Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Economi Lles Anifeiliaid Yr Amgylchedd

Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Y sector bwyd-amaeth

26 Gorffennaf 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma’r erthygl ddiweddaraf mewn cyfres sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol, a gyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf. I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, darllenwch ein herthygl blog flaenorol.

Mae’r erthygl hon yn edrych yn benodol ar elfennau’r Papur Gwyn sydd fwyaf perthnasol i’r sector bwyd-amaeth ac yn crynhoi’r ymateb gan y sector, Llywodraeth Cymru ac, yn hollbwysig, yr UE.

Y Bartneriaeth Economaidd

Un o brif nodweddion y Papur Gwyn yw’r bartneriaeth economaidd arfaethedig rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Rhan allweddol o’r bartneriaeth economaidd yw creu ardal masnach rydd newydd ar gyfer nwyddau, gan gynnwys nwyddau bwyd-amaeth.

Mae’r cynigion yn cynnwys llyfr rheolau cyffredin ar gyfer nwyddau bwyd-amaeth sy’n canolbwyntio’n bennaf ar reolau y mae’n rhaid eu gwirio wrth y ffin. Mae’r papur yn dweud y byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU wneud ymrwymiad ymlaen llaw i gysoni rheolau â’r UE. Byddai’r DU yn ceisio cymryd rhan ym mhwyllgorau technegol perthnasol yr UE sydd â rôl wrth lunio a gweithredu rheolau sy’n rhan o’r llyfr rheolau cyffredin, er na fyddai ganddi hawliau pleidleisio.

Mae’r papur yn gosod y rheolau sy’n gymwys i gynhyrchion bwyd-amaeth mewn tri chategori:

  • Y rhai y mae’n rhaid eu gwirio wrth y ffin, gan gynnwys rheolau i sicrhau iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion;
  • Y rhai sy’n ymwneud â pholisi bwyd ehangach ac nad oes angen eu gwirio wrth y ffin, gan gynnwys rheolau labelu; ac
  • Y rhai sy’n ymwneud â dull cynhyrchu domestig, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

Mae’r papur yn cynnwys Dangosyddion Daearyddol, a elwir hefyd yn enwau bwydydd gwarchodedig, yn yr ail gategori (rheolau nad oes angen eu gwirio wrth y ffin). Mae’n dweud y bydd y DU yn sefydlu ei chynllun Dangosyddion Daearyddol ei hun ar ôl Brexit a fydd yn agored i geisiadau o’r tu mewn a’r tu allan i’r DU. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 15 o gynhyrchion gwarchodedig fel Dangosyddion Daearyddol ac mae’r papur yn cydnabod arwyddocâd penodol cig oen a chig eidion o Gymru.

Mae’r papur hefyd yn ailadrodd y bydd y DU yn gadael y PAC. Ar 10 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer polisi rheoli tir newydd i ddisodli’r PAC.

Mae elfennau eraill yr ardal masnach rydd newydd ar gyfer nwyddau’n cynnwys:

  • Dim tariffau ar nwyddau bwyd-amaeth a dim cwotâu na rheolau o ran gofynion tarddiad ar gyfer nwyddau a fasnechir rhwng y DU a’r UE.
  • Trefniad Tollau Hwylusedig (FCA) newydd pan fyddai’r DU yn codi prisiau’r DU ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU ar gyfer marchnad y DU a thariffau’r UE ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU ond sydd wedi’u pennu ar gyfer marchnad yr UE.
  • Trefniadau cydweithredu â’r UE er mwyn goruchwylio’r farchnad a sicrhau y caiff y rheolau eu dilyn yn y ddwy farchnad. Byddai hyn yn golygu y byddai ar y DU angen mynediad at systemau cyfathrebu presennol yr UE, megis y System Rhybudd Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF).

Mae cynigion eraill yn y papur yn cynnwys:

  • Cydnabod ar y ddwy ochr gymwysterau proffesiynol, sy’n golygu y gall gweithwyr proffesiynol ddarparu gwasanaethau yn y DU a’r UE. Gallai hyn fod yn arbennig o arwyddocaol i’r sector milfeddygol gan fod tua chwarter y milfeddygon yng Nghymru yn wladolion o’r UE nad ydynt yn dod o’r DU, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r rhai sy’n gyfrifol am fonitro hylendid cig mewn lladd-dai.
  • Cyfranogiad y DU yn asiantaethau allweddol yr UE sydd â rhan arwyddocaol wrth osod nwyddau ar y farchnad (fodd bynnag, ni sonnir am Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yn y papur).
  • Cytuno i fabwysiadu’r un system a rheolau ar gymorth gwladwriaethol, a chydweithrediad agos o ran rheoleiddio cystadleuaeth.
  • Ymrwymiad i gynnal y lefel isaf o ran safonau amgylcheddol, newid hinsawdd ac amddiffyniadau cymdeithasol ac yn arbennig cymal nad yw’n atchweliad ar safonau amgylcheddol a safonau llafur domestig.
  • Gallu’r DU i ddilyn polisi masnach annibynnol y tu allan i’r UE lle gallai osod ei thariffau ei hun ond y byddai’r llyfr rheolau cyffredin yn cyfyngu arni o ran pryd y gallai ganiatáu safonau gwahanol i’r UE o ran cynnyrch.

Mae llawer o’r cynigion yn y papur yn gyson yn fras â chasgliadau ac argymhellion a wnaed mewn dau adroddiad gan Bwyllgorau’r Cynulliad – adroddiad ar berthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol (Mawrth 2018) gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ac adroddiad ar ddyfodol rheoli tir (Mawrth 2017) gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mae’r ddau adroddiad yn trafod pwysigrwydd gweithwyr mudol yr UE i’r sector bwyd-amaeth. Nid yw’r papur yn trafod anghenion llafur y sector bwyd-amaeth. Yn hytrach, mae’n pwysleisio y bydd symudiad rhydd pobl yn cael ei ddisodli â fframwaith newydd ar gyfer symudedd nad yw’n ymddangos ei fod yn cynnig ffordd i weithwyr bwyd-amaeth mudol dros dro na pharhaol o’r UE i ddod i mewn i’r DU fel y gwnânt ar hyn o bryd. Mae’r papur yn nodi y bydd trefniadau mewnfudo’r DU yn y dyfodol yn nodi sut y gall y rhai o’r UE a mannau eraill wneud cais i weithio yn y DU.

Cawsiau o Gymru ar lechen

Ymateb y sector bwyd-amaeth

Dywedodd Ian Wright, Prif Weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod, ei bod yn eithriadol o galonogol bod y Papur Gwyn yn ceisio sicrhau mai dim gwrthdaro wrth fasnachu â’n partner masnachu pwysicaf yw ei brif flaenoriaeth o ran Brexit. Wrth wneud hynny, pwysleisiodd fod gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi integredig, gyda chynhwysion a chynhyrchion gorffenedig yn croesi ffiniau’r DU a’r UE yn aml.

Dywedodd ei bod yn gadarnhaol bod y papur yn dechrau mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf perthnasol ar gyfer gweithgynhyrchwyr, megis rheolau tarddiad, ond bod llawer mwy o waith i’w wneud, gan bwysleisio’r effaith y gall rheolau tarddiad ei hachosi ar gyfer cadwyni cyflenwi byd-eang.

Dywedodd hefyd fod angen deall mwy am y ffordd y byddai’r llyfr rheolau cyffredin yn gweithio’n ymarferol ac, er ei fod yn croesawu’r ffaith y byddai’r DU yn parhau i geisio dylanwadu ar bwyllgorau technegol yr UE a chael mynediad at RASFF, mae llawer o gwestiynau o hyd am ein perthynas werthfawr ag EFSA.

Roedd datganiad ar y cyd gan lywyddion pedwar undeb ffermio’r DU, gan gynnwys NFU Cymru, hefyd yn croesawu’r cynigion ar gyfer dim gwrthdaro wrth fasnachu, gan nodi bod egwyddor ardal masnach rydd ar gyfer nwyddau’n hanfodol i’r sector bwyd-amaeth.

Dywedwyd eu bod yn falch bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal safonau cynhyrchu a lles uchel a phwysleisiodd ei bod yn hanfodol nad yw polisi masnach annibynnol y DU yn ceisio tanseilio’r safonau hynny. Galwyd am fwy o eglurder ynghylch y berthynas fasnachu rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a gobeithio y byddwn yn cynnal y lefelau uchel o fasnach gyda’n marchnad fwyaf ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth.

Roeddent hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithwyr tymhorol a pharhaol o’r tu allan i’r DU ac yn galw am bolisi mewnfudo newydd ar sail angen busnes sy’n adlewyrchu pwysigrwydd y gweithwyr hyn i’n sector bwyd a ffermio.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ar 17 Gorffennaf, ymatebodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, i’r Papur Gwyn mewn datganiad yn y Cynulliad. Nid oedd yn frwd am y cynigion, gan ddweud bod Llywodraeth y DU “wedi cymryd rhai camau sigledig i’r cyfeiriad [cywir]” (h.y. safbwynt Llywodraeth Cymru, sef cyfranogiad llawn yn y Farchnad Sengl ac aelodaeth o Undeb Tollau ond ei fod hefyd yn “gam… sylweddol o bosib”. Dywedodd hefyd, “am bob ateb y mae’r Papur Gwyn yn ceisio ei roi, mae cyfres arall o gwestiynau yn codi”.

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet â’r cynigion ar gyfer ardal masnach rydd ar gyfer nwyddau, gan gynnwys nwyddau bwyd-amaeth, ac ar gyfer yr angen i gysoni â rheolau penodol yr UE drwy lyfr rheolau cyffredin. Dywedodd y gallai’r cynigion ar gyfer tiriogaeth tollau cyffredin fod yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond gofynnodd sut y byddai’r “cynigion tollau astrus” yn gweithio’n ymarferol. Gofynnodd hefyd sut y byddai’r DU yn darparu gwarantau digonol i’r UE ar safonau amgylcheddol a llafur, er mwyn sicrhau y caiff pawb ei drin yn yr un modd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod y papur yn gyfle a gollwyd i roi eglurder ar faterion mudo ac ailadroddodd safbwynt Llywodraeth Cymru, sef system sy’n “gydnaws â’r egwyddor o ryddid pobl i symud, ond lle bo cyswllt amlwg rhwng mudo a chyflogaeth”.

Yn olaf, galwodd ar y Prif Weinidog i “ddatgan yn blaen mai bwriad y DU yw aros yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol, a pharhau mewn undeb tollau.”

Ymateb yr UE

Ar 20 Gorffennaf, cyhoeddodd Michel Barnier, Prif Negodwr yr UE, ddatganiad i’r wasg yn amlinellu ei ymateb i’r Papur Gwyn. Adroddodd Politico fod ei sylwadau, fwy neu lai, wedi lladd y cynigion ar gyfer ardal masnach rydd ar gyfer nwyddau a threfniad tollau newydd.

Ailddatganodd Michel Barnier ymrwymiad yr UE i’r Farchnad Sengl ac anwahanoldeb ei phedwar rhyddid, sy’n cynnwys rhyddid gweithwyr i symud.

Cwestiynodd y cynigion ar gyfer llyfr rheolau cyffredin ar gyfer nwyddau, ond dim ond ar gyfer rheolau y mae’n rhaid eu gwirio wrth y ffin. Gofynnodd sut y gellid diogelu defnyddwyr yr UE heb gynnwys safonau bwyd-amaeth eraill, nas rheolir wrth y ffin, megis Organeddau a Addaswyd yn Enetig (GMO) a phlaladdwyr.

Cwestiynodd hefyd y cynigion ar gyfer cymhwyso dau dariff yn yr ardal dollau newydd gan ofyn a oedd hyn yn ymarferol heb gymhlethdod na biwrocratiaeth ychwanegol ac a fyddai mwy o berygl o dwyll.

Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu gwrthod y cynigion yn llwyr o gwbl. Dywedodd Michel Barnier fod sawl elfen sy’n agor y ffordd ar gyfer trafodaeth adeiladol ar y berthynas yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys cytundeb masnach rydd a ddylai fod wrth wraidd ein cysylltiadau economaidd ac ymrwymiadau’r DU mewn perthynas â chwarae teg i bawb, yn enwedig ym maes cymorth gwladwriaethol a safonau amgylcheddol a llafur.

Bydd yr erthygl nesaf yn y gyfres hon yn edrych ar yr hyn y mae’r Papur Gwyn yn ei ddweud ar ddiogelu’r amgylchedd.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru