Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei ganllawiau ar sut i baratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb

Cyhoeddwyd 24/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gyda saith mis tan y diwrnod gadael, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau gwneud mwy o waith ar ei baratoadau pe byddai 'senario dim cytundeb' trwy gyhoeddi'r casgliad cyntaf o 25 hysbysiad technegol ar sut i baratoi ar gyfer Brexit os yw'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb. Mae disgwyl y bydd rhagor o'r hysbysiadau hyn, a fwriedir i helpu busnesau a dinasyddion i gynllunio a pharatoi ar gyfer y fath senario, yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi. Yn ôl yr hysbysiad cyntaf, mae Llywodraeth y DU o'r farn bod senario Brexit dim cytundeb “yn parhau i fod yn annhebygol” ond mae'n credu y dylai “baratoi ar gyfer pob senario” nes y gwyddys canlyniad y trafodaethau gyda'r UE. Mae rhai o'r hysbysiadau technegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, ac sy'n debygol o fod fwyaf perthnasol i Gymru, yn cynnwys canllawiau ynghylch:

  • Masnachu gyda'r UE os nad oes cytundeb Brexit gan gynnwys y goblygiadau i fusnesau sy'n mewnforio o'r UE, neu'n allforio i'r UE;
  • Pa ddosbarthiad i'w roi i nwyddau yn Nhariff Masnach y DU os bydd y DU yn methu â negodi partneriaeth economaidd yn y dyfodol gyda'r UE sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer Ardal Fasnach Rydd mewn perthynas â nwyddau. Mewn 'senario dim cytundeb', byddai nwyddau a gaiff eu masnachu rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit yn ddarostyngedig i'r un gofynion ag y mae nwyddau o drydedd wlad, gan gynnwys talu toll dramor;
  • Cynhyrchu a phrosesu bwyd organig gan gynnwys newid logos ar becynnau gan dynnu logo organig yr UE ac allforio o'r DU i'r UE. Er mwyn allforio i'r UE mewn senario dim cytundeb, byddai angen i fusnesau'r DU gael eu hardystio gan gorff rheoli organig yn y DU a gydnabyddir ac a gymeradwyir gan yr UE, ond byddai'n rhaid i gyrff rheoli'r DU aros nes i'r DU ddod yn drydedd wlad er mwyn gwneud cais am gydnabyddiaeth i'r Comisiwn Ewropeaidd; a
  • Gwarant Llywodraeth y DU ar gyfer rhaglenni a ariennir gan yr UE a sut y bydd hyn yn gweithio ar gyfer rhaglenni penodol fel Erasmus+ a Horizon 2020 hyd at ddiwedd 2020 os na cheir cytundeb.
  • Bydd rhai o'r hysbysiadau technegol hyn yn cael eu trafod yn fanylach mewn erthyglau blog yn y dyfodol.

Beth yw senario 'dim cytundeb'?

Mae Brexit 'dim cytundeb' yn golygu y byddai'r DU yn gadael yr UE am 11pm ar 29 Mawrth 2019 gan ddod yn drydedd wlad a chanddi ddim cytundeb ffurfiol rhyngddi a'r UE. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Chomisiwn yr UE i gytuno ar y trefniadau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE ynghyd â thelerau perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Mae'r rhan fwyaf o'r Cytundeb Ymadael drafft bellach wedi ei gytuno, ac ar 12 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn yn nodi ei chynigion ar gyfer perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Roedd datganiad gan y Comisiwn i sefydliadau eraill yr UE a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf yn dweud:

It is currently planned that the Withdrawal Agreement would be agreed by the European Union and the United Kingdom in October 2018, accompanied by the political declaration on their future relationship.

Unwaith y cytunir ar y Cytundeb Ymadael, rhaid iddo gael ei gadarnhau gan Senedd y DU a Senedd Ewrop cyn y diwrnod gadael. Fel y nodir yn Erthygl 50 o Gytuniad yr UE, mae gan y DU ddwy flynedd i negodi Cytundeb Ymadael a fframwaith perthynas yn y dyfodol cyn y daw aelodaeth y DU o'r UE i ben ar 29 Mawrth 2019. Fodd bynnag, mewn achos lle na cheir cytundeb a/neu os na chaiff ei gadarnhau gan y ddau barti, ac os na fydd estyniad i Erthygl 50 wedi'i gael, ni fyddai'r elfennau o'r Cytundeb Ymadael drafft y cytunwyd arnynt hyd yma yn gymwys.

Sut y mae'r DU yn paratoi ar gyfer senario 'dim cytundeb'?

Ar 2 Awst, dywedodd Michel Barnier, Prif Negodwr y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y trafodaethau gyda'r DU, ei fod yn dal i fod yn hyderus “y gall y trafodaethau gyrraedd canlyniad da”. Serch hynny, ar 19 Gorffennaf cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ddatganiad ar baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE a oedd yn galw ar randdeiliaid a gweinyddiaethau ar lefel genedlaethol ac ar lefel yr UE i baratoi ar gyfer pob senario wrth adael yr UE. At hynny, mae'r Comisiwn Ewropeaidd hefyd wedi paratoi cyfres o hysbysiadau parodrwydd yn nodi'r goblygiadau cyfreithiol ac ymarferol yn sgil ymadawiad y DU â'r UE.

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer 'senario dim cytundeb'?

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit mynegodd nifer o randdeiliaid mor bwysig yw paratoi ar gyfer gwahanol senarios wrth i'r DU adael yr UE. Yn ei adroddiad, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?' (PDF 744KB), argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio ar frys i baramedrau tebygol y gwahanol senarios Brexit, gan gynnwys 'senario dim cytundeb'. Yn ymateb ffurfiol Prif Weinidog Cymru i'r adroddiad (PDF 141KB), dywedodd:

[…] rydym wedi pwysleisio’n barhaus y byddai hynny’n drychinebus i Gymru. Felly, nid ydym yn awyddus i normaleiddio canlyniad trychinebus o’r fath, ond rydym yn cydnabod, pe na bai Llywodraeth y DU yn llwyddo i daro bargen â’r UE27, fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y trefniadau angenrheidiol ar waith mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Mae holl adrannau Llywodraeth Cymru yn dwysáu eu gwaith o ran y trefniadau gweithredol posibl y gallai fod eu hangen i wneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer ein hymadawiad â’r UE, yn seiliedig ar wahanol senarios.

Fodd bynnag, roedd yr ymateb hefyd yn pwysleisio nad yw Llywodraeth Cymru yn credu y bydd yn bosibl i lwyr liniaru effeithiau canlyniad dim cytundeb ar Gymru, ac mewn senario o'r fath, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fyddai gwneud trefniadau a darparu adnoddau. Yn fwy diweddar, ar 10 Gorffennaf, mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn gan Leanne Wood AC ynghylch datblygu cynllun ar gyfer senario dim cytundeb, dywedodd y Prif Weinidog:

Nid oes unrhyw fesurau lliniaru yn erbyn dim cytundeb. Ni fyddai'n iawn i ddweud hynny. Y gwir amdani yw, os byddwn ni'n cael Brexit 'dim cytundeb', byddwn yn colli swyddi, a byddwn yn colli buddsoddiad. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna pam yr wyf i wedi brwydro'n galed yn erbyn Brexit 'dim cytundeb'. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwneud unrhyw beth o ran paratoi ar gyfer Brexit. […] Ond does bosib y gall neb esgus y gellir lliniaru'n llawn yn erbyn Brexit 'dim cytundeb', oherwydd ni ellir gwneud hynny.

Ar 23 Awst, mewn ymateb i gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer 'senario dim cytundeb', dywedodd y Prif Weinidog:

Mae hyn yn rhwystredigaeth fawr, oherwydd petai Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu’r patrwm a osodwyd gennym ni 18 mis yn ôl ar gyfer y negodiadau, gallent fod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran y bartneriaeth â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol […] Nid yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn ac nid yw ymgais Llywodraeth y DU i daflu llwch i’n llygaid yn llwyddo. Mae’n bryd i’r Prif Weinidog roi ei chardiau ar y ford a mynd ati i weithio’n adeiladol gyda 27 yr UE i sicrhau cytundeb Brexit sy’n diogelu ein dinasyddion, ein gwasanaethau a’n heconomi.

Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru