Cynllun Pwyllgor ar gyfer sifftio rheoliadau Brexit

Cyhoeddwyd 20/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 10 Gorffennaf 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad Y pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth – materion gweithredol. Mae’r erthygl hon yn ei grynhoi.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Ar 13 Gorffennaf 2017, cafodd y Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd y Bil yn nodi sut y bydd y corff o gyfraith gyfredol yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn cael ei drosi’n gyfraith y DU (a elwir yn gyfraith yr UE a ddargedwir) pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Cwblhaodd y Bil ei daith trwy Dŷ’r Cyffredin ar 17 Ionawr 2018 a Thŷ’r Arglwyddi ar 16 Mai 2018. Yn dilyn ping pong, cytunodd y ddau Dŷ ar destun y Bil ar 20 Mehefin 2016 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin 2018, gan ddod yn Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“Deddf 2018”).

Mae Deddf 2018 yn rhannu cyfraith yr UE a ddargedwir (h.y. unrhyw gyfraith sydd, ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny, yn parhau i fod yn gyfraith ddomestig neu’n rhan ohoni) yn dri chategori:

  • Deddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE (o dan adran 2 o Ddeddf 2018);
  • Deddfwriaeth uniongyrchol yr UE (o dan adran 3 o Ddeddf 2018);
  • Hawliau, pwerau, rhwymedigaethau ac ati sy’n codi o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (o dan adran 3 o Ddeddf 2018).

Mae Deddf 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddelio â diffygion sy’n deillio o ymadawiad y DU ac i weithredu’r cytundeb ymadael. Gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pwerau gwneud rheoliadau hyn i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir, yn amodol ar rai cyfyngiadau pwysig. Er enghraifft, ni châi Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pwerau hynny i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir pan fyddai’r newid yn groes i’r cyfyngiadau a osodir gan reoliadau Llywodraeth y DU (h.y. cyfyngiadau a osodir ar Weinidogion Cymru).

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ynghylch Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Canolbwyntiodd yn bennaf ar y newidiadau y dylid eu gwneud, yn ym marn y Pwyllgor, i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ystod ei hynt, ar y pryd, drwy Dŷ’r Arglwyddi. Nododd yr adroddiad hwnnw:

Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno adroddiad yn ddiweddarach ar faterion mwy gweithredol sy’n ymwneud â chraffu ar yr is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil, gan gynnwys, lle bo’n briodol, unrhyw newidiadau sydd eu hangen, yn ein barn ni, i Reolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Bil terfynol a gaiff ei gymeradwyo gan Senedd y DU hefyd yn debygol o ddylanwadu ar y materion hyn.

Beth yw’r “broses sifftio”?

Mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 yn darparu ar gyfer pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol i sifftio rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol (“rheoliadau negyddol arfaethedig”) ac i argymell y weithdrefn briodol i’w dilyn. Mae manylion y broses sifftio a nodir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2018, fel y mae’n gymwys i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel a ganlyn:

  • rhaid gosod yr holl reoliadau y bwriedir eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan y pwerau yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 (ac eithrio’r rhai sydd i’w gwneud ar y cyd â Gweinidogion y DU), ac y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol;
  • o fewn cyfnod o 14 diwrnod calendr ar ôl gosod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau negyddol arfaethedig (h.y. eu gwneud yn gyfraith), oni bai bod pwyllgor sifftio’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau;
  • o fewn y 14 diwrnod calendr hynny, caiff pwyllgor sifftio’r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y rheoliadau negyddol arfaethedig ac adrodd ar ei argymhelliad y dylai’r rheoliadau ddilyn gweithdrefn amgen (megis y weithdrefn gadarnhaol);
  • ar ôl i’r 14 diwrnod calendr fynd heibio (neu yn gynt os bydd pwyllgor sifftio’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud argymhelliad), caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen â’r rheoliadau negyddol arfaethedig o dan naill ai:
    • y weithdrefn a gaiff ei hargymell gan bwyllgor sifftio’r Cynulliad Cenedlaethol, fel y weithdrefn gadarnhaol (h.y. mae’n ofynnol cynnal dadl a phleidlais ar yr offeryn yn y Cynulliad Cenedlaethol cyn y caiff ei wneud a’i ddwyn i rym), neu
    • y weithdrefn negyddol (h.y. mae’r offeryn wedi’i wneud a chaiff ei ddwyn i rym, ond caiff ei ddiddymu os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei ddiddymu o fewn 40 diwrnod i’w osod).

Yr Adroddiad

Mae’r adroddiad diweddaraf yn ymdrin â materion gweithredol o ran cynnal y sifft. Argymhellodd y Pwyllgor:

  • y dylid diwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu bod y swyddogaeth o wneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol i’w defnyddio ar gyfer rheoliadau sy’n ddarostyngedig i’r broses sifftio o dan Ddeddf 2018 yn cael ei haseinio i bwyllgor.
  • Gan gymryd mai i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y caiff y swyddogaeth o sifftio rheoliadau o dan Ddeddf 2018, dylai Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol iddo gyhoeddi’r meini prawf y byddwn yn eu cymhwyso i reoliadau sy’n ddarostyngedig i’r broses sifftio.
  • Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon na fydd ein hargymhellion ni fel y pwyllgor sifftio yn rhwymol, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid diwygio’r Rheolau Sefydlog i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru esbonio pam nad ydynt yn cytuno ag argymhellion y Pwyllgor (fel sy’n gymwys i Weinidogion y DU ym mharagraff 3(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018).
  • Dylai Arweinydd y Tŷ ysgrifennu at y Pwyllgor cyn diwedd mis Gorffennaf 2018, gan roi diweddariad i ni o ran nifer y rheoliadau y bydd eu hangen i gywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r UE, yn ogystal â diweddariad ar nifer y rheoliadau eraill y bydd angen eu gwneud o dan Ddeddf 2018.
  • Wrth benderfynu ar amserlenni pwyllgorau yn y dyfodol, yr ystyrir yr angen posibl i’r Pwyllgor, yn ei rôl fel y pwyllgor sifftio, gyfarfod am fwy o amser a/neu gyfarfod ar ddiwrnod gwahanol a/neu gyfarfod yn amlach nag unwaith yr wythnos er mwyn craffu ar y rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 2018.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gytundeb gyda ni fel y pwyllgor sifftio i gynnwys:
    • system rhybudd buan i helpu i reoli’r gwaith craffu ar yr holl is-ddeddfwriaeth hyd ddiwedd y Cynulliad hwn (yn 2021);
    • y diwrnod gorau ar gyfer gosod y rheoliadau negyddol arfaethedig o dan Ddeddf 2018; ac
    • unrhyw fater arall a fydd yn helpu gyda’r gwaith o graffu ar reoliadau a wneir o dan Ddeddf 2018 mewn modd effeithiol ac effeithlon, yn arbennig rheoliadau i gywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir.
  • Bod Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol, lle y bo Gweinidogion y DU yn gweithio ar eu pen eu hunain mewn meysydd datganoledig yn gosod gerbron Senedd y DU reoliadau mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, a lle ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydsynio i wneud y rheoliadau hynny:
    • bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un diwrnod gwaith i osod y rheoliadau; a
    • bod memorandwm esboniadol yn cyd-fynd â hysbysiad o’r fath yn crynhoi diben ac effaith y rheoliadau ac yn esbonio pam mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad.
  • Bod Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol, lle y bo Gweinidogion y DU yn gweithio ar eu pen eu hunain yn gosod gerbron Senedd y DU reoliadau mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, a lle nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru gydsynio i wneud y rheoliadau hynny:
    • bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un diwrnod gwaith i osod y rheoliadau; a
    • bod memorandwm esboniadol yn cyd-fynd â hysbysiad o’r fath yn crynhoi diben ac effaith y rheoliadau.
  • Dylid diwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu gweithdrefn mewn perthynas â’r darpariaethau yn adran 109A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn arbennig i wneud memorandwm esboniadol yn ofynnol sydd:
    • yn crynhoi effaith rheoliadau y mae Gweinidogion y DU yn bwriadu eu gosod o dan adran 109A(3) o Ddeddf 2006;
    • yn gwneud argymhellion o ran a ddylid gwneud y rheoliadau drafft perthnasol yn ddiweddarach gan Weinidogion y DU;
    • yn esbonio’r rhesymau dros wneud yr argymhelliad;
    • i’w gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor Busnes gyfeirio’r memorandwm esboniadol hwnnw at bwyllgor neu bwyllgorau.

Beth nesaf?

Mae’r rheoliadau drafft cyntaf yn debygol o gael eu gosod yn gynnar yn nhymor yr hydref. Disgwylir y bydd y newidiadau angenrheidiol i’r Rheolau Sefydlog yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar ôl toriad yr haf.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru