17 Awst 2018
Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
O 6 Ebrill 2019, bydd cyfraddau treth incwm a delir ar incwm di-gynilion a di-ddifidend (‘NSND’) gan drethdalwyr Cymru yn gostwng 10c yn y bunt a bydd Cyfraddau Cymru ar gyfer y Dreth Incwm yn eu disodli.
Rhagwelir y bydd cadw cyfraddau treth sy’n cael eu talu gan drethdalwyr Cymru heb eu newid trwy osod cyfradd o 10c ym mhob band yn codi dros £2 biliwn i Lywodraeth Cymru yn 2019-20.
Cynhyrchwyd y model hwn mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddefnyddio dulliau modelu o adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Sylfaen Dreth Cymru, Gorffennaf 2018.
Addaswch y llithrwyr i amrywio’r cyfraddau treth incwm a’r newidiadau ymddygiadol ac i weld yr effeithiau ar refeniw treth incwm Llywodraeth Cymru. Rhowch eich incwm trethadwy blynyddol (heb gynnwys unrhyw lwfansau) i weld faint y gallech fod yn ei dalu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a lle’r ydych yn sefyll o ran dosbarthiad incwm yng Nghymru.
Erthygl gan Martin Jennings a Joel Dyer Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru