Sut y gall academyddion gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad?

Cyhoeddwyd 18/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi casglu gwybodaeth ynghyd am sut y gall academyddion ymgysylltu â gwaith y Cynulliad, a chyhoeddwyd y wybodaeth ar ei wefan.

Mae’r tudalennau newydd ar y we yn disgrifio sut y mae’r Cynulliad yn defnyddio gwaith ymchwil academaidd ac yn amlinellu ffyrdd gwahanol o gymryd rhan yn ein gwaith.

Yn gynwysedig hefyd mae nodyn briffio newydd a baratowyd ar y cyd gan bedair deddfwrfa’r DU (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dau Dŷ Senedd y DU, Senedd yr Alban, a Chynulliad Gogledd Iwerddon) ar beth yw effaith gwaith ymchwil yn y cyd-destun seneddol. Ysgrifennwyd y nodyn hwn i lywio datblygiad canllawiau a meini prawf asesu ar gyfer yr ymarferiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf yn 2021. Dengys y nodyn bod ymchwil academaidd, nid yn unig yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo Aelodau i wneud eu gwaith, ond hefyd mae’n gwneud yn amlwg bod ymgysylltu â’r Cynulliad yn ffordd o ddangos effaith gwaith ymchwil.

Yn ogystal, mae’r tudalennau newydd yn cynnwys gwybodaeth am rai o’n mentrau ymgysylltu eraill, fel y cynllun cymrodoriaeth academaidd. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi galwad newydd i academyddion ymgeisio i weithio fel cymrodorion ochr yn ochr â Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad yn 2019. Ewch i’r tudalennau newydd ar y we nawr i ddarllen am y gwaith a wnaethpwyd gan ein cymrodorion blaenorol, ac i gadw golwg ar yr alwad ar gyfer 2019.


Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru