Y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol: pa effaith a gaiff hyn ar economi Cymru?

Cyhoeddwyd 31/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU mae'r amlinelliad manylaf eto o'r weledigaeth ar gyfer perthynas economaidd y DU â'r UE ar ôl Brexit. Sut fyddai'r berthynas newydd hon yn effeithio ar economi Cymru? Dyma un o gyfres o flogiau sy'n edrych ar sefyllfa Cymru ym mherthynas Llywodraeth y DU â'r UE yn y dyfodol, ac mae'n dilyn erthygl sy'n trafod diogelwch amgylcheddol.

Pa rannau o economi Cymru y bydd Brexit yn effeithio arnynt?

Mae Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd wedi ysgrifennu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru sy'n ystyried pa rannau pwysig o economi Cymru y mae Brexit yn debygol o effeithio arnynt (Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru). Cynhaliwyd yr ymchwil i raddau helaeth drwy lens Cwmnïau Angori a Chwmnïau Pwysig Rhanbarthol (mae “Cwmnïau Angori” yn gwmnïau rhyngwladol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru), ac nid yw'n ystyried amaethyddiaeth na physgodfeydd.

Roedd adroddiad Prifysgol Caerdydd yn cynnwys y tabl a ganlyn, sy’n crynhoi’r risgiau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y gwahanol sectorau yn economi Cymru:

Crynodeb o sut y cafodd gwahanol sectorau eu graddio o ran gwahanol agweddau ar risg Ar 21 Mehefin 2018, cyhoeddodd cwmni awyrofod Airbus asesiad risg, gan dynnu sylw at ei bryderon ynglŷn â Brexit, yn enwedig pe bai'r DU yn gadael yr UE heb fargen. Craidd y pryderon yw'r posibiliad y bydd newidiadau i reolau'r Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl, sydd ar hyn o bryd yn galluogi cadwyni cyflenwi integredig i weithredu ledled Ewrop, a chyfyngiadau posibl ar ryddid staff Airbus i symud. Roedd y pryderon hyn yn destun blog blaenorol.

Masnach esmwyth mewn nwyddau: cynnal y status quo

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig sefydlu “ardal fasnach rydd ar gyfer nwyddau”. Mae o'r farn y byddai hyn yn “gwarchod y cadwyni cyflenwi sydd wedi’u hintegreiddio mewn ffordd mor unigryw a phrosesau ‘mewn union bryd’ sydd wedi datblygu ledled y DU a’r UE dros y 40 mlynedd diwethaf”. Byddai hyn yn cael ei ategu gan:

  • “Llyfr rheolau cyffredin” ar gyfer nwyddau, gan gynnwys bwyd-amaeth, sy’n trafod y rheolau hynny sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau masnach esmwyth rhwng y DU a'r UE.
  • Cyfranogiad y DU yn asiantaethau’r UE sy’n awdurdodi nwyddau mewn sectorau sy’n cael eu rheoli’n llym, sef yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd, yr Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewropeaidd a’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd.
  • Dim tariffau ar unrhyw nwyddau.

Mae cyfran uwch o allforion Cymru yn mynd i'r UE nag o unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU: Allforion nwyddau'r DU yn ôl gwlad a rhanbarth Graff allforion nwyddau'r DU yn ôl gwlad a rhanbarth Yn 2017 aeth 60 y cant o allforion nwyddau adnabyddadwy Cymru i'r UE, o gymharu â 50 y cant ar draws y DU gyfan.

Mae Brexit yn fygythiad i ddiwydiannau gwerth uchel sydd â phresenoldeb mawr yng Nghymru – megis awyrofod a modurol – oherwydd eu bod wedi'u rheoleiddio'n llym ac yn cynnwys cadwyni cyflenwi cymhleth a thrawsffiniol. Mae cynigion y Papur Gwyn, i bob golwg, yn lliniaru'r bygythiadau hyn, oherwydd maent wedi'u cynllunio i gynnal y status quo ar gyfer y fasnach nwyddau: dim tariffau, a chysondeb rheoleiddiol parhaus rhwng y DU a'r UE yn y maes hwn.

Roedd Airbus wedi mynegi pryderon ynghylch creu rhwystrau rhwng y DU a'r UE pe bai'r DU yn gadael Undeb Tollau yr Undeb Ewropeaidd. Er bod y DU yn bwriadu gadael yr Undeb Tollau, mae'r Papur Gwyn yn cynnig “Trefniant Tollau wedi’i Hwyluso”, a fyddai'n dileu’r prosesau tollau rhwng y DU a'r UE. Mae hwn yn gynnig cymhleth. Mae'r Papur Gwyn yn cydnabod y byddai angen trafod sawl maes allweddol gyda'r UE er mwyn iddo fod yn hyderus na all nwyddau fynd i mewn i farchnad yr UE heb dalu'r tariff cywir.

Trefniadau newydd ar gyfer gwasanaethau

Mae cynigion y DU ar gyfer y fasnach mewn gwasanaethau yn dangos mwy o wyriad o'r status quo na'r rhai ar gyfer y fasnach mewn nwyddau. Yn ôl y Papur Gwyn:

Mae'r DU yn cynnig trefniadau newydd ar gyfer gwasanaethau a digidol a fyddai'n rhoi rhyddid rheoleiddiol, lle mae hynny bwysicaf ar gyfer economi seiliedig ar wasanaethau’r DU. Golyga hyn na fydd gan y DU a'r UE y lefelau mynediad presennol i farchnadoedd ei gilydd.

Ymhlith cynigion y DU mae “trefniadau rheoleiddio ac economaidd newydd ar gyfer gwasanaethau ariannol”, a bod y naill ochr a'r llall yn cydnabod cymwysterau proffesiynol.

Gall banciau a chwmnïau gwasanaethau ariannol sydd wedi'u hawdurdodi mewn unrhyw wladwriaeth yr UE neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd fasnachu'n rhydd mewn unrhyw wladwriaeth arall gydag ychydig iawn o awdurdodiad ychwanegol, drwy'r hyn a elwir yn “hawliau pasbortio”. Mae'r Papur Gwyn yn cydnabod, ar ôl Brexit, na all y DU barhau i weithredu o dan gyfundrefn “basbortio” yr UE, gan fod hyn yn rhan annatod o'r Farchnad Sengl na fydd yn aelod ohoni mwyach.

Mae'r nwyddau y mae Cymru yn eu hallforio i'r UE yn werth llawer mwy na'r gwasanaethau y mae'n eu hallforio:

Allforion nwyddau a gwasanaethau Cymru, 2015, £miliwn Graff allforion nwyddau a gwasanaethau Cymru, 2015 mewn punnoedd a miliynau Allforion nwyddau a gwasanaethau Cymru, 2015, £miliwn

Er bod y rhan fwyaf o'r nwyddau y mae Cymru yn eu hallforio yn mynd i'r UE (60 y cant yn 2015), mae tua dwy ran o dair o'r gwasanaethau y mae Cymru yn eu hallforio yn mynd i wledydd nad ydynt yn rhan o'r UE.

Mae sector gwasanaethau ariannol y DU yn rhan fawr o'r allforion ac yn creu gwarged masnach mawr ar gyfer y DU. Mae gwasanaethau ariannol yn cyflogi dros filiwn o bobl, ac roedd yn cyfrif am 6.5 y cant o'r gwerth a grëwyd yn economi'r DU yn 2017. Credir bod llai o ffocws allanol gan wasanaethau ariannol Cymru nag yn y DU gyfan. Fel y dywedodd yr economegydd, yr Athro Gerald Holtham, wrth Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad:

If the financial services sector in London catches a cold, I don’t think we’ll be very badly affected here. Most of our back offices are serving insurance companies with a domestic market, on the whole.

Os bydd y fasnach gwasanaethau ariannol rhwng y DU a'r UE yn cael ei niweidio yn sgil colli'r hawliau pasbort, gellid disgwyl y byddai hynny'n cael effaith ar Gymru, yn bennaf oherwydd gostyngiad yn yr incwm trethi yn Nhrysorlys y DU, yn hytrach nag yn uniongyrchol yn economi Cymru.

Beth yw barn yr UE?

Mae'r UE wedi datgan dro ar ôl tro na all y berthynas newydd rhwng y DU a'r UE danseilio uniondeb y Farchnad Sengl. Er bod canllawiau negodi diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd o blaid cytundeb masnach rydd cytbwys, uchelgeisiol ac eang ei gwmpas, mae'n rhybuddio na all hyn olygu cymryd rhan yn y Farchnad Sengl na rhannau ohoni. Rhaid aros i weld a fydd yr UE yn caniatáu i'r DU gynnal “masnach esmwyth” ac ar yr un pryd ymwrthod â'r rhyddid i symud, aelodaeth o'r Undeb Tollau a chynnig rheolau newydd ar gyfer gwasanaethau. Dywedodd negodwr y Comisiwn Ewropeaidd, Michel Barnier, ar ôl ei gyfarfod cyntaf gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd ar gyfer Ymadael â'r UE ym mis Gorffennaf 2018:

Our challenge will be to find common ground between the fundamental principles that define the EU and the UK positions

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, Cyfnod Pontio’r UE a Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru.

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin: Statistics on UK-EU trade

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Y Polisi Masnach: Materion Cymru