Brexit Cyfansoddiad

Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: Cyfranogiad parhaus yn asiantaethau’r UE

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy'n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. I gael trosolwg cyffredinol o'r cynigion, gweler ein herthygl blog blaenorol.

08 Awst 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, gweler ein herthygl blog blaenorol.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi yr hoffai Llywodraeth y DU, er mwyn cyflawni ei chynigion ar gyfer y berthynas yn y dyfodol, weld cyfranogiad parhaus yn nifer o asiantaethau’r UE ar ôl Brexit. Yn ôl Llywodraeth y DU byddai hyn, ymhlith pethau eraill, yn galluogi cydnabyddiaeth gilyddol o safonau, rhannu arbenigedd a phersonél hanfodol, a chyfnewid data a gwybodaeth.

Trafodir yr asiantaethau hynny y mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydweithrediad â hwy yn y dyfodol, y rhesymau dros wneud hynny a’u perthnasedd i Gymru, mewn mwy o fanylder isod.

Y bartneriaeth economaidd

Fel yr amlinellwyd yn yr erthygl gyntaf, mae Llywodraeth y DU yn ceisio partneriaeth economaidd newydd rhwng y DU a’r UE a fyddai’n cynnwys sefydlu Ardal Fasnach Rydd newydd a chynnal llyfr rheolau cyffredin ar gyfer nwyddau, ond dim ond pan fo’r rheolau yn gofyn am archwiliadau ar y ffin. Fel rhan o hyn, byddai Llywodraeth y DU yn ceisio cyfranogiad yn asiantaethau’r UE sy’n hwyluso nwyddau’n cael eu rhoi ar farchnad yr UE. Mae o’r farn mai dim ond un mecanwaith cymeradwyo sydd ei angen ar weithgynhyrchwyr cyn rhoi cynhyrchion ym marchnadoedd y DU a’r UE.

Yn ôl y Papur Gwyn, byddai cyfranogiad parhaus yn yr asiantaethau ar gyfer sectorau sy’n cael eu rheoleiddio’n fawr o ganlyniad i risg uwch i ddefnyddwyr, cleifion neu ddiogelwch amgylcheddol. Felly mae Llywodraeth y DU yn ceisio cyfranogiad yn Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop (EMA), Asiantaeth Cemegolion Ewrop (ECHA) ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop (EASA). Fodd bynnag, dywed y Papur Gwyn na fyddai gan y DU hawliau pleidleisio a byddai’n rhaid iddi wneud cyfraniad ariannol.

Y bartneriaeth ddiogelwch

Yn yr un modd, mae gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer y bartneriaeth ddiogelwch yn y dyfodol hefyd yn cynnwys cyfranogiad gan y DU yn asiantaethau gorfodi cyfraith a chyfiawnder troseddol allweddol yr UE, gan gynnwys Europol ac Eurojust. Dywed y Papur Gwyn, fel Aelod nad yw’n Aelod-wladwriaeth, y bydd y DU yn derbyn rheolau’r asiantaethau hyn a bydd hefyd yn cyfrannu at eu costau. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod aelodaeth o asiantaethau o’r fath yn darparu fforymau ar gyfer cyfnewid arbenigedd, rhannu adnoddau, cydgysylltu ymchwiliadau a datblygu dulliau newydd ar gyfer cydweithredu.

Cytundebau cydweithredol

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig cytundebau cydweithredol mewn nifer o feysydd. Yn unol â hynny, lle mae’r DU wedi gwneud yr ymrwymiadau hyn, dywed y papur y byddai angen i’r trefniadau llywodraethu a sefydliadol sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer cyfranogiad y DU mewn cyrff ac asiantaethau’r UE, lle mae hyn yn ofynnol er mwyn i’r cydweithrediad cytunedig ddigwydd.

Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU yn cynnig bod y berthynas yn y dyfodol yn cynnwys cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi sy’n galluogi cydweithrediad parhaus drwy gyfranogiad ar y cyd mewn rhwydweithiau, isadeiledd, polisïau ac asiantaethau sydd o fudd i’r DU a’r UE ar y cyd.

Natur a strwythur cyfranogiad yn y dyfodol

Mae’r Papur Gwyn yn cydnabod y bydd natur a strwythur cyfranogiad parhaus y DU yn asiantaethau’r UE yn amrywio yn ôl yr asiantaeth dan sylw. Er enghraifft, mae darpariaeth bresennol ar gyfer cynnwys trydydd gwledydd yn Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop drwy aelodaeth y Swistir. Fodd bynnag, mewn achosion eraill, dywed Llywodraeth y DU y dylai’r berthynas yn y dyfodol fynd y tu hwnt i ddarpariaethau presennol, yn unol â dyfnder ac ehangder y berthynas arfaethedig. Er enghraifft, o ran Asiantaethau Meddyginiaethau Ewrop, mae’r papur yn cynnig:

…all the current routes to market for human and animal medicine remain available, with UK regulators still able to conduct technical work, including acting as a ‘leading authority’ for the assessment of medicines, and participating in other activities like ongoing safety monitoring and the incoming clinical trials framework.

Mae’r Papur Gwyn yn cydnabod y bydd cyfranogiad parhaus yn asiantaethau’r UE yn gofyn am nifer o ymrwymiadau. Yn ychwanegol at barchu rheolau gweithredol yr asiantaethau ac o bosibl gwneud cyfraniadau ariannol, mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i barchu cylch gorchwyl Llys Cyfiawnder yr UE mewn achosion lle mae’r DU yn cymryd rhan yn asiantaethau’r UE.

Safbwyntiau o Gymru

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i Berthynas Cymru ag Ewrop yn y Dyfodol, dywedodd nifer o randdeiliaid y dylai’r DU geisio dod i gytundeb i gymryd rhan, neu gydweithredu ag asiantaethau’r UE, ar ôl Brexit.

At hynny, yn ei adroddiad (PDF, 9MB), cytunodd y Pwyllgor gyda safbwyntiau a fynegwyd gan randdeiliaid y nodwyd bod aelodaeth barhaus o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewrop yn flaenoriaeth i Gymru. Mewn ymateb (PDF, 221KB) i argymhelliad y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau aelodaeth o’r fath, dywedodd y Prif Weinidog:

Rydym o blaid y syniad fod y DU yn aros yn rhan o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewrop ar ôl Brexit, ond byddai hynny’n golygu perthynas lawer agosach â’r farchnad sengl nag yr ymddengys fod Llywodraeth y DU yn barod i’w hystyried ar hyn o bryd.

Yn fuan cyn cyhoeddi’r Papur Gwyn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wrth y Pwyllgor ar 2 Gorffennaf fod Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda Llywodraeth y DU yr asiantaethau y cred y dylent barhau i gymryd rhan.

Barn yr UE

Mater i’r UE fydd penderfynu a yw’n barod i gynnig i’r DU barhau i gymryd rhan yn yr asiantaethau hyn. Fodd bynnag, mae Erthygl 6 o’r Cytundeb Drafft ar y DU yn ymadael â’r UE yn nodi na fydd y DU yn cadw aelodaeth o unrhyw asiantaethau Ewropeaidd ar ôl Brexit. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn sydd yng nghanllawiau trafod y Cyngor Ewropeaidd, sef:

A non-member of the Union, that does not live up to the same obligations as a member, cannot have the same rights and enjoy the same benefits as a member.

Daeth y Pwyllgor Materion Allanol i’r casgliad yn ei adroddiad ar y Berthynas yn y Dyfodol ei bod yn bwysig ceisio eglurder cynnar ar gyfranogiad yn y dyfodol:

If not, the UK Government needs to work urgently with the devolved governments and stakeholders to establish how any governance gaps created as a result of loss of access to these bodies will be filled.

Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn archwilio sut y mae trydydd gwledydd a gwledydd a rhanbarthau is-wladwriaeth yn ymgysylltu â’r UE a sefydliadau’r UE fel rhan o’i ymchwiliad i berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol – rhan dau.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru