Pa Filiau sydd ar eu ffordd?

Cyhoeddwyd 27/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 12 Gorffennaf 2018, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn. Cyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pum Bil.

Dechreuodd y Prif Weinidog ei ddatganiad trwy nodi'r amgylchedd deddfwriaethol heriol y mae'r Cynulliad yn ei hwynebu:

Rydym yn gwybod mai'r flwyddyn o'n blaenau fydd un o'r prysuraf o ran deddfwriaeth ers i Gymru gael pwerau deddfu sylfaenol. Wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yna swm sylweddol o waith i'r Cynulliad hwn ymgymryd ag ef rhwng nawr a mis Mawrth os ydym am gael llyfr statud cwbl weithredol wrth inni ymadael. Bydd hwn yn gyfnod heriol ac ni ddylid tanamcangyfrif y llwyth gwaith deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â gadael yr UE.
Bydd angen i'r Cynulliad ymdrin â rhaglen sylweddol o gywiro rheoliadau o dan y Ddeddf tynnu'n ôl o'r UE rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen ar gyfer Biliau sy'n gysylltiedig â Brexit dros y 12 mis nesaf, ac mae'n debygol y bydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar nifer o Filiau Brexit y DU. Cyn belled ag y bo modd, ni ddylem ganiatáu i'r llwyth gwaith Brexit hwn gyfyngu ar ein huchelgeisiau deddfwriaethol, ond mae'n rhaid inni fod yn hyblyg ac yn barod i addasu ein rhaglen ddeddfwriaethol pe bai'r angen yn codi.

Y Biliau

Argymhellir gan Lywodraeth Cymru:

Fil yn gwahardd cosbi plant yn gorfforol

Byddai'r Bil yn darparu amddiffyniad cyfreithiol cyfartal yng Nghymru i blant ac oedolion rhag cosb gorfforol trwy gael gwared ar amddiffyniad presennol rhieni o dan adran 58 o Ddeddf Plant 1989 o 'gosb resymol'. O dan y gyfraith ar hyn o bryd, ar yr amod nad yw eu gweithredoedd yn achosi anaf, niwed corfforol gwirioneddol, niwed corfforol difrifol na chreulondeb i blentyn, nid yw'n anghyfreithlon i rieni smacio eu plentyn ar y sail bod hynny'n gosb resymol (er, gallai gyfrif fel ymosodiad yn achos unrhyw blentyn heblaw am eu plentyn eu hunain).

Byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yng nghyd-destun hawliau plant a'i hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ni fyddai'r Bil yn creu trosedd newydd; byddai'n dileu amddiffyniad o ran y drosedd bresennol o ymosodiad cyffredin neu guro.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad a barodd o 9 Ionawr 2018 tan 2 Ebrill. Daeth hyn ar ol pleidlais yn y Cynulliad yn ôl ym mis Hydref 2011 (PDF 1.04MB) i gefnogi mewn egwyddor ystyried deddfwriaeth i 'gael gwared â’r gallu i ddefnyddio cosb gyfreithlon fel amddiffyniad'

Bil Deddfwriaeth a Dehongliadau

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil i wella hygyrchedd cyfraith Cymru a gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff deddfwriaeth Cymru ei dehongli. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mawrth 2018 a lansiodd ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 12 Mehefin. Hefyd, rhoes dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 14 Mai 2018.

Bil Llywodraeth Leol

Cyflwynir y Bil hwn yn y flwyddyn i ddod a bydd yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol, gan gynnwys ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyrdd, Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawnu dros ein Pobl[1MB]. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad yn yr un prynhawn â'r datganiad am y Rhaglen Ddeddfwriaethol. Dywedodd fod yr ymgynghoriad wedi cael ei gwblhau ac y byddai'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion [515kb]. Dywedodd hefyd:

Mae’r ymgynghoriad wedi awgrymu bod awydd ymhlith llywodraeth leol i gydweithio i fwrw ymlaen ag uno gwirfoddol ac i gynyddu a gwella gweithio rhanbarthol. Felly, rwy’n bwriadu cyflwyno’r Bil llywodraeth leol (Cymru) yn gynnar y flwyddyn nesaf i ddeddfu er mwyn galluogi hyn i symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Cafodd hyn, Llywydd, ei gadarnhau gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Bydd y Bil hefyd yn darparu ar gyfer diwygio etholiadol, newidiadau i drefniadau llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol, a nifer o gynigion eraill, gan gynnwys y pŵer cymhwysedd cyffredinol, a gefnogwyd yn fras yn yr ymgynghoriad.

Bil i sefydlu dyletswydd ansawdd i'r GIG yng Nghymru a dyletswydd gonestrwydd o ran iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddai dyletswydd gonestrwydd yn gosod rhwymedigaethau statudol ar bob corff iechyd yng Nghymru i fod yn agored a thryloyw, a byddai'n nodi proses y byddai'n rhaid ei dilyn pan fo pethau'n mynd o chwith ac mae pobl yn dioddef niwed. Byddai'r Bil hwn hefyd yn sefydlu corff annibynnol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, gan sicrhau bod gan bobl lais cryfach sy'n adlewyrchu eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai hefyd yn cynnwys cynigion i'w gwneud yn ofynnol i fyrddau ymddiriedolaethau'r GIG benodi is-gadeiryddion.

Cynhwyswyd y cynigion mewn Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn 2017, Gwasanaethau sy'n Addas i’r Dyfodol, Ansawdd a Llywodraethiant ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru. Ymgynghorwyd yn eu cylch a chyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion.

Bil i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol.

Mewn adolygiad annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016, cefnogwyd gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol a sŵau symudol. Cafodd deiseb a oedd yn galw ar i Lywodraeth Cymru wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ei drafod gan y Pwyllgor Deisebau ar 23 Ionawr 2018 a chynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2018.

Yn ei ddatganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol, dywedodd y Prif Weinidog:

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol. Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.

Mae gwaharddiad eisoes yn gyfraith yn yr Alban.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru