Y Cynulliad i drafod galwadau i beidio â chau adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg

Cyhoeddwyd 24/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 26 Medi 2018, bydd y Cynulliad yn trafod y ddeiseb P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!.

Lansiodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar ei gynigion i newid y modd y darperir gwasanaethau iechyd ar draws y bwrdd iechyd ar 19 Ebrill 2018 'Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd: Dogfen ymgynghori'. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos tan 12 Gorffennaf 2018. Bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu sut i fwrw ymlaen yn nes ymlaen yn 2018.

Mae tri chynnig i’r Ymgynghoriad, sy'n ceisio symud mwy o wasanaethau allan o ysbytai i gymunedau a darparu gofal yng nghartrefi’r cleifion lle mae hynny’n bosibl. Ym mhob un o'r tri chynnig:

- Bydd Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer canolbarth Cymru.

- Bydd ysbyty newydd yn cael ei adeiladu ger ffin Sir Gaerfyrddin-Sir Benfro gan gynnwys uned Damweiniau ac Achosion Brys.

- Bydd deg canolfan gymunedol, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gofal gan gynnwys rhai triniaethau a oedd yn arfer â chael eu gwneud yn yr ysbyty.

O dan y tri chynnig, byddai ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei israddio o ysbyty cyffredinol dosbarth. Y cynigion yw y bydd Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn dod yn un o rwydwaith o ysbytai cymunedol.

Bydd ysbytai cymunedol yn darparu gwelyau anfeddygol (i bobl sydd angen ychydig mwy o driniaeth nag y gallant ei gael gartref); triniaeth ar gyfer mân anafiadau; profion gan gynnwys sganiau a gwasanaethau dan arweiniad bydwraig.

Trafodaethau yn y Cyfarfod Llawn

Mae israddio posibl Ysbyty Llwynhelyg a'r ymgynghoriad cysylltiedig yn faterion a godwyd ar nifer o achlysuron yn ystod y misoedd diwethaf yn y Cyfarfod Llawn. O ganlyniad i’r cynlluniau, nodwyd y bydd angen i fwy o gleifion yn Sir Benfro deithio ymhellach ar gyfer gwasanaethau iechyd a gallai hyn effeithio ar gymunedau ar draws y sir.

Yn fwyaf diweddar ym mis Mehefin 2018, mynegwyd pryderon bod pob opsiwn a gynigir fel rhan o'r ymgynghoriad yn arwain at israddio Ysbyty Llwynhelyg heb unrhyw opsiwn i ddiogelu'r gwasanaethau a gynigir. Mewn ymateb i'r pryderon hyn, nododd Llywodraeth Cymru fod ymgynghoriad eang yn digwydd a bod yr opsiynau wedi'u datblygu gyda 'meddygon, nyrsys a staff, pobl sy'n darparu gofal, cynrychiolwyr grwpiau cleifion a'u partneriaid'. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith ei bod yn hanfodol bod pobl yn mynegi barn ar strwythur y gwasanaethau yn y gorllewin yn y dyfodol.

Yn ystod Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2018, dywedodd Aelod Cynulliad eu bod wedi cael gwybod am ymwybyddiaeth isel o ymgynghoriad y Bwrdd Iechyd ac y gallai fod wedi'i wneud yn fwy hygyrch. Gwelwyd bod yr angen i'r Bwrdd Iechyd ymgysylltu’n agored yn bwysig. Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud ei bod yn cydnabod yr angen i'r Bwrdd Iechyd gydnabod lle na chaiff pobl eu cyrraedd a byddai’n barod i drafod unrhyw welliannau y gellid eu gwneud i’r ffordd y mae'r Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mynegwyd problemau gyda meddygon y tu allan i oriau yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda gan Aelod Cynulliad ym mis Mai 2018 a nodwyd hefyd y gellid rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys o ganlyniad i hyn. Gallai hyn fod yn broblem wedyn os ceir gwared ar adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi llwyddo i ddenu meddygon i ardal Ceredigion a gogledd Sir Benfro a byddai'n disgwyl i Hywel Dda barhau i ddenu mwy o feddygon i sicrhau bod digon o feddygon ar gael y tu allan i oriau.


Erthygl gan Rebekah James, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.