Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

A All Cymru Ddod yn Arweinydd Byd-eang Mewn Cydraddoldeb Rhywiol?

31 Awst 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru yn araf. Mae ein hystadegau dangosyddion cydraddoldeb rhywedd blynyddol yn dangos bod menywod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn bywyd cyhoeddus a busnes o hyd, yn cael eu talu llai na dynion ac yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o fod yn ddigartref, marw o hunanladdiad ac mae ganddynt ddisgwyliad oes byrrach. Er bod llawer o’r bylchau rhywedd hyn wedi culhau ychydig bob blwyddyn, mewn rhai achosion maent wedi ehangu.

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif, ar y cyflymder presennol, na chaiff cydraddoldeb rhywiol byd-eang economaidd ei gyflawni am 170 mlynedd arall.

Araith Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y Prif Weinidog

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn ‘arweinydd byd-eang ar gyfer cydraddoldeb rhywiol’. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2018, mewn araith ym Mhrifysgol Rhydychen, gwnaeth y Prif Weinidog ystod o ymrwymiadau i gyflawni’r nod hwn, gan gynnwys:

  • symud rhywedd i flaen y gad o ran gwneud penderfyniadau;
  • sicrhau bod y Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd newydd yn “cyflawni’r rhethreg o ran rhywedd”;
  • ymchwilio i bolisïau arfer gorau llywodraethau rhyngwladol;
  • gwella’r modd o gasglu data cydraddoldeb a’r defnydd ohonynt;
  • darparu penodiadau cyhoeddus sy’n gytbwys o ran rhywedd yn y Cynulliad hwn;
  • defnyddio pwerau caffael i hyrwyddo cydraddoldeb;
  • gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i greu ymateb cenedlaethol, cynaliadwy i dlodi
  • misglwyf; a
  • gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan.

I ddechrau’r gwaith hwn, comisiynodd Julie James AC, Arweinydd y Tŷ sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, Chwarae Teg i gynnal ‘adolygiad cyflym’ o bolisïau cydraddoldeb rhywiol yn Llywodraeth Cymru i ddeall y materion ac awgrymu atebion.

Cyhoeddwyd y cylch gorchwyl ar gyfer dau gam yr adolygiad cyflym ym mis Ebrill.

Canfyddiadau’r Adolygiad Cyflym

Cyhoeddwyd cam un yr adolygiad ar 10 Gorffennaf 2018 ynghyd ag ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn archwilio arfer da rhyngwladol. Gwnaeth yr adroddiad ystod o argymhellion, a chaiff detholiad ohonynt eu trafod yn fanylach isod.

Nid oes gan Gymru fecanweithiau sefydliadol effeithiol i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol

Canfu’r adolygiad nad oes gan Gymru weledigaeth ar y cyd o’r hyn y mae cydraddoldeb rhywiol yn ei olygu yn ymarferol, ac o ganlyniad gall camau gweithredu fod yn ddarniog ac yn anghyson. Roedd yn argymell sefydlu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gydraddoldebau a Grymuso Menywod i hyrwyddo, cydgysylltu a monitro gwaith cydraddoldeb rhywiol ar draws y Llywodraeth.

Daeth i’r casgliad:

Actions and objectives within equality plans, well-being plans and national policy [..] lack ambition and [..] there is an increasing tendency to make broad, aspirational statements with limited actions, timescales and success measures to outline how these aspirations will be realised.

Actions must be underpinned by robust data and data analysis. Internationally, those countries that perform well on gender equality almost universally produce regular, accessible and engaging data and evidence that maps gender equality.

Mae mecanweithiau sefydliadol i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, megis cynlluniau gweithredu cydraddoldeb rhywiol a Gweinyddiaethau Menywod, yn gyffredin mewn llawer o wledydd. Mae ‘Gweinyddiaeth Menywod’ yn bodoli o dan enwau amrywiol mewn o leiaf 23 o wledydd, gan gynnwys Awstria, yr Almaen, yr Unol Daleithiau ac India, yn aml dan arweiniad Gweinidog Menywod (neu gyfwerth).

Roedd Llwyfan ar gyfer Gweithredu Beijing y Cenhedloedd Unedig 1995 (heb fod yn gyfrwymol) (y glasbrint ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn fyd-eang) yn argymell bod llywodraethau’n sefydlu mecanwaith ar gyfer datblygu menywod yn genedlaethol gydag adnoddau digonol, a’r gallu a’r cymhwysedd i ddylanwadu ar bolisi, llunio ac adolygu deddfwriaeth, perfformio dadansoddiad polisi, ymgymryd ag eiriolaeth, cyfathrebu, cydgysylltu a monitro gweithrediad.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) (a gadarnhawyd gan y DU ym 1986) yn adrodd ar effeithiolrwydd “mecanweithiau, sefydliadau a gweithdrefnau cenedlaethol llywodraethau i gynghori ar effaith holl bolisïau’r llywodraeth ar fenywod, monitro sefyllfa menywod yn gynhwysfawr, a helpu i lunio polisïau newydd a chyflawni strategaethau a mesurau i ddileu gwahaniaethu mewn modd effeithiol”.

Canfu gwaith ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru mewn gwledydd Llychlyn sydd â lefelau uchel o gydraddoldeb rhywiol, fod strwythurau, dulliau a phrosesau sefydliadol lefel uchel ar gyfer casglu tystiolaeth, ymgysylltu, mecanweithiau dylunio polisi ac adnoddau yn cefnogi prif ffrydio rhywedd, ac mae polisïau pob gwlad yn dangos gweledigaeth a nodau clir. Roedd hefyd yn argymell y dylai ffocws y polisi fod ar ‘gydraddoldeb y canlyniad’, yn hytrach na ‘chyfle cyfartal’.

Nid yw’r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol presennol yn integreiddio’n ddigon da, gan achosi heriau ychwanegol o ran gweithredu ystyrlon.

Canfu’r adolygiad cyflym, er bod amrywiaeth o gyfreithiau Cymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol (megis dyletswyddau cydraddoldeb penodol y sector cyhoeddus yng Nghymru, y ddyletswydd cydraddoldeb yn Neddfau Llywodraeth Cymru, y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)), mae heriau o ran integreiddio a gweithredu.

Amlygwyd y broses araf o weithredu’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn benodol gan yr adolygiad, gan adleisio pryderon cyson y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd yr adolygiad cyflym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn cryfhau deddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol.

cydraddoldeb rhyw

Mae’n awgrymu y gellid ymgorffori UN CEDAW a Chonfensiwn Istanbwl Cyngor Ewrop i’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) bresennol. Mae gan ymgorffori cyfraith ryngwladol i gyfraith Cymru drwy’r egwyddor ‘ystyriaeth ddyledus’ gynsail ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi ‘ystyriaeth ddyledus’ i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wneud penderfyniadau. Mae’r ddadl am y math hwn o ddeddfwriaeth wedi’i gwneud yn ddiweddar mewn perthynas â diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ar ôl Brexit.

Nid yw’r DU wedi ymgorffori CEDAW i gyfraith ddomestig eto (nid yw ymgorffori yn ofynnol i gael cadarnhad). Yn ddiweddar, roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei gynnwys yn y gyfraith, “fel y gall unigolion herio troseddau’n effeithiol gan ddefnyddio’r system gyfreithiol ddomestig a chael ateb domestig am honiadau o fynd yn groes i hawliau CEDAW”.

Mae ‘Confensiwn Istanbwl’ yn fframwaith cyfreithiol cynhwysfawr Cyngor Ewrop (nid yr UE) sy’n nodi’r safonau gofynnol i wledydd lynu wrthynt wrth fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Fe’i cadarnhawyd gan 26 o wledydd, ond nid y DU. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017, dywedodd Llywodraeth y DU y “bydd ond yn cymryd camau tuag at gadarnhau pan fydd yn gwbl fodlon bod y DU yn cydymffurfio â holl erthyglau’r Confensiwn”. Yn ddiweddar ymgynghorwyd ar Fesur Cam-drin Domestig a fyddai’n gwneud llawer o’r newidiadau angenrheidiol, gyda’r nod o gadarnhau.

Mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mynegodd yr adolygiad bryderon “nad yw cydraddoldebau ar hyn o bryd yn cael digon o ffocws o fewn yr agenda llesiant ac y gallant gael eu hanwybyddu oherwydd bod ffocws ar elfennau amgylcheddol”.

Dylai Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl fel cyflogwr

Awgrymodd yr adolygiad y dylai Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl fel cyflogwr, drwy gynyddu nifer y menywod mewn swyddi uwch, gwella gweithdrefnau mewnol ar gyfer ymdrin ag aflonyddwch rhywiol, gwella’r nifer sy’n cymryd absenoldeb rhiant a rennir drwy wella’r gyfradd a gaiff ei thalu, a lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Yn ddiweddar, argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi nifer y bobl sy’n manteisio ar absenoldeb rhiant a rennir yn eu gweithlu. Roedd gwaith ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wella ei habsenoldeb rhiant a rennir drwy dalu absenoldeb tadolaeth ar gyfraddau tâl mamolaeth gwell.

Awgrymodd yr adolygiad cyflym hefyd fod y Llywodraeth yn archwilio’r potensial ar gyfer cynnwys gofal di-dâl ym mesurau economaidd Cymru ochr yn ochr â mesurau traddodiadol megis GYC. Mae’r OECD wedi ymgymryd yn flaenorol â gwaith i archwilio sut y gellir mesur gofal di-dâl, er enghraifft drwy arolygon wedi’u dadgyfuno o ran rhywedd, ystadegau gofal plant, a lwfansau absenoldeb mamolaeth a thadolaeth.

Mae asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn aneffeithiol, yn enwedig ar gyfer y gyllideb

Daeth yr adolygiad i’r casgliad fod “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi dod yn flwch ticio a gellir eu hystyried yn ymarfer beichus ac o ganlyniad i hyn nid oes llawer o ymgysylltiad ystyrlon â’r broses ac yn aml caiff yr Asesiad  ei gwblhau ar ddiwedd y broses i ddangos cydymffurfiaeth”. Roedd yr adolygiad yn nodi nad oes gan Asesiadau ddadansoddiad beirniadol o safbwynt rhywedd yn aml, “gan ddewis barn niwtral o ran rhywedd, sef os yw gwasanaeth yn hygyrch i bawb na fydd yn cael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol arbennig ar unrhyw un o ganlyniad i rywedd”.

Mae’r casgliad hwn yn adleisio canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor yn 2012, ac argymhellion amrywiol y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, sydd wedi argymell ffocws cliriach ar rywedd yn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb y gyllideb ynghyd â dull mwy systematig o asesu effeithiau cadarnhaol a negyddol dyraniadau. Mae’r adolygiad cyflym yn nodi “nad yw’r broses gyllidebol yn cyd-fynd â’r broses o lunio polisïau a bod cyllidebau’n canolbwyntio ar bwysau ariannol yn hytrach nag effaith”.

Yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adolygiad, cydnabu Arweinydd y Tŷ fod yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn y gorffennol wedi asesu effaith heb sicrhau bod polisïau, deddfau a chyllidebau mewn gwirionedd yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.

Mae’r adolygiad yn amlygu bod offeryn asesu effaith newydd, sy’n dwyn ynghyd 21 o asesiadau effaith gwahanol, yn cael ei ddatblygu yn dilyn adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2016. Mae Cam 2 yr adolygiad yn bwriadu archwilio’r offeryn newydd o safbwynt rhywedd, i “sicrhau nad yw integreiddio gwell yn arwain at ddiffyg manylder, fel yn achos yr asesiadau effaith integredig strategol a gynhyrchir ochr yn ochr â chyllidebau drafft Llywodraeth Cymru ers 2015”.

Mae ymgysylltiad yn anghyson

Mae ymgysylltu yn elfen bwysig o’r broses bolisi ac mae’n ofyniad cyfreithiol o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r adolygiad yn nodi Tasglu’r Cymoedd fel enghraifft o arfer da ar gyfer integreiddio ymgysylltiad ystyrlon wrth ffurfio polisïau cynnar, ond mae’n nodi bod “ymgysylltiad yn cael ei wneud yn wahanol rhwng adrannau ac mae tystiolaeth sy’n awgrymu nad yw mecanweithiau ffurfiol i ymgysylltu ag arbenigwyr a rhanddeiliaid, fel y Grŵp Cynghori ar Gyllideb ar gyfer Cydraddoldebau, yn cael eu defnyddio’n effeithiol”.

Nododd yr adolygiad hefyd bwysigrwydd ymgysylltu ag arbenigwyr ac mae ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer cyfleoedd trosglwyddo gwybodaeth rhyngwladol (yn enwedig gyda gwledydd Nordig), a’r posibilrwydd o sefydlu ‘Cyngor Celtaidd Gweinidogion Cydraddoldeb’.

Gall craffu ac atebolrwydd allanol ysgogi newid, ond mae diffyg integreiddio a chapasiti yn ei atal

Mae’r adolygiad yn amlygu colli pwyllgor cydraddoldeb penodedig yn y Cynulliad o’r Pedwerydd Cynulliad ymlaen, ac yn argymell sefydlu ‘Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb’ newydd fel yn Nhŷ’r Cyffredin.

Daeth i’r casgliad bod cynnwys cydraddoldeb o fewn portffolio Arweinydd y Tŷ yn “caniatáu safbwynt clir ar draws y llywodraeth ac mae Arweinydd y Tŷ presennol yn eiriolwr effeithiol ac angerddol dros gydraddoldeb”.

Mae fframweithiau atebolrwydd allanol eraill yn bodoli, megis y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cenedlaethau’r Dyfodol, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a Swyddfa Archwilio Cymru. Canfu’r adolygiad nad yw’r rhain wedi’u hintegreiddio’n effeithiol, ac argymhellodd y dylai Cam 2 “adolygu mecanweithiau cydymffurfio, monitro ac atebolrwydd presennol ar draws y fframwaith gan ystyried effeithiolrwydd a chyfleoedd i integreiddio’n well”.

Yn benodol, mae’n mynegi pryderon ynghylch dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus sy’n benodol i Gymru a’r gwendidau o ran cydymffurfiaeth (er enghraifft, diffyg sancsiynau os nad yw awdurdod yn bodloni ei ddyletswyddau i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb neu gyhoeddi gwybodaeth am gyflogaeth).

Beth nawr?

Nododd Arweinydd y Tŷ yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adolygiad fod y Llywodraeth yn ystyried nifer o’r argymhellion. Bydd yn ymateb yn ffurfiol yn ystod tymor yr hydref, ac mae Cam 2 yr adolygiad i’w gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2019.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru