Perthynas y DU â'r UE yn y Dyfodol: Cytundebau Cyd-gysylltiad

Cyhoeddwyd 18/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 12 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. I gael trosolwg o'r cynigion a rhai o'r materion allweddol i Gymru, gweler ein blog blaenorol.

Er mwyn i'r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE weithio, mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd angen trefniadau sefydliadol ar y cyd newydd ac mae'n awgrymu y gallai'r trefniadau hyn fod ar ffurf Cytundeb Cyd-gysylltiad. Mae nifer o Gytundebau Cyd-gysylltiad ar waith ar hyn o bryd rhwng yr UE a thrydydd gwledydd. Bydd y blog hwn yn edrych ar beth yw Cytundeb Cyd-gysylltiad, pam mae'r UE yn ceisio'r cytundebau hyn a pha gytundebau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Beth yw Cytundeb Cyd-gysylltiad?

Cytundeb dwyochrog rhwng yr UE a thrydedd wlad (heb fod yn yr UE) yw Cytundeb Cyd-gysylltiad sy'n creu fframwaith ar gyfer cydweithredu. Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer Cytundeb Cyd-gysylltiad, fel y'i diffinnir yn Erthygl 217 o Gytundeb Swyddogaethau'r UE, yn darparu ar gyfer cyd-gysylltiad sy'n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau cyfatebol, camau gweithredu cyffredin a gweithdrefnau arbennig.

Yn ôl y Sefydliad Llywodraeth, mae'r UE yn defnyddio Cytundebau Cyd-gysylltiad i greu 'cysylltiadau breintiedig' gyda gwledydd nad ydynt yn aelodau. Felly, bydd Llywodraeth y DU yn gobeithio gweld yr UE yn defnyddio Cytundeb Cyd-gysylltiad i sefydlu Ardal Fasnach Rydd ar gyfer nwyddau, creu partneriaeth diogelwch newydd a darparu ar gyfer cytundebau cydweithredol mewn meysydd megis gwyddoniaeth ac arloesedd, diwylliant ac addysg, a gofod, ymhlith pethau eraill.

Yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ym mis Ionawr 2018, disgrifiodd Dr Tobias Lock o Brifysgol Caeredin Gytundeb Cyd-gysylltiad fel rhywbeth “yn y canol” rhwng 'opsiwn Norwy' (aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd) ac 'opsiwn Canada' (cytundeb economi a masnach a drafodir fesul pennod). Gwneir y pwynt hwn yn glir hefyd yn y graffig a gyflwynwyd gan Michel Barnier i'r Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau yn y Cyngor Ewropeaidd ar 15 Rhagfyr 2017, sy'n defnyddio'r Wcráin fel enghraifft o'r berthynas y gall trydydd wlad ei chael gyda'r UE o dan Gytundeb Cyd-gysylltiad.

Pa Gytundebau Cyd-gysylltiad sydd ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae gan yr UE dros 20 o Gytundebau Cyd-gysylltiad, gan gynnwys:

Pam mae'r UE yn ceisio Cytundebau Cyd-gysylltiad?

Nid yw pob Cytundeb Cyd-gysylltiad yn ateb yr un diben, gan fod nifer o resymau pam y gall yr UE fod am geisio Cytundeb Cyd-gysylltiad gyda thrydedd wlad.

Sefydlwyd Cytundebau Cyd-gysylltiad yn wreiddiol gan yr UE i baratoi gwledydd nad oeddent yn aelodau ar gyfer eu derbyn. Yng nghyd-destun derbyniad i'r UE a'r broses o ehangu'r UE, mae Cytundebau Cyd-gysylltiad yn gweithredu fel sail ar gyfer gweithredu'r broses dderbyn. Mae Cytundebau Cyd-gysylltiad at y diben hwn yn bodoli ar hyn o bryd gyda Gwledydd Gorllewin y Balcan a Thwrci.

Yn fwy diweddar, mae'r UE wedi defnyddio Cytundebau Cyd-gysylltiad ar gyfer set ehangach o ddibenion, gan gynnwys datblygu cysylltiadau gwleidyddol ac economaidd hirdymor mwy dwys â thrydydd gwledydd nad ydynt yn ymgeiswyr i gael eu derbyn i'r UE, er enghraifft Cytundeb Cyd-gysylltiad Wcráin-UE.

At hynny, defnyddir Cytundebau Cyd-gysylltiad hefyd i wella masnach gyda gwledydd nad ydynt yn aelodau sydd heb unrhyw uchelgais o gael mynediad i'r UE nawr nac yn y dyfodol. Nid oes angen i'r siroedd hyn fod yn rhan o Bolisi Cymdogaeth Ewrop na bod wedi'u lleoli yn agos yn ddaearyddol i'r UE. Er enghraifft, mae'r UE wrthi'n trafod cytundeb masnach deuranbarthol gyda'r pedair wladwriaeth a sefydlodd Mercosur - Ariannin, Brasil Paraguay ac Uruguay - fel rhan o Gytundeb Cyd-gysylltiad ehangach rhwng y ddau ranbarth. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gobeithio y bydd y Cytundeb Cyd-gysylltiad hwn yn sicrhau gostyngiad mewn tariffau ar nwyddau a gynhyrchir yn Aelod-wladwriaethau'r UE a gaiff eu hallforio i wladwriaethau Mercosur, yn ogystal â lleihad mewn rhwystrau nad ydynt yn dariffau drwy symleiddio'r gweithdrefnau tollau ac alinio'n well â safonau a rheoliadau technegol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Nid yw'r UE wedi ymateb yn ffurfiol i gynigion Llywodraeth y DU eto. Fodd bynnag, pan roddodd Guy Verhofstadt, cydgysylltydd Brexit Senedd Ewrop, dystiolaeth i Bwyllgor Ymadael â'r UE Tŷ'r Cyffredin ar 20 Mehefin, dywedodd mai model o ddewis Senedd Ewrop ar gyfer partneriaeth yn y dyfodol yw i'r DU a'r UE lofnodi Cytundeb Cyd-gysylltiad:

We [the European Parliament] think it has to be an association agreement that is foreseen in our treaties in Articles 8 and 217. On the one hand, that gives an enormous flexibility, because an association agreement can be very narrow; you can limit yourself only to trade, for example. In an association agreement you can be very broad. You can also put cooperation on foreign and security policy in it. It is flexible and precise at the same time, because you are going to create one governance structure and you are going to create not only one governance structure but also one cycle of ratification.

Yn ôl Mr Verhofstadt:

The advantage of an association agreement is that once it is approved by your side and by the European institutions, the Council and Parliament, it is applicable in advance; you do not need to wait for ratification by the other 27 member states, which can take some time.

Serch hynny, fel y nodwyd yn y Papur Gwyn, ‘the legal base that would need to be cited under the EU Treaties would be for the EU to determine’ a byddai manylion am y cytundeb yn ddarostyngedig i'r drafodaeth â'r UE. Yn flaenorol, disgrifiodd Mr Verhofstadt y cynnig o Gytundeb Cyd-gysylltiad fel ymgais i greu pont rhwng llinellau coch Llywodraeth y DU ac egwyddorion yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid aros i weld sut y bydd yr UE yn ymateb i gynigion Llywodraeth y DU ac a ydynt yn pontio safbwyntiau a buddiannau'r ddau barti.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru