Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Economi

Mae angen trefniadau gweithio’n hyblyg, gofal plant a newid diwylliant i gyflawni cydraddoldeb rhywiol yn y gwaith, yn ôl canfyddiadau un o bwyllgorau’r Cynulliad

16 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg

Heddiw, mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cyhoeddi ei adroddiad, ‘Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru‘, yn dilyn ei ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth, rhianta a gwaith

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod strwythur anhyblyg y gweithle a’r rhagdybiaethau gofal plant a wneir o ran rhyw, yn ogystal â’r gwahaniaethu cyffredin sy’n digwydd yn golygu bod mamau yn fwy tebygol o gael eu cyfyngu i waith rhan-amser â chyflog isel gyda llai o gyfleoedd am gynnydd gyrfaol. Ystyriodd y Pwyllgor fod y materion hyn yn achosion allweddol o anghydraddoldeb rhywiol, ac yn cynrychioli colled i’r economi. Mae Cyngor Busnes Menywod Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif y gallai sicrhau cydraddoldeb rhwng cyfraddau cyflogaeth menywod a dynion helpu economi’r DU i dyfu mwy na 10% erbyn 2030.

Beth yw’r broblem?

Yng Nghymru, y gyfradd gyflogaeth i fenywod sydd â phlant dibynnol yw 75%; y gyfradd i ddynion â phlant dibynnol yw 91%.

Mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos, cyn i’r plentyn cyntaf gael ei eni, fod cyfraddau cyflogaeth dynion a menywod yn y DU fwy neu lai yr un fath. Rhwng y flwyddyn cyn geni’r plentyn a’r flwyddyn wedyn, nid yw cyfraddau cyflogaeth dynion yn newid fawr ddim. Fodd bynnag, mae cyfraddau cyflogaeth menywod yn gostwng 33 pwynt canran ar gyfer y rheini sydd â chymwysterau TGAU, 19 pwynt canran ar gyfer y rheini â Safon Uwch, ac 16 pwynt canran ar gyfer graddedigion.

Erbyn yr amser i’r plentyn cyntaf droi’n 12 oed, mae cyflog menywod fesul awr draean yn is na chyflog dynion. Pan fo’r plentyn yn 20 oed, nid yw cyfraddau cyflogaeth menywod yn gyfartal â dynion o hyd.

Graff sy'n dangos bod y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yn cynyddu'n sylweddol ar ôl genedigaeth y plentyn cyntaf
Sefydliad Astudiaethau Cyllid (2016) bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Yn 2016, canfu arolwg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 87% o gyflogwyr yng Nghymru o’r farn ei bod yn fuddiol i sefydliadau gefnogi menywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth. Canfu hefyd fod 71% o famau wedi dweud iddynt gael profiadau negyddol neu wahaniaethu o ganlyniad i gael plant, dywedodd 15% iddynt gael colled ariannol, a dywedodd 10% eu bod hyd yn oed yn teimlo bod rhaid iddynt adael eu swydd.

Ategwyd canfyddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan gyfraniadau unigolion at yr ymchwiliad. Clywodd y Pwyllgor gan nifer sylweddol o fenywod a gafodd eu diswyddo yn ystod beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth, neu a gafodd swydd wahanol neu lai o gyfrifoldebau heb iddynt gael eu hymgynghori. Ni allai eraill gael cyflogaeth hyblyg i gyd-fynd â gofal plant er gwaethaf yr hawl gyfreithiol i ofyn am weithio’n hyblyg, ac fe’u gorfodwyd i hunangyflogaeth ansicr ar dâl isel.

Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?

Mae’r Pwyllgor yn credu y gall Llywodraeth Cymru chwarae rôl allweddol wrth roi diwedd ar wahaniaethu drwy foderneiddio gweithleoedd a rhoi rhwymedigaethau mwy cadarn ar gyrff cyhoeddus a sefydliadau preifat a gwirfoddol sy’n derbyn cyllid cyhoeddus.

Argymhellodd y dylid cyflawni hyn drwy:

  • hybu gweithio’n hyblyg: Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru hysbysebu swyddi yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys swyddi addysgu) fel ‘hyblyg yn ddiofyn’, ac arwain y ffordd trwy ganiatáu rhannu swydd ar gyfer rolau uwch fel Gweinidogion a chynghorwyr;
  • sicrhau bod cyrff cyhoeddus, a busnesau ac elusennau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus yn cymryd cyfrifoldeb am roi diwedd ar wahaniaethu: argymhellodd y Pwyllgor y dylid gosod rhwymedigaethau mwy cadarn ar sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus i ddarparu trefniadau gweithio’n hyblyg ac y dylid cyflwyno adroddiad ar gyfraddau cadw staff sy’n dychwelyd o absenoldeb mamolaeth;
  • ailasesu’r Cynnig Gofal Plant newydd: mae’r Pwyllgor wedi clywed bod cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn annhebygol o gyflawni’i brif nod, sef cynyddu cyflogaeth ymysg mamau. Argymhellodd y Pwyllgor fod y Llywodraeth yn ailystyried y grŵp oedran targed a’r trothwy incwm;
  • annog newid diwylliant: canfu’r Pwyllgor, er bod deddfwriaeth a strwythurau’r gweithle yn bwysig, ni roddir diwedd ar wahaniaethu a thriniaeth annheg oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth ond pan na ystyrir mai cyfrifoldeb y fenyw yn unig yw gofalu’n ddi-dâl am y plentyn. Argymhellodd y dylid cynnwys gwersi am rianta a gofal yn yr addysg newydd ynghylch rhyw a pherthnasoedd, ac y dylid cymryd camau i gynyddu nifer y tadau sy’n manteisio ar gyfnod rhianta wedi’i rannu;
  • gwella’r ddarpariaeth o gyngor a gwybodaeth: dywedodd gweithwyr a chyflogwyr wrth y Pwyllgor eu bod yn methu â chael cyngor ar faterion beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith, a bod cyngor gyrfaoedd yn annigonol i rieni wrth ddychwelyd i’r gwaith. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru’n gwella gwasanaethau cynghori yng Nghymru, a bod y wybodaeth am hawliau a rhwymedigaeth yn y gwaith yn cael ei darparu i fenywod yn gynnar yn ystod eu beichiogrwydd;
  • gwella dulliau casglu data:argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r awdurdodau cyhoeddus gyflwyno adroddiad ar eu cyfraddau cadw mamolaeth, a chyhoeddi’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn modd mwy hygyrch.

 Adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol

Cyhoeddwyd yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar 10 Gorffennaf 2018, yn dilyn ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru yn arweinydd byd-eang mewn cydraddoldeb rhywiol.

Argymhellodd yr adroddiad cyflym y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

  • Datblygu gweledigaeth ac iaith a rennir ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru;
  • Ystyried sefydlu rôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gydraddoldebau a Grymuso Menywod, ochr yn ochr â Phwyllgor Cydraddoldebau a Menywod yn y Cynulliad;
  • Integreiddio’n well rhwng dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);
  • Ystyried yn fanwl y camau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gan gynnwys dadansoddiad o bolisi cyflog yr uwch wasanaeth sifil.
  • Cyflwyno absenoldeb rhiant a rennir ar gyfer cyflogeion Llywodraeth Cymru ar y gyfradd cyflog mamolaeth uwch i dadau sy’n cymryd absenoldeb ac annog yr un arfer da mewn gwasanaethau cyhoeddus;
  • Ymchwilio i werth gofal di-dâl a’i gynnwys ym mesurau economaidd Cymru ochr yn ochr â mesurau traddodiadol megis GYG, a
  • gwella’r modd o gasglu data wedi’u dadgyfuno.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adolygiad cyflym ac adroddiad y Pwyllgor yn nhymor yr hydref.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru