Addysg Economi

Diweddariad ar Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru: Targedu Targedau

Ddydd Mawrth 18 Medi, mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn cyflwyno adroddiad cynnydd yn y Cyfarfod Llawn ar Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru.

17 Medi 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthgyl yma yn Saesneg

Ddydd Mawrth 18 Medi, mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn cyflwyno adroddiad cynnydd yn y Cyfarfod Llawn ar Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru [PDF: 1096 KB].

Nod y blog hwn yw rhoi trosolwg cryno o’r cynllun a thrafod y targedau sydd ynddo.

Mae cyflawni’r cynllun yn flaenoriaeth weinidogol

Lansiwyd y   Cynllun Cyflogadwyedd yn gymharol ddiweddar ar 19 Mawrth 2018. Esboniodd y Gweinidog, Eluned Morgan, yn y Cyfarfod Llawn yn ystod ei lansiad mai:

Ein gweledigaeth yw gwneud Cymru’n economi gyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel ynddi.

Mae’r Cynllun, a ddisgrifir fel blaenoriaeth i’r Gweinidog ei gyflawni [PDF: 431 KB], wedi’i drefnu dros gyfnod gweithredu deng mlynedd. Mae’r cynllun:

[yn cynnig] fframwaith cenedlaethol sy’n pennu cyfeiriad a safonau. Rydym wedi gosod cyfres o nodau ymestynnol ac uchelgeisiol sy’n ymwneud â diweithdra, anweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau, oherwydd ein bod yn benderfynol o wneud cynnydd gwirioneddol o ran y pethau hyn o fewn y degawd nesaf.

Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?

Mae’r cynllun yn cynnwys chwe ‘tharged’ unigol ac yn mynd ymlaen i ddisgrifio’r pedair ffordd allweddol o gyflawni’r ‘targedau’. Mae crynodeb o’r rhain isod.

Ffigur 1: Y targedau

Ffigur 2: Y ffyrdd allweddol o gyflawni’r targedau

Pan gawsant eu lansio, fe wnaeth y Gweinidog gydnabod bod rhai pryderon ynghylch y targedau

Yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn wrth lansio’r adroddiad, mynegwyd rhai pryderon ynghylch y targedau.

Nododd gan Lee Waters AC fod pedwar o’r chwe tharged yn ‘dargedau ar gyfer gosod targedau eraill’. Yn ffigur 1 uchod, gellir gweld bod y 5ed a’r 6ed targed yn dangos bwriad i osod targed mewn gwirionedd, ond nid yw’r targed 1af a’r 4ydd targed yn pennu’r lefel ar gyfer cynyddu cynhyrchiant, nac i ba raddau y dylid lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog y byddai’n ‘ceisio sicrhau mwy o fanylder’, ac aeth ymlaen i ddweud:

Rwy’n ymwybodol iawn mai’r hyn sydd gennym ni yma yw’r prif dargedau a byddaf yn gweithio gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod yn cael targedau mwy penodol a’n bod yn eu torri i lawr

Nid yw’r nodyn technegol [PDF: 106 KB] a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ynghylch y targedau yn mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn. Amser a ddengys a fydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r targedau mwy manwl ar 18 Medi.

Mae’r gweinidog wedi cydnabod yr angen am atebolrwydd mewn perthynas â chynnydd rhanbarthol

Ar hyn o bryd, ar gyfer rhai o’r targedau o fewn y cynllun, mae perfformiad ar draws gwahanol rannau o Gymru yn amrywio’n sylweddol.

Mae hyn yn creu’r risg na fydd unrhyw darged ar gyfer Cymru gyfan yn adlewyrchu’r perfformiad mwy siomedig mewn rhannau penodol o Gymru.

Gan gydnabod hyn, wrth lansio’r cynllun, esboniodd y Gweinidog

Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr effaith ranbarthol, a sut olwg sydd ar bethau yn rhanbarthol, felly byddwn yn monitro hyn mewn ffordd gydlynol iawn.

I egluro hyn, gellir defnyddio’r targed cyntaf sy’n ymwneud â chynhyrchiant.

Yn seiliedig ar ranbarthau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) (gweler ffigur 09), y rhanbarth sydd â’r lefel uchaf o gynhyrchiant yng Nghymru yw rhanbarth Canol y Cymoedd gyda lefel cynhyrchiant sydd 6% yn is na chyfartaledd y DU (mae’n nodedig bod cynhyrchiant holl ranbarthau Cymru yn is na chyfartaledd y DU).

Ar yr un pryd, mae lefel cynhyrchiant rhanbarth Powys 35% yn is na chyfartaledd y DU, a’r lefel hon yw’r isaf yn y DU yn ôl yr ONS.

Gair olaf ar fuddsoddiad.

Yn ystod y ddadl ar y cynllun yn y Cyfarfod Llawn, gofynnodd Adam Price AC:

a ydy’r Gweinidog yn gallu rhoi syniad inni o ran y buddsoddiad sydd yn sail i’r cynllun?

Yn ei hymateb i Adam Price, ni nododd y Gweinidog ffigur cyllido. Fodd bynnag, ers y ddadl, mae agwedd sylweddol ar y cynllun, sef rhaglen Cymru’n Gweithio, wedi mynd allan i dendr. Bwriad Cymru’n Gweithio yw cefnogi pobl sy’n ddi-waith, sy’n anweithgar yn economaidd ac unigolion 16 oed a throsodd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Mae’r ymarfer caffael hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai cost gyffredinol y Rhaglen Cymru’n Gweithio fydd £617 miliwn dros 6 blynedd.

Mae hyn yn rhoi rhyw syniad cychwynnol o lefel y buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y cynllun hwn, sydd ond chwe mis tuag at gyflawni ei uchelgais deng mlynedd.


Erthygl gan Phil Boshier, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru