Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Mae angen ‘newidiadau systemig’ i roi terfyn ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig yn amhriodol mewn cartrefi gofal yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor

Mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi yn amhriodol, fel yr opsiwn cyntaf mewn llawer o achosion er mwyn 'rheoli' ymddygiad heriol pobl sydd â dementia, yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Gorffennaf.

09 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg

Mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi yn amhriodol, fel yr opsiwn cyntaf mewn llawer o achosion er mwyn ‘rheoli’ ymddygiad heriol pobl sydd â dementia, yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Gorffennaf.

Mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn grŵp o feddyginiaethau sy’n cael eu defnyddio fel arfer i drin cyflyrau iechyd meddwl megis sgitsoffrenia. Bu pryderon cynyddol yn y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â’r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia.

Mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn gysylltiedig â risg gynyddol o ddigwyddiadau serebro-fasgwlaidd niweidiol a mwy o farwolaethau o’u defnyddio i drin pobl sydd â dementia. Mae defnydd estynedig ohonynt yn cynyddu’r tebygrwydd o farw’n annhymig.

Yn 2009, daeth adroddiad gan yr Athro Sube Banerjee ar ddefnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig ar gyfer pobl â dementia i’r casgliad ei bod yn ymddangos fel bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio’n rhy aml ar gyfer dementia ac, o’u defnyddio ar y lefel ddisgwyliedig honno, byddai’r risgiau fwy na thebyg yn drech nag unrhyw fanteision posibl.

Bron degawd yn ddiweddarach, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio’n rheolaidd mewn ymateb i ymddygiad heriol, yn lle bod staff yn ceisio nodi gwir achos yr ymddygiad. Yn ôl adroddiad y Pwyllgor, lle mae ymddygiad rhywun sydd â dementia yn heriol, yn aml, mae oherwydd angen nas diwallwyd na all yr unigolyn hwnnw ei fynegi. Mae’r adroddiad yn galw am asesiadau cynhwysfawr sy’n canolbwyntion ar yr unigolyn er mwyn nodi anghenion pobl a’u bodloni’n llawn.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw adolygiadau o feddyginiaethau yn digwydd yn ddigon aml ar gyfer pobl sydd â dementia, ac unwaith y bydd meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi (gan gynnwys meddyginiaethau gwrthseicotig) mae’n aml yn mynd rhagddi gyda phresgripsiynau amlroddadwy am gyfnodau hir heb fonitro effeithiol (er gwaethaf y ffaith bod defnydd estynedig yn cynyddu’r risgiau).

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi bod Aelodau’n ‘pryderu’ am y camddefnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig, gan nodi:

Mae rhoi meddyginiaeth ddiangen i bobl sy’n agored i niwed mewn gofal yn fater difrifol o ran hawliau dynol y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

Nododd y Pwyllgor ei siom oherwydd y diffyg ymrwymiad amlwg i fynd i’r afael â’r mater hwn fel blaenoriaeth, a bod Aelodau o’r farn bod angen newidiadau diwylliannol a systematig i sicrhau bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi’n briodol, ac nid fel opsiwn cyntaf.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys galwadau ar i Lywodraeth Cymru gasglu data; asesiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i nodi unrhyw anghenion nas diwallwyd; datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant ym maes gofal dementia a gwneud yr hyfforddiant yn orfodol i holl staff gofal; sicrhau bod pob Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio’n llwyr â chanllawiau NICE; cyflwyno adolygiadau meddyginiaeth bob tri mis; a gwneud meddyginiaethau yn rhan allweddol o drefniadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.

Picture of a bottle of pills

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ei hymateb i’r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn pedwar o’r argymhellion (argymhellion 5, 6, 7 ac 8), gan gynnwys:

A6. Rydym yn argymell y dylai monitro meddyginiaethau fod yn rhan allweddol o arolygu cartrefi gofal, a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn mandadu tystiolaeth wedi’i dogfennu o fonitro meddyginiaethau ar gyfer pobl hŷn sydd wedi cael meddyginiaethau gwrthseicotig rhagnodedig yng nghofnodion cleifion.

Mae geiriad yr ymateb gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod hyn yn digwydd eisoes ac mae’n nodi:

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried sut i gynnwys rheoli ac adolygu meddyginiaeth wrthseicotig yn rhan o’r broses arolygu. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn ei ystyr ehangaf gydag opsiynau posibl yn cynnwys trywydd ymholi ynglŷn â chymorth, adolygiad a chyngor mewn perthynas â rheoli meddyginiaeth wrthseicotig fel rhan o’r fframwaith arolygu newydd.

A8. Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i fynd i’r afael â phrinder therapyddion iaith a lleferydd, o ystyried eu gwerth yn gwella canlyniadau i bobl sydd â dementia, a chyflwyno adroddiad ar ei chynnydd i’r Pwyllgor hwn o fewn 12 mis.

Yn ymateb Llywodraeth Cymru, nodir:

Cydnabyddir bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a Therapyddion Iaith a Lleferydd yn benodol yn chwarae rhan allweddol o ran darparu gwasanaethau gofal sylfaenol/cymunedol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wrthi’n cwmpasu gwaith i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (gan gynnwys therapyddion iaith a lleferydd) sydd ar gael yng Nghymru. Bydd hyn hefyd yn cynnwys ystyried egwyddorion effeithiolrwydd trefniadaeth i hybu’r nod o ddatblygu gweithlu (o weithwyr cynnal gofal iechyd, cynorthwywyr therapi iaith a lleferydd) sy’n gallu cefnogi therapyddion iaith a lleferydd cofrestredig drwy gyflawni’r cynlluniau triniaeth a luniwyd gan y therapyddion, gan ryddhau’r Therapyddion Iaith a Lleferydd i gyflawni’r lefelau ymyrraeth na all neb ond hwy eu darparu.

Yn ystod yr haf, bydd ein hymgyrch ‘Hyfforddi Gweithio Byw’ yn cael ei hymestyn i gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 9, sy’n galw am i ddull gael ei ddatblygu, ynghyd â chanllawiau, ar gyfer asesu’r cyfuniad priodol o sgiliau sydd ei angen ar gyfer staff cartrefi gofal. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y mater hwn yn dod o dan Reoliadau a ddatblygwyd eisoes o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 .

O ran y pum argymhelliad sy’n weddill, fe’u ‘derbyniwyd mewn egwyddor’ gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

A1.  Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd, o fewn 12 mis, yn casglu ac yn cyhoeddi data safonol ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal ac yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor hwn ar gynnydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o 12 mis.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod cyfyngiadau arwyddocaol ar ddata rhagnodi a gesglir yn rheolaidd ‘sy’n golygu nad yw’n bosibl priodoli presgripsiynau’n rhwydd i breswylwyr mewn cartrefi gofal’. Mae’n mynd ymlaen i nodi:

O gofio bod y Pwyllgor wedi gwneud sawl argymhelliad mewn perthynas ag argaeledd data rhagnodi ac adrodd arnynt, byddaf yn dwyn grŵp o arbenigwyr perthnasol ynghyd i archwilio i ddefnyddioldeb amryw o ffynonellau data ac i roi cyngor imi ar y ffordd orau o’u defnyddio i gefnogi ein dyhead i leihau rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol.

A2. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd, o fewn 12 mis, yn cydymffurfio’n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia, sy’n cynghori yn erbyn y defnydd o unrhyw feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer symptomau nad ydynt yn rhai gwybyddol neu ymddygiad heriol dementia oni bai bod yr unigolyn mewn gofid difrifol neu os oes perygl uniongyrchol o niwed iddynt hwy neu eraill, a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ar y cyfraddau cydymffurfio ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o 12 mis.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn rhannu pryderon y Pwyllgor ond ‘nid mater hawdd yw penderfynu a yw meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi yn unol â chanllawiau NICE’, ac mai cyfrifoldeb y gweithwyr iechyd proffesiynol yw cydymffurfio.

Yn ei hymateb i argymhellion 3 (asesiadau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a rhestr wirio i nodi anghenion nas diwallwyd) ac argymhelliad 10 (safonau gofal dementia cenedlaethol a hyfforddiant gorfodol sy’n cael ei fonitro gan Arolygiaeth Iechyd Cymru), mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at waith a wneir eisoes, gan gynnwys Fframwaith Dysgu a Datblygu ‘Gwaith Da’, a Rheoliadau 2017 (y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol). Mae hefyd yn dweud bod yr adolygiad thematig y bydd Arolygiaeth Iechyd Cymru yn ei gynnig o ofal dementia yn ‘debygol o gynnwys hyfforddiant a sgiliau staff mewn perthynas â dementia ynghyd ag adolygu’r materion yn ymwneud â meddyginiaeth (gan gynnwys meddyginiaethau gwrthseicotig) i’r rheini â dementia’.

A4. Rydym yn argymell cyflwyno adolygiadau gorfodol bob tri mis o feddyginiaethau ar gyfer pobl sydd â dementia ac sydd wedi cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau gwrthseicotig, gyda’r bwriad o leihau neu atal y feddyginiaeth yn dilyn yr adolygiad cyntaf lle bo modd.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod yr ‘egwyddor o gynnal adolygiadau gorfodol o feddyginiaethau bob tri mis yn ddull a ategir gan ganllawiau NICE ac mae’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru’.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd (DES) ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i bob preswylydd newydd mewn cartref gofal gael ei weld o fewn 28 diwrnod ar gyfer asesiad clinigol a chaiff pob preswylydd asesiad o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud am DES ei bod yn ‘debyg mai dyma’r ffordd fwyaf priodol i ymchwilio i newid manylion y gwasanaeth i gynnwys y gweithgaredd a nodir yn argymhelliad 4’. Mae’n mynd ymlaen i nodi:

Mae pob gwasanaeth ychwanegol wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd gan yr Uwchswyddog Meddygol dros Ofal Sylfaenol gyda chymorth Cyfarwyddwyr Meddygol Cynorthwyol ar draws Byrddau Iechyd. Felly, bydd yr awgrym hwn yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r gwaith hwnnw a dylid nodi y byddai angen trafod unrhyw newidiadau i wasanaethau ychwanegol â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru.


Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru