Beth mae ail gyfres Llywodraeth y DU o hysbysiadau 'dim bargen' yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 18/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 13 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hail gyfres o hysbysiadau 'dim bargen' ar sut y dylai pobl a busnesau baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn. Cyhoeddwyd yr hysbysiadau ar ôl i Gabinet Llywodraeth y DU gyfarfod i drafod sut y gellid bwrw ymlaen pe bai 'dim bargen', a thrafodwyd cynllunio adrannol ar gyfer y sefyllfa hon.

Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, wedi dweud bod Llywodraeth y DU yn anelu at daro bargen â Brwsel ynghylch Brexit erbyn canol mis Tachwedd fan bellaf, ond mae'n cynyddu'r gwaith cynllunio wrth gefn hefyd rhag ofn na fydd hynny'n digwydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC:

Once again, these Technical Notices show the disruption of a ‘no deal’ Brexit. There is no good news in these notices – nothing contained in the 140 pages will make life better for the people of Wales or our businesses. Instead, they demonstrate how crashing out of the EU will mean increased costs, burdens and new red tape for businesses and citizens.

Ysgrifennodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (y Pwyllgor EAAL) ar 10 Medi yn ei hysbysu o’r ffaith i Ddirprwy Prif Weithredwr GIG Cymru ysgrifennu at gyrff iechyd ar ôl i’r gyfres gyntaf o hysbysiadau gael ei rhyddhau, ac i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ysgrifennu at randdeiliaid ynghylch yr hysbysiadau am raglenni a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y Prif Weinidog wrth Pwyllgor EAAL ar 17 Medi y byddai’n gweld faint o’r wybodaeth hon y gellir ei chyhoeddi, gyda’r bwriad o gyhoeddi cymaint ag y bo modd.

Mae'r erthygl hon yn nodi rhai o brif oblygiadau'r ail gyfres o hysbysiadau 'dim bargen' i unigolion a busnesau. Mae ein herthygl o'r mis diwethaf yn egluro beth yw senario 'dim bargen', ac mae'n ymdrin â'r gyfres gyntaf o ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hefyd yn tynnu sylw at rai o'r prif faterion sy'n bwysig i Gymru. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o erthyglau wrth i ragor o hysbysiadau gael eu cyhoeddi.

Beth mae'r ail gyfres o ganllawiau 'dim bargen' yn ei ddweud am faterion sy'n effeithio ar unigolion?

Mae'r sylw a roddwyd yn y cyfryngau i'r canllawiau a gyhoeddwyd ar 13 Medi wedi canolbwyntio ar effaith senario 'dim bargen' ar unigolion, a'r prif faterion a fydd yn effeithio ar bobl sy'n byw yng Nghymru a gweddill y DU yw costau defnyddio ffonau symudol dramor, trwyddedau gyrru a phasbortau.

Pe bai senario 'dim bargen', ni fyddai'r costau a godir gan weithredwyr ffonau symudol yr UE ar weithredwyr y DU am ddarparu gwasanaethau ffôn symudol dramor yn cael eu rheoleiddio ar ôl mis Mawrth 2019. Byddai hyn yn golygu na fyddai modd gwarantu mwyach y gallech ddefnyddio eich ffôn symudol yn yr UE heb dalu unrhyw gostau ychwanegol. Fodd bynnag, mae gofynion ar weithredwyr ffonau symudol ar hyn o bryd i bennu terfyn ariannol ar y defnydd o ddata symudol tra bydd unigolion o'r DU yn defnyddio eu ffonau dramor, a dywed Llywodraeth y DU y byddai'n deddfu i gadw'r gofynion hynny'n rhan o gyfraith y DU (gan gadw'r terfyn cyfredol o £45).

Efallai na fydd trwyddedau gyrru bellach yn ddilys ar eu pennau eu hunain yn yr UE ar ôl mis Mawrth 2019, ac efallai y bydd gofyn i yrwyr gael trwydded yrru ryngwladol i'w galluogi i yrru yn yr UE.

O ran pasbortau, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd deiliaid pasbortau Prydeinig sy'n teithio i'r Aelod-wladwriaethau hynny sy'n rhan o gytundeb Schengen (pob un heblaw Iwerddon, Rwmania, Bwlgaria, Croatia a Chyprus), o 29 Mawrth 2019 ymlaen, yn cael eu hystyried yn 'wladolion trydedd wlad' pe bai'r DU yn gadael yr UE heb fargen.

Y goblygiadau ymarferol yn sgil hynny yw bod gwladolion y DU yn cael eu cynghori i sicrhau, pan fyddant yn cyrraedd ardal Schengen, fod o leiaf 6 mis yn weddill ar eu pasbortau tan iddynt ddod i ben, gan fod hynny'n un o ofynion Cod Ffiniau Schengen. Mae'r sefyllfa'n wahanol yn Iwerddon, a gwmpesir gan y Cytundeb Teithio Cyffredin, ac nid yw'n yn ofynnol i ddinasyddion Prydain ac Iwerddon gymryd unrhyw gamau i amddiffyn eu hawliau presennol i symud yn rhydd rhwng y ddwy wlad ac i fyw ynddynt. Felly, ni fydd hyn yn effeithio ar borthladdoedd Caergybi, Abergwaun ac Aberdaugleddau, sef y llwybrau i bobl deithio rhwng Cymru ac Iwerddon.

Beth yw'r prif oblygiadau i fusnesau yng Nghymru?

Mae ail gyfres Llywodraeth y DU o hysbysiadau 'dim bargen' yn tynnu sylw at y goblygiadau i fasnach rhwng y DU a'r UE. Y meysydd sy'n berthnasol i Gymru yw masnach o dan yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol; masnachu nwyddau sy'n ddarostyngedig i reolau sy'n benodol i gynnyrch ledled yr UE gyfan; a chymeradwyaeth math cerbyd ar gyfer gweithgynhyrchwyr cerbydau a chydrannau.

Mae'r egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol yn cwmpasu nifer o nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu megis dodrefn, tecstilau a beiciau. O dan yr egwyddor hon, mae rhai nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu yn ddarostyngedig i reoliadau cenedlaethol yn hytrach na rheolau'r UE gyfan, ond gellid eu gwerthu ar farchnad yr UE. Pe bai senario 'dim bargen', byddai'n rhaid i fusnesau'r DU fodloni gofynion Aelod-wladwriaeth gyntaf yr UE y maent yn allforio cynhyrchion iddi (heb gynnwys y gwledydd y mae'r cynhyrchion yn teithio drwyddynt), a byddai angen i unrhyw fewnforion fodloni gofynion y DU.

Pe bai senario 'dim bargen', ni fyddai canlyniadau asesiadau cydymffurfiaeth gan gyrff a hysbysir gan y DU ar gyfer cynhyrchion sy'n ddarostyngedig yn benodol i reolau'r UE gyfan yn cael eu cydnabod mwyach gan yr UE ar ôl mis Mawrth 2019. Caiff y cyrff hyn eu cymeradwyo gan yr UE i asesu cydymffurfiaeth prosiectau â deddfwriaeth yr UE. Mae hyn yn golygu na fydd modd rhoi cynhyrchion a brofir gan gorff a hysbysir gan y DU ar farchnad yr UE mwyach heb iddynt gael eu hailbrofi a'u hailfarcio gan un o gyrff asesu cydymffurfiaeth gydnabyddedig yr UE. Bydd hyn yn berthnasol i gynhyrchion sy'n cael eu hallforio gan fusnesau yng Nghymru megis peiriannau, offer trydanol ac electronig.

Mae cymeradwyaeth math cerbyd yn caniatáu i gynhyrchwyr cerbydau a chydrannau roi cynhyrchion newydd ar y farchnad. Pe bai senario 'dim bargen', ni fyddai cymeradwyaethau math cerbyd a gyhoeddir yn y DU yn ddilys ar ôl mis Mawrth 2019 ar gyfer cerbydau sy'n cael eu gwerthu neu eu cofrestru ar farchnad yr UE. Felly, mae Llywodraeth y DU yn cynghori y bydd angen i wneuthurwyr sicrhau eu bod yn cael cymeradwyaeth gan awdurdod cymeradwyaeth math yn un o wledydd yr UE er mwyn gwerthu eu cynnyrch yn yr UE.

Mae'r darlun isod yn dangos enghraifft o natur draws-ffiniol y gadwyn gyflenwi ceir, lle cyflawnir gwahanol gamau yng Nghymru, Lloegr a gwledydd yn yr UE a thu hwnt. Mae hyn yn dangos effaith y sefyllfa ar gynhyrchion y mae Cymru'n rhan allweddol o'u cynhyrchu. Llun yn dangos cadwyn gyflenwi drawsffiniol system wagio Mae'r effeithiau posibl hyn yn ychwanegol at y rhai a nodwyd yn y gyfres gyntaf o hysbysiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:

- Tariffau a gaiff eu cymhwyso i allforion i'r UE a mewnforion o'r UE. Byddai'r DU yn pennu ei thariffau ei hun tra byddai'r UE yn cymhwyso ei Thariffau Tollau Cyffredin i gynhyrchion y DU;

- Gallai fod angen i fusnesau gymhwyso'r un rheolau o ran tollau tramor a chartref i nwyddau sy'n symud rhwng y DU a'r UE â'r rhai a gymhwysir ar hyn o bryd rhwng y DU a gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE, er enghraifft datganiadau tollau; a datganiadau diogelwch.

Roedd rhwystrau fel y rhain, boed yn dariffau neu beidio, ymhlith y prif bryderon a fynegwyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn ei hasesiad i Lywodraeth Cymru o effaith Brexit ar gwmnïau canolig a mawr yng Nghymru. Yn benodol, byddai tariffau'n effeithio ar y sector moduron; y sector peirianneg drydanol a lled-ddargludyddion; y sector prosesu a chemegau; a'r sectorau dur yng Nghymru. Byddai rhwystrau heblaw am dariffau yn effeithio'n benodol ar y sector awyrofod. Tabl yn dangos effaith rhwystrau masnachu ar sectorau o economi Cymru


Erthygl gan Gareth David Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Polisi Masnach: y materion i Gymru

Ffynhonnell: Ysgol Fusnes Caerdydd, Cyfnod Pontio’r UE a Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru