Canllawiau ariannu ar gyfer myfyrwyr 2018/19

Cyhoeddwyd 10/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer 2018/19 yn fersiynau wedi'u diweddaru o'r canllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Gwasanaeth Ymchwil. Cawsant eu hailysgrifennu mewn arddull a ddylai ddarparu canllawiau mwy hygyrch a syml ar gyfer cynulleidfa o fyfyrwyr. Mae'r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i'r rhai sy'n astudio cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach. Mae’r canllaw addysg uwch yn cynnwys gwybodaeth am y pecyn newydd o gymorth i fyfyrwyr a gyflwynir ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser sy’n dechrau ar gwrs israddedig ym mis Medi 2018.

Mae canllaw ar gyllid ôl-raddedig i ddilyn.


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru