Cyhoeddiad Newydd: Diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymru ddatganoledig: amserlen o ddatblygiadau llywodraeth leol

Cyhoeddwyd 21/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2021   |   Amser darllen munudau

Sefydlwyd y strwythur llywodraeth leol presennol ym 1996, ac mae'r ddadl ynghylch pa mor effeithiol a chynaliadwy yw'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau lleol wedi parhau ers hynny.

Dechreuodd Llywodraeth Cymru nifer o Gomisiynau ac adroddiadau yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys 'adolygiad Beecham' i wasanaethau cyhoeddus, 'adolygiad Simpson' ar ba wasanaethau sy'n cael eu darparu orau ac ym mhle, a 'Chomisiwn Williams' ar ddarparu a llywodraethu gwasanaethau cyhoeddus. Yn dilyn argymhellion 'Comisiwn Williams' yn benodol, ceisiodd Llywodraeth Cymru symud yr agenda newid yn ei blaen. Cyflwynwyd Bil drafft yn y Pedwerydd Cynulliad a fyddai’n paratoi'r ffordd ar gyfer uno awdurdodau lleol, i roi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol a newid swyddogaethau cynghorau a'u Haelodau.

Fodd bynnag, yn sgil etholiad y Cynulliad yn 2016, ni aeth y Bil yn ei flaen. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Bapur Gwyn a fyddai wedi cadw'r ôl troed presennol o 22 o awdurdodau, ond gyda gweithio rhanbarthol wedi’i fandadu, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi troi’n ôl at bolisi sy’n canolbwyntio ar leihau nifer yr awdurdodau lleol – gan ymgynghori’n fwyaf diweddar ar Bapur Gwyrdd a oedd eto’n cynnig rhaglen o uno. Yn ogystal â diwygio strwythurol, mae’r Pumed Cynulliad wedi gweld cynigion ar gyfer diwygio etholiadol ac ariannol mewn awdurdodau lleol. Mae'r papur ymchwil hwn yn darparu amserlen o'r datblygiadau allweddol yn yr hanes o ddiwygio llywodraeth leol hyd yma.

Diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymru ddatganoledig: amserlen o ddatblygiadau llywodraeth leol (PDF, 1475KB)


Y Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru