Cymunedau Tai

Beth sydd nesaf ar gyfer y grant enfawr arfaethedig o £250 miliwn y flwyddyn?

Y llynedd, cynigiodd Llywodraeth Cymru gyfuno amrywiaeth o grantiau tai a grantiau nad ydynt yn ymwneud â thai a ddarperir i awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn un grant mwy. Byddai'r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi (YGACh) arfaethedig yn cynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni blaenllaw megis Cefnogi Pobl, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Cymunedau am Waith a Mwy.

14 Awst 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y llynedd, cynigiodd Llywodraeth Cymru gyfuno amrywiaeth o grantiau tai a grantiau nad ydynt yn ymwneud â thai a ddarperir i awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn un grant mwy. Byddai’r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi (YGACh) arfaethedig yn cynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni blaenllaw megis Cefnogi Pobl, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Cymunedau am Waith a Mwy.

Y nod yw lleihau costau gweinyddu er mwyn helpu i gyflawni arbedion effeithlonrwydd o £13 miliwn y flwyddyn, a galluogi awdurdodau lleol i “weithio yn wahanol, mewn ffordd sy’n rhoi mwy o gyfle i lunio gwasanaethau. Bydd hyn yn cefnogi dull sy’n llawer mwy cydgysylltiol, hirdymor ac ataliol o ddarparu gwasanaethau i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas”.

Beirniadodd Cymorth Cymru a sefydliadau tai eraill y newid, gan ddweud y gallai cyllid sydd, ar hyn o bryd, wedi’i neilltuo ar gyfer digartrefedd a gwasanaethau cymorth sy’n ymwneud â thai i grwpiau ymylol gael ei golli i wasanaethau mwy gwleidyddol boblogaidd yng ngrant arfaethedig YGACh fel y blynyddoedd cynnar, ymwelwyr iechyd a gofal plant.

Dywedodd Inside Housing yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i ddeall sut y gallai grant ar wahân sy’n canolbwyntio ar wasanaethau sy’n ymwneud â thai yn unig gyflawni amcanion ei waith integreiddio grantiau.

Y cynnig

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfuno deg grant a ddarperir ar hyn o bryd i awdurdodau lleol yn un grant mwy o tua £250 miliwn. Mae’r grantiau presennol yn amrywio o ofal plant i gyfiawnder ieuenctid, ac o ddigartrefedd i gyflogadwyedd:

diagram sy'n rhestru'r deg grant i'w cyfuno'n un

Roedd y cynigion gwreiddiol yng nghyllideb ddrafft 2018-19 yn cynnwys tri grant arall, a gafodd eu dileu mewn cynlluniau diweddarach. Y grantiau oedd: cyllid ar gyfer trais yn erbyn menywod, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol, cydlyniant cymunedol a’r Gwasanaeth Eirioli Cenedlaethol.

Ardaloedd braenaru

Yn 2018-1919, treialwyd y strwythur cyllido newydd mewn dwy ffordd:

  • mae saith awdurdod lleol braenaru wedi cael hyblygrwydd llwyr ar draws pob un o’r deg grant, ac
  • mae’r 15 awdurdod lleol sy’n weddill wedi cael 15 y cant o hyblygrwydd ar draws pum grant (Cefnogi Pobl, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Grant Etifeddol Cymunedau yn Gyntaf a Cymunedau am Waith a Mwy).

Arbedion effeithlonrwydd

Dyrannodd cynigion y gyllideb ddrafft (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017) £252 miliwn ar gyfer un grant newydd arfaethedig YGACh yn 2019-20. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o £13 miliwn o’i gymharu â’r grantiau ar wahân yn 2018-19.

Pan holwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau (CLlLCh) ar y sail dystiolaeth ar gyfer faint y gellid ei arbed mewn costau gweinyddu drwy gyfuno grantiau, dywedodd Arweinydd y Tŷ mai rhagdybiaeth weithredol y Llywodraeth oedd y gellid gwneud arbedion o 10 y cant drwy leihau costau gweinyddol, heb wneud toriadau i wasanaethau.

Roedd y rhagdybiaeth hon yn seiliedig ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, sef Rheoli Grantiau yng Nghymru, sy’n nodi y caiff “costau gweinyddu a rheoli eu rhannu rhwng cyllidwyr a’r rhai sy’n derbyn y grantiau ac fel arfer maent yn cyfrif am o leiaf 10 y cant o’r arian”, ond hefyd bod “rhai risgiau ynghlwm wrth unrhyw ymgais i lacio ar y rheolaethau dros wario arian grant”. Mae costau gweinyddu yn ariannu gweithgareddau megis prosesau ymgeisio, hyrwyddo, ymgynghori, monitro a gwerthuso cynlluniau.

Gwaith craffu gan y Cynulliad

Gwnaeth y Pwyllgor CLlLCh amrywiaeth o argymhellion ynghylch y cynigion yn ei adroddiad (PDF, 1.9MB) ar gyllideb ddrafft 2018-19, gan gynnwys:

  • ymrwymo i ailfuddsoddi’r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o £13 miliwn yn ôl yn y Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal Problemau a Chefnogaeth;
  • cymryd camau i sicrhau na fydd unrhyw arbedion effeithlonrwydd a wneir o 2019-20 ymlaen yn arwain at ostyngiad yn lefel y gwasanaethau;
  • amlinellu’r sail dystiolaeth a’r rhesymeg dros y penderfyniad;
  • nodi pa drefniadau sydd ar waith i fonitro canlyniadau, er mwyn sicrhau nad yw dadneilltuo yn achosi i bobl sy’n agored i niwed lithro i’r bylchau yn y gwasanaethau;
  • sicrhau y clustnodir, mewn rhyw ffordd, y cyllid ar gyfer gwasanaethau tai a gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai a ariennir trwy’r Grant; a
  • sicrhau bod y Gronfa newydd yn dryloyw trwy ymrwymo i gasglu a chyhoeddi manylion yr union wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau a fydd yn mynd i’r afael â digartrefeddd, a gaiff eu hariannu ym mhob awdurdod lleol sy’n cymryd rhan yn y cyfnod treialu yn 2018-19.

Nodwyd yn ymateb (PDF, 338KB) Llywodraeth Cymru:

Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud o ran creu grant Ymyrraeth Gynnar, Atal Problemau a Chefnogaeth yn 2019-20. Fodd bynnag, os bydd Gweinidogion yn penderfynu bwrw ymlaen bydd yn parhau i fod yn grant wedi’i glustnodi gyda’r cyllid wedi’i ddiogelu a fydd i’w ddefnyddio o fewn y meini prawf a osodir ar gyfer y grant newydd yn unig, a byddai [hwn yn] cael ei fonitro’n ofalus. Mae’n hollol hanfodol bod gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yn cael eu diogelu ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff cyllid sy’n cefnogi gwasanaethau ataliol anstatudol ei ddiogelu.

Ym mis Mai 2018, nododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, er “y gallai fod lle i integreiddio rhaglenni grant yn well er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, mae gennym amheuon difrifol am y ffordd y datblygwyd ac y cyhoeddwyd y cynigion ar gyfer y grant integredig newydd ym manylion cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru”.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod “nifer o ddiffygion mawr yn parhau gyda’r ffordd y caiff y Rhaglen Cefnogi Pobl ei llywodraethu a’i rheoli.”

Beth yw barn y bobl sydd yn y sector?

Mynegodd sawl sefydliad, gan gynnwys Cymorth Cymru, Cymorth i Ferched Cymru a’r Sefydliad Tai Siartredig (STS) bryder ynghylch y dull, yn enwedig ei effaith ar wasanaethau sy’n ymwneud â thai. Maent o’r farn y bydd yn gwneud y canlynol:

  • Creu perygl o wanhau’r ffocws ar ddigartrefedd – gan fod y grantiau a gynhwysir yn amrywio’n fawr – o gefnogi pobl i gyfiawnder ieuenctid a gofal plant – mae perygl y bydd arbenigedd yn cael ei golli, ac na fydd y fframwaith canlyniadau, y canllawiau na’r gwaith comisiynu yn canolbwyntio ar ddigartrefedd;
  • Arwain at wario cyllid ar gynlluniau sy’n fwy poblogaidd yn lleol – mae rhanddeiliaid yn dadlau bod mwy o berygl y byddai toriadau i gynlluniau hanfodol, nad ydynt wedi’u neilltuo mwyach, i bobl sy’n agored i niwed, sy’n llai poblogaidd yn lleol (megis cynlluniau llety â chymorth i bobl sy’n gadael gofal, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a phobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig) na chyllid ar gyfer cynlluniau gofal plant neu gyflogadwyedd;
  • Cynnig llai o sicrwydd i landlordiaid a benthycwyr, a allai arwain at lai o fuddsoddiad mewn cynlluniau llety â chymorth;
  • Partneriaethau presennol – mae rhanddeiliaid yn dadlau mai un o nodau’r YGACh yw gwneud i gynlluniau grant weithio’n well gyda’i gilydd, ond maent yn dadlau bod “llawer o gomisiynwyr, landlordiaid a darparwyr Cefnogi Pobl eisoes yn cydweithio’n dda gyda chomisiynwyr a darparwyr grantiau a ffrydiau cyllido eraill”, a
  • Thystiolaeth o Loegr – mae’r adroddiad yn nodi bod diddymu’r arfer o glustnodi cyllid ar gyfer Cefnogi Pobl yn Lloegr wedi cael ‘effaith ddinistriol’ ar lawer o wasanaethau cymorth ym meysydd digartrefedd a thai. Tynnodd adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2014 sylw at ostyngiadau gwariant cyfartalog ar wasanaethau cymorth sy’n ymwneud â thai yn Lloegr o 45 y cant rhwng 2010-11 a 2014-15.

Ffordd ganol?

Ym mis Mehefin 2018, awgrymodd rhanddeiliaid yn y sector tai ddatrysiad cyllid newydd, sy’n cyfuno’r holl gyllid digartrefedd a chyllid sy’n ymwneud â thai yn un grant, a’r holl gyllid nad yw’n ymwneud â thai’n un arall:

strwythur newydd arfaethedig ar gyfer cyfuno grantiau, sy'n gwahanu grantiau sy'n ymwneud â thai o ofal plant, cyflogadwyedd ac ati.

Beth nawr?

Ar 2 Awst, adroddodd Inside Housing fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith cwmpasu ar gyfer grant gwasanaethau newydd sy’n ymwneud â thai fel dewis arall i’r cynigion gwreiddiol, ond dywedodd na wnaed penderfyniad eto ar ddyfodol un grant posibl. Mae gwefan Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi ei bod yn comisiynu gwerthusiad annibynnol yn 2018-19 i helpu i lywio’r penderfyniad.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell y ddelwedd: Cymorth Cymru, Materion Tai 2018