Y Ddeddf Teithio Llesol bum mlynedd yn ddiweddarach – beth fydd hyd y daith?

Cyhoeddwyd 13/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Er bod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi dod i rym ym mis Medi 2014, dengys data gan Lywodraeth Cymru nad yw cyfraddau cerdded a beicio wedi newid rhyw lawer ers hynny. Ym mis Mawrth eleni, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (ESS) ymchwiliad i graffu ar y Ddeddf ar ôl deddfu, gan nodi ystod o faterion a gwneud 24 o argymhellion. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno ei hymateb i’r adroddiad (PDF, 180KB) cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Medi. Fodd bynnag, gallai rhai o’r ymatebion gan y Llywodraeth arwain at gwestiynau pellach.

Y Ddeddf

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Medi 2014. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fapio llwybrau a chyfleusterau ar gyfer “teithio llesol”, a’u gwella’n barhaus.

Caiff teithio llesol ei ddiffinio fel cerdded a beicio at ddiben penodol, fel cael mynediad at waith neu wasanaethau, yn hytrach nag at ddibenion hamdden. Mae’r “Map Llwybrau Presennol” yn cynnwys y seilwaith presennol, tra dylai “Map Rhwydwaith Integredig” nodi’r seilwaith sydd ei angen i greu rhwydwaith teithio llesol integredig – sef, yn y bôn, cynllun treigl dros 15 mlynedd.

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol. Hefyd, mae angen i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol – yn rhinwedd eu rolau fel awdurdodau priffyrdd – ystyried gwella’r ddarpariaeth ar gyfer teithwyr llesol wrth gyflawni rhai swyddogaethau, fel adeiladu neu gynnal priffyrdd.

Cafodd canllawiau eu cyhoeddi i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddeddf, ac mae Bwrdd Teithio Llesol anstatudol a Chynllun Gweithredu yn cyd-fynd â hi.

Effaith

Roedd y Memorandwm Esboniadol (PDF 474KB) a oedd yn cyd-fynd â’r Bil Teithio Llesol yn nodi’r manteision o gynyddu cyfraddau teithio llesol o ran iechyd, newid yn yr hinsawdd, trechu tlodi a chefnogi twf economaidd.

Cafodd llawer o’r manteision posibl hyn eu nodi yn Symud Ymlaen: Teithio Llesol i Bawb yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro tua’r un pryd ag yr oedd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth.

Wrth graffu ar y Bil Teithio Llesol (PDF 517KB) yn ystod Cyfnod 1 yn 2013, dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am ddwyn y Bil drwy’r Cynulliad, y byddai’r Ddeddf yn ‘newid y gêm’.

Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi’i siomi gan y cynnydd.

Roedd y bwletin ystadegol blynyddol diweddaraf ar deithio llesol yng Nghymru (Ionawr 2018) gan Lywodraeth Cymru yn dangos fawr ddim newid mewn cyfraddau teithio llesol ers i’r Ddeddf gael ei phasio.

Yn ei ddatganiad ym mis Chwefror 2018 ar ôl cyflwyno’r mapiau rhwydwaith integredig, derbyniodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, bryderon ynghylch y data hyn, gan nodi “gostyngiad sy’n achosi pryder o ran nifer y bobl ifanc sy’n cerdded.”

Fodd bynnag, tynnodd sylw hefyd at ffigurau mwy calonogol i blant sy’n byw o fewn taith gerdded 10 munud i’r ysgol, gan awgrymu bod oedolion sydd yn barod yn cerdded a beicio yn gwneud hynny’n amlach. Fodd bynnag, cafwyd cydnabyddiaeth ganddo fod “y rhai hynny sydd heb fod yn cerdded yn dal i beidio â cherdded” – grŵp targed allweddol ar gyfer y Ddeddf.

Wrth drafod tueddiadau o ran teithio llesol, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn awgrymu bod y broses fapio wedi dargyfeirio ffocws i ffwrdd oddi ar y gwaith o ddatblygu’r seilwaith a hyrwyddo teithio llesol. Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor fod y gwariant ar seilwaith wedi bod yn sylweddol. Serch hynny, galwodd tystion ac ymgynghorwyr a ymatebodd i ymchwiliad y Pwyllgor am fwy o gyllid.

Canfyddiadau

Nododd adroddiad y Pwyllgor rai materion a gwnaeth argymhellion mewn nifer o feysydd.

Roedd y Pwyllgor wedi’i siomi gan y cynnydd hyd yn hyn. Roedd yn teimlo bod angen mwy o fomentwm i wella cyfraddau teithio llesol, gan deimlo bod diffyg arweinyddiaeth strategol ar lefel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Nid yw mapiau rhwydwaith integredig “eto’n rhan annatod o bolisïau cynllunio a thrafnidiaeth ehangach” a dylai mapio yn gyffredinol fod yn dasg lai llafurus i osgoi dargyfeirio adnoddau. Er gwaethaf sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet, teimlwyd bod lefel y cyllid yn cyfyngu ar yr uchelgais, tra nid yw dyletswyddau i ystyried teithio llesol wrth arfer swyddogaethau priffyrdd yn cael eu cymhwyso’n effeithiol.

Nid yw’r gwaith o ymgynghori ac ymgysylltu wedi cyrraedd y bobl nad ydynt yn teithio’n llesol ar hyn o bryd, a chroesawodd y Pwyllgor y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod sawl map rhwydwaith integredig lle’r oedd y gwaith ymgynghori wedi bod yn annigonol.

Fodd bynnag, cafodd y capasiti cyfyngedig o fewn awdurdodau lleol a phryderon ynghylch rheoli disgwyliadau’r cyhoedd yn absenoldeb cyllid hefyd eu cydnabod fel cyfyngiadau. Roedd y Pwyllgor yn argymell cydgynhyrchu ochr yn ochr ag ymgynghori – gan ddisgrifio’r ddau beth fel “ffactorau hanfodol ar gyfer llwyddiant wrth ddatblygu seilwaith sy’n bodloni anghenion cymuned amrywiol”.

Roedd canllawiau yn faes allweddol arall, gydag arweiniad eto wedi ei amlygu ynghyd â’r angen i sicrhau bod gan ganllawiau statws priodol ymhlith cynllunwyr a pheirianwyr. Roedd materion ehangach, fel rhannu arferion gorau, a chydbwyso dehongliad hyblyg yn effeithiol â’r angen i sicrhau bod seilwaith yn diwallu anghenion y gymuned gyfan, yn allweddol. Nodwyd yr angen i ymgysylltu â chyrff proffesiynol a grwpiau allweddol fel cynllunwyr a pheirianwyr sifil i gael gwared ar rwystrau diwylliannol rhag gweithredu canllawiau.

O ran elfennau anstatudol polisi teithio llesol, disgrifiwyd y Bwrdd Teithio Llesol fel cyfle a gollwyd. Teimlai’r Pwyllgor fod angen Cadeirydd annibynnol ar y Bwrdd yn ogystal â chylch gorchwyl “sy’n rhoi dannedd iddo”. Mae diffyg targedau, terfynau amser a chyllid yn y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol, gan olygu bod y cynllun “mewn perygl o fod yn fawr mwy na chasgliad o ddyheadau”.

Arweiniodd cwestiynau ar ddulliau o newid ymddygiad, a chydnabyddiaeth o gymhlethdod y materion dan sylw, at argymhelliad y dylid gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru weithredu yn y maes hwn.

Yn olaf, a bron yn anochel, cafodd capasiti a gallu o ran adnoddau wrth weithredu’r Ddeddf eu nodi, gan gynnwys yr angen am “gynnydd sylweddol yn y cyllid, gydag ymrwymiadau amlflwyddyn, ar gyfer datblygu seilwaith a newid ymddygiad/hyrwyddo”.

Cyllid

Roedd buddsoddiad yn fater pwysig yn yr ymchwiliad. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn seilwaith teithio llesol drwy Grantiau Diogelwch Ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’r Gronfa Trafnidiaeth Leol. Mae’r grantiau hyn wedi canolbwyntio’n gynyddol ar deithio llesol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i’r gwaith o weithredu’r Ddeddf fynd rhagddo.

Ar 1 Mai, tua’r un pryd ag y cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fwy o arian ar gyfer teithio’n llesol yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar yr adolygiad canol cyfnod o’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. O gyfanswm pecyn cyllid cyfalaf newydd o £266 miliwn, cyhoeddodd:

£60 miliwn dros dair blynedd i gyflymu’r gwaith o greu llwybrau teithio llesol i gysylltu ardaloedd preswyl â gweithleoedd, safleoedd addysg a gwasanaethau.

Cafodd tua £10 miliwn ei ddyrannu yn y flwyddyn gyfredol, gyda £20 miliwn wedi’i drefnu ar gyfer 2019-20 a £30 miliwn yn 2019-20. Ynghyd â ffrydiau ariannu ehangach, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y bydd cyfanswm y gwariant yn cyrraedd bron £92m – neu tua £10 y pen. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd, er ei bod yn dal i fod ychydig yn llai na’r £17-20 y pen a argymhellir gan y Pwyllgor.

Dadansoddi ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyniodd Llywodraeth Cymru un ar ddeg o argymhellion, gydag un ar ddeg arall wedi’u derbyn mewn egwyddor a’r ddau sy’n weddill wedi’u gwrthod.

Croesewir llawer o’r ymrwymiadau a wnaed yn yr ymateb. Er enghraifft, wrth dderbyn argymhelliad 6, ynghylch mynd i’r afael â rhwystrau diwylliannol a rhwystrau eraill rhag defnyddio canllawiau, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio gyda chyrff proffesiynol, gan gynnwys gweithio ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

Yn yr un modd, rhoddir sylw i anghysondebau o ran yr offeryn archwilio sydd wedi’i gynnwys yn y canllawiau dylunio (argymhelliad 9), a gwneir ymrwymiadau i ddiweddaru’r canllawiau cynllunio a’r canllawiau i wneud cais am grantiau i egluro sut y dylid cymhwyso gwahaniaethau o ran safonau yn ôl yr angen (argymhelliad 11).

Croesewir y cynnydd mewn cyllid hefyd.

Fodd bynnag, gall edrych ar agweddau eraill ar yr ymateb arwain at rai cwestiynau, y gellir eu hegluro mewn dwy enghraifft.

Derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 12 mewn egwyddor. Roedd yr argymhelliad hwn yn cynnig y dylai’r Bwrdd gael Cadeirydd annibynnol, cylch gorchwyl sy’n “rhoi dannedd” iddo, cyfrifoldeb dros fonitro’r Cynllun Gweithredu a’r gallu i osod targedau i’w cyrraedd ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet.

Gwrthododd y Llywodraeth argymhelliad 13 – y dylid adolygu aelodaeth y Bwrdd Teithio Llesol ac y dylid eithrio swyddogion Llywodraeth Cymru.

Yn y ddau achos hyn, mae’r ymateb yn nodi bod y Bwrdd ei hun wedi trafod yr argymhellion hyn. Mae hyn yn ddiddorol yn bennaf am fod cyrff sy’n aelodau o’r Bwrdd Teithio Llesol ymhlith y rheini a oedd yn codi cwestiynau yn ymwneud â’i lywodraethiant, ei aelodaeth a phwysigrwydd targedau yn y Cynllun Gweithredu ac ati mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor. Er y gallai fod amrywiaeth barn ar fanylion yr argymhelliad, gellid bod wedi disgwyl rhywfaint o awydd i adolygu gweithrediadau’r Bwrdd.

Hefyd, mae’n ddiddorol nodi bod yr ymateb yn y testun i argymhelliad 12 yn mynd i’r afael â’r trefniadau o ran aelodaeth a Chadeirio yn unig ac nid yw’n cynnwys unrhyw sylwadau ar gryfhau’r cylch gorchwyl, goruchwylio’r Cynllun Gweithredu na gosod targedau ac ati, sef materion a oedd hefyd wedi’u cynnwys yn yr argymhelliad.

Yn ei hymateb i argymhelliad 1, a oedd yn canolbwyntio ar yr angen am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru, ac a dderbyniwyd mewn egwyddor, dywedodd Llywodraeth Cymru:

...[The Welsh Government] has already shown leadership in the implementation of the Active Travel Act... [and] has published guidance for all local authorities to support them in their statutory duties and provides significant funding for authorities.

Eto i gyd, mae’n debyg y bydd y Pwyllgor eisoes wedi trafod lefel yr arweinyddiaeth a ddangoswyd yn barod, yn ogystal â lefelau cyllido hanesyddol a’r hyn a ddywedir yn y canllawiau, wrth ddod i’r casgliad fod angen arweiniad cryfach. Gellir dweud nad yw’n glir beth yw effaith nac ystyr derbyn argymhellion ‘mewn egwyddor’ o dan yr amgylchiadau hyn.

Gyda’r broses fapio bellach wedi’i chwblhau, lefelau cyllid wedi cynyddu ac ymrwymiadau clir gan Lywodraeth Cymru i’r nod o gynyddu cyfraddau teithio llesol, nid oes amheuaeth y bydd disgwyliadau uchel ar gyfer y maes polisi hwn.

Ac eto, nid yr ymateb i’r adroddiad hwn fydd y prawf yn y pen draw. Yn hytrach, data’r dyfodol ar gyfraddau teithio llesol yng Nghymru fydd yn dangos llwyddiant y polisi neu fel arall.

Bydd llawer o bobl yn y Cynulliad a thu hwnt yn aros yn eiddgar i weld a fydd addewid y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni.


Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tabl Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru