Blog gwadd gan Cymwysterau Cymru: Arholiadau 2018

Cyhoeddwyd 09/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyma erthygl flog wadd gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio, Cymwysterau Cymru. Cafodd erthygl thebyg ei chyhoeddi llynedd. Gall mis Awst fod yn fis llawn straen i unrhyw un sydd ag arddegwyr yn y cartref. Ni waeth beth yw’r tymheredd y tu allan, nid yw’n cymharu â disgwyliad cyffrous pobl ifanc 16 ac 18 oed sy’n aros am eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch.

Roedd Haf 2017 yn drobwynt ym maes addysg. Dyna'r adeg y gwnaeth disgyblion sefyll chwe arholiad TGAU a 14 o arholiadau Safon Uwch a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer Cymru am y tro cyntaf.

Ond yr hyn sy'n gwneud 2018 yn arbennig yw'r ffaith y byddwn yn gweld hyd yn oed mwy o gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch newydd, diwygiedig, yn cael eu harholi a'u dyfarnu am y tro cyntaf yng Nghymru.

Gan fod mwy o gymwysterau newydd yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf yr haf hwn, ein blaenoriaeth yw sicrhau nad yw dysgwyr yn wynebu mantais nac anfantais annheg ac y caiff y safon berthnasol ei chynnal.

TGAU

Caiff 15 o gymwysterau TGAU eu dyfarnu am y tro cyntaf yr haf hwn. Yn yr un modd â'r pynciau hynny a ddyfarnwyd am y tro cyntaf yn 2017, bydd CBAC yn cario safonau ymlaen o'r hen gymwysterau. Felly yn gyffredinol, mae'n golygu lle bo carfan 2018 yn debyg i garfan 2017, rydym yn disgwyl canlyniadau tebyg ar gyfer graddau A, C ac F ar y cyfan.

Gwnaethom gyhoeddi nifer y cofrestriadau dros dro ar gyfer arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch yr haf hwn ar 24 Mai 2018. Mae'r data hyn yn rhoi awgrym cynnar i ni o newidiadau mewn patrymau cofrestru, sy'n ddefnyddiol wrth ddehongli'r canlyniadau.

Yr haf hwn, mae rhai newidiadau sylweddol i'w gweld i'r patrymau cofrestru yng Nghymru. Yn benodol, mae nifer y cofrestriadau Blwyddyn 10 ar gyfer TGAU Saesneg Iaith, TGAU Cymraeg Iaith a'r ddau gymhwyster TGAU Mathemateg wedi lleihau'n sylweddol ynghyd â chynnydd mewn cofrestriadau Blwyddyn 10 ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg.

Y rheswm dros y lleihad mewn cofrestriadau yw'r newid i fesurau perfformiad ysgolion o haf 2019, a argymhellwyd gan Cymwysterau Cymru yn ei adroddiad ar gofrestriadau cynnar, sydd ond yn caniatáu i ganlyniad cyntaf myfyrwyr gyfrif.

Mae'r broses ddyfarnu yn canolbwyntio ar berfformiad myfyrwyr Blwyddyn 11, felly ni fydd y newidiadau hyn i gofrestriadau Blwyddyn 10 yn effeithio ar y broses o gynnal safonau. Ond mae'n debygol y bydd y newidiadau i'r garfan sy'n sefyll yr arholiadau hyn yn effeithio ar ganlyniadau'r haf yn gyffredinol.

Mae'n werth edrych ar wyddoniaeth yn fanwl, am ei fod yn bwnc sydd wedi gweld newidiadau mawr ar lefel TGAU.

Mae'r gyfres wyddoniaeth newydd yn cynnwys chwe chymhwyster: y pynciau gwyddoniaeth ar wahân (TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg), TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd), TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dwyradd), a TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol).

Mae'r cymwysterau TGAU newydd mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn disodli'r hen gymwysterau gwyddoniaeth ar wahân yn y pynciau hyn.

Mae'r cymwysterau gwyddoniaeth dwyradd newydd – sy'n cyfrif fel dau gymhwyster TGAU – yn disodli'r hen gymwysterau TGAU Gwyddoniaeth a TGAU Gwyddoniaeth Ychwanegol.

Ychwanegwyd dau gymhwyster gwyddoniaeth gymhwysol newydd hefyd, un cymhwyster gradd unigol ac un cymhwyster dwyradd.

Mae nifer y cofrestriadau ar gyfer pob un o'r cymwysterau gwyddoniaeth wedi cynyddu ac mae'n debygol mai'r rheswm dros y cynnydd hwn yw'r newid i fesurau perfformiad ysgolion lle nad yw cymwysterau amgen heblaw am gymwysterau TGAU yn cyfrif mwyach.

Felly rydym yn disgwyl y bydd canlyniadau'r haf hwn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol am fod y garfan o fyfyrwyr sy'n astudio cymwysterau TGAU gwyddoniaeth wedi newid yn sylweddol.

Mae'n werth cofio hefyd bod Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyd yn dilyn eu dulliau eu hunain. Yng Nghymru, rydym wedi cadw'r graddau A*-G ar gyfer cymwysterau TGAU y mae prifysgolion a chyflogwyr yn ymwybodol ohonynt ac yn eu deall. Yn Lloegr, caiff cymwysterau TGAU newydd eu graddio gan ddefnyddio system 9 i 1 tra bod Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno gradd C* newydd.

Safon Uwch

Caiff 10 o bynciau Safon Uwch a chwe phwnc UG eu dyfarnu am y tro cyntaf yr haf hwn. Yn yr un modd â'r pynciau hynny a ddyfarnwyd am y tro cyntaf yn 2017, bydd CBAC yn cario safonau ymlaen o'r hen gymwysterau. Yn gyffredinol, lle bo'r garfan genedlaethol yn 2018 yn debyg i garfan 2017, rydym yn disgwyl canlyniadau tebyg ar gyfer graddau A ac E ar y cyfan.

Ein rôl

Caiff cymwysterau eu diwygio i sicrhau y byddant yn addas ar gyfer y dyfodol ac mae codi ymwybyddiaeth o'r newidiadau yn rhan o'n rôl fel rheoleiddiwr.

Mae angen i ni sicrhau bod athrawon, dysgwyr a'r boblogaeth yn deall y rhesymau dros ddiwygio cymwysterau yng Nghymru yn llawn, a sut maent yn cymharu â newidiadau mewn mannau eraill yn y DU. O ganlyniad, rydym wedi llunio cardiau post ac erthyglau yn esbonio'r cymwysterau newydd hyn a'r broses arholi sydd ar gael ar ein gwefan.

Rydym hefyd wedi comisiynu cyfres o fideos wedi'u hanimeiddio i esbonio agweddau gwahanol ar ein gwaith. Mae'r cyntaf, sy'n edrych ar y broses marcio a dyfarnu, ar gael ar ein gwefan ac ar YouTube.

Yr un mor bwysig, rydym yn sicrhau bod y cymwysterau a astudir yng Nghymru o ansawdd uchel a'u bod yn fesur cywir, teg a dibynadwy o gyflawniad.

Mae'n golygu bod myfyrwyr yn parhau i astudio cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd o'r un maint ac sydd yr un mor anodd, p'un a ydynt yn eu sefyll yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Er bod y cymwysterau newydd wedi'u diweddaru, maent yr un mor hygyrch â'r rhai hynny y maent yn eu disodli.

Rydym yn goruchwylio'r broses o ddyfarnu pob cymhwyster TGAU, UG a Safon Uwch yn ofalus er mwyn sicrhau y caiff myfyrwyr eleni eu trin yn yr un ffordd â myfyrwyr mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'n golygu y gallant fod yn hyderus bod eu canlyniadau yn adlewyrchiad teg o'u perfformiad.


Erthygl gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Cymwysterau Cymru