Rôl Llywodraethau datganoledig yn nhrafodaethau’r Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

Cyhoeddwyd 13/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Cyn cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn i gwyno nad oeddent wedi’u hymgynghori’n llawn wrth lunio’r Papur Gwyn yn amlinellu cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â’r UE. Mae’r erthygl hon yn trafod datblygiadau diweddar ynghylch rôl y Llywodraethau datganoledig yn nhrafodaethau Llywodraeth y DU â’r UE.

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Ddydd Llun 2 Gorffennaf, rhoddodd Mr Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn Llywodraeth Cymru, sy’n arwain ar Brexit ar ran Llywodraeth Cymru, dystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (‘MADY’) ynghyd â Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio a’r Gweinidog sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y Fforwm Gweinidogol Rhynglywodraethol ar Drafodaethau â’r UE. Esboniodd Ms Evans:

[...] no actual chapters of the White Paper were shared with us. We were very clear that that was wholly unacceptable to us. There will be areas of that White Paper that are very much areas that are Welsh Government responsibility, and the other devolved nations as well. So, within that White Paper, at the very least the UK Government needs to be clear where they’re speaking for the UK and where there are devolved matters at play there.

Ymunodd Mr Drakeford â Mike Russell, Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol yn yr Alban, i ysgrifennu llythyr at y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Chadeirydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) cyn cyfarfod y cyd-bwyllgor ar 5 Gorffennaf. Gwnaethant gwyno na roddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y Llywodraethau datganoledig weld y Papur Gwyn drafft cyn cyfarfod y Fforwm Gweinidogol a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, ac nid oeddent ond yn gallu gwneud cyfraniadau ar sail crynodeb byr o’r penodau perthnasol a roddwyd ar lafar. Daw’r llythyr i’r casgliad a ganlyn:

We therefore wish to make it absolutely clear that we will not regard any discussion of the White Paper at next Thursday’s JMC (EN) [5 July] as meaningful, unless we have been given prior access to the text of the draft White Paper as it currently stands.
If we do not have this opportunity, we will have to make it very clear that we have been given no real possibility to consider, let alone influence, the content of a document which will purport to speak on behalf of the whole of the United Kingdom about matters, many of which are devolved, and on a subject which is of the greatest possible importance to the people of Scotland and Wales.

Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE)

Cynhaliwyd unfed ar ddeg cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 5 Gorffennaf a chafodd ei gadeirio gan Mr Lidington. Wedi hyn, cyhoeddwyd yr hysbysiad a ganlyn:

The Chair opened the meeting by summarising the recent developments in EU negotiations and the Ministerial level engagement that had taken place since the Committee had last met, including June European Council and the second meeting of the Ministerial Forum on EU Negotiations.
The Parliamentary Under Secretary of State for Exiting the EU, Robin Walker MP, provided an update on negotiations and full overview of June European Council.
The Chair and the Parliamentary Under Secretary of State for Exiting the EU also provided an update on the Department for Exiting the EU’s Future Framework white paper.
The Committee discussed the UK Government’s proposals for the Withdrawal Agreement and Implementation Bill.
The Chair provided an update on the ongoing work on common frameworks.

Yn dilyn cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, gwnaeth Mr Drakeford y datganiad a ganlyn:

Cyn ac yn ystod y drafodaeth, fe nodais yn glir wrth Weinidog y Cabinet, David Lidington, fod y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban wedi cael gweld drafft llawn o’r Papur Gwyn yn golygu nad oeddem wedi cael cyfle ystyrlon i ystyried y cynigion a rhoi sylwadau arnynt.
Mae hyn yn groes i’r sicrhad blaenorol gan Lywodraeth y DU y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at lunio’r safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu. Er hynny, rydym yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddadlau’r achos dros Brexit sy’n amddiffyn buddiannau Cymru.

Dywedodd Mr Lidington wrth y BBC fod llywodraeth y DU am ymgysylltu’n adeiladol â’r gweinyddiaethau datganoledig a’i fod yn bwysig bod llywodraeth y DU yn eistedd i lawr yn rheolaidd gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i drafod paratoadau ar gyfer ymadael â’r UE.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus David Davis AS, y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, ar 26 Mehefin i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch sefyllfa’r trafodaethau â’r UE27 a’r ansicrwydd y mae dull Llywodraeth y DU yn ei greu ar draws meysydd allweddol yr economi ac o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Yn y llythyr hwn, ailadroddodd Mr Drakeford farn Llywodraeth Cymru am fodel llywodraethu yn y dyfodol ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE. Oherwydd y bydd y berthynas hon yn cynnwys materion datganoledig a materion sydd heb eu datganoli, mynegodd ei farn ei bod hi’n hanfodol bod y model llywodraethu’n cael ei ddatblygu a’i weithredu ar y cyd â’r llywodraethau datganoledig. Cyn i’r model gael ei gynnig i’r UE, dywedodd Mr Drakeford fod angen sicrhau ei fod yn ddigonol i weithredu yng nghyd-destun y DU, gan adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig.

Hefyd, wrth drafod trefniadau rhynglywodraethol yn y llythyr, dywedodd fod angen datblygu modelau gweithredu a llywodraethu rhynglywodraethol priodol, gan gyfeirio at gynnig Llywodraeth Cymru ynghylch sefydlu Cyngor y Gweinidogion.

It is clear the JMC process is inadequate to deal with the complexities of the UK’s withdrawal from the EU. As the level of intergovernmental working will increase and intensify a new approach is urgently needed.

Y Papur Gwyn

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu’r Cabinet yn Chequers, gan gytuno ar ffordd ymlaen i Lywodraeth y DU yn ei thrafodaethau â’r UE. Er y cafwyd ambell ymddiswyddiad amlwg yn sgil y cytundeb, gan gynnwys ymddiswyddiad David Davis, ymddengys fod y cytundeb yn parhau. Cafodd y Papur Gwyn ei gyhoeddi ddoe.


Erthygl gan Alys Thomas Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru