debygol o allu cyflawni effeithiau sylweddol o ran twf na swyddi, o leiaf yn y tymor byr i'r tymor canolig. Yn lle hynny, newidiodd eu ffocws i archwilio'r cyfleoedd ar gyfer datblygu'r ardal yn y tymor hir. Clywodd y Pwyllgor fod nifer o ardaloedd eraill mewn sefyllfa debyg hefyd.

Roedd y Pwyllgor yn teimlo nad oedd y newid hwn o ran ffocws ar gyfer rhai o'r ardaloedd yn cael ei gyfleu'n eang ac, yn bwysicach efallai, nad oedd wedi'i adlewyrchu yn y dangosyddion perfformiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ar lefel Cymru gyfan i ddechrau.

Tryloywder

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, yn dilyn gwaith y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Pedwerydd Cynulliad, wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ryddhau gwybodaeth fanwl am berfformiad pob ardal o ran creu swyddi (yr amcan cyffredinol a nodwyd), ynghyd â gwybodaeth fanwl am wariant Llywodraeth Cymru ar bob ardal.

Croesawodd y Pwyllgor benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ryddhau'r wybodaeth fanylaf o'r math hwn hyd yn hyn, er ar ôl y sesiwn dystiolaeth olaf. Nododd y Pwyllgor ei bod yn 'resyn' iddi gymryd hyd at ddiwedd ymchwiliad y Pwyllgor i gyrraedd y pwynt hwn. Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi ymhellach:

Dyma enghraifft, dros y pump neu’r chwe blynedd diwethaf, o’r modd y gall rhannu gwybodaeth yn dameidiog ac yn achlysurol gydag Aelodau’r Cynulliad a’r Pwyllgorau atal proses graffu glir a gwrthrychol rhag digwydd, a hefyd creu argraff o dangyflawni ac aneffeithlonrwydd.
Ni ddylai fod mor anodd â hyn, na chymryd cymaint o amser, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth er mwyn inni allu deall yn iawn berfformiad a gwerth am arian un o’i pholisïau economaidd blaenllaw, a chraffu’n briodol arno. Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i’r feirniadaeth adeiladol hon wrth lunio a gweithredu polisïau yn y dyfodol.

Mae'r Pwyllgor o'r farn bod teilyngdod mewn dull rhanbarthol o weithredu datblygiad economaidd, a bod ffocws ar gefnogi ardaloedd o amddifadedd yn bendant yn beth da ac y dylai barhau. Fodd bynnag, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod nodau dulliau rhanbarthol o weithredu datblygiad economaidd yn y dyfodol, ar gyfer pob ardal unigol neu ardal leol fod: yn glir ac yn realistig; yn ddigon manwl i alluogi dealltwriaeth o'r heriau; â data monitro manwl, agored, tryloyw a phriodol. Cafodd yr argymhelliad hwn (6), ynghyd â dau arall i gynyddu tryloywder a gwella argaeledd data monitro (argymhellion 3 a 5), eu derbyn 'mewn egwyddor' gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'n hysbys eto sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhellion hyn yn ymarferol.

Casgliad cyffredinol

Nid oedd y Pwyllgor am ymddangos yn feirniadol o waith da Byrddau'r Ardaloedd Menter, ac yn sicr roedd yn cydnabod ymrwymiad, ysgogiad ac arbenigedd proffesiynol pawb dan sylw. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn teimlo, 'nad yw cysyniad yr Ardaloedd Menter, ar y cyfan, wedi cyfiawnhau ei hun hyd yma yng Nghymru'.

Mae'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor yn awgrymu mai'r ardaloedd sydd wedi cyflawni yn erbyn nodau Llywodraeth Cymru oedd y rhai a oedd eisoes yn y sefyllfa orau i wneud hynny o'r cychwyn cyntaf, ac mai rhan fach yn unig yn llwyddiant yr Ardaloedd Menter oedd y cymhellion penodol (er enghraifft Canol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy). Roedd ardaloedd eraill, a oedd yn dechrau o fan gwahanol iawn o ran heriau, yn canfod bod y cymhellion o rywfaint o fudd. Cydnabu'r Pwyllgor y ffaith bod yr ardaloedd hyn, fel Ynys Môn, Eryri a Glynebwy, yn dal i fod ar daith i raddau helaeth a'u bod wedi bod yn canolbwyntio ar roi'r sylfeini ar waith ar gyfer y tymor hir, gydag Eryri yn benodol heb ddangos llwyddiannau sylweddol yn erbyn y dangosyddion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun.

Yn gyffredinol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw nodau gwreiddiol polisi'r Ardal Fenter, sef creu twf a swyddi, wedi'u cyflawni'n gyffredinol, a'i bod yn debygol y byddai'r rhain yn afrealistig ar y dechrau o ystyried mannau cychwyn amrywiol pob un o'r Ardaloedd Menter.

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 9 Gorffennaf.


Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru