Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Cyllid Economi

Yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE: Yr achos dros gyllid yn y dyfodol i Gymru

Ar 24 Medi, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ei adroddiad ar yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE pan fydd y DU yn ymadael â'r UE. Gyda Chymru yn cael £680 miliwn y flwyddyn o ystod o ffrydiau cyllido'r UE, pwysleisiodd y Pwyllgor fod sicrhau cyllid addas newydd yn hanfodol i Gymru.

25 Medi 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthgyl yma yn Saesneg

Ar 24 Medi, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ei adroddiad ar yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE pan fydd y DU yn ymadael â’r UE.  Gyda Chymru yn cael £680 miliwn y flwyddyn o ystod o ffrydiau cyllido’r UE, pwysleisiodd y Pwyllgor fod sicrhau cyllid addas newydd yn hanfodol i Gymru. Mae ei adroddiad yn gwneud achos trawsbleidiol ar gyfer cyllid parhaus yn y dyfodol i Gymru, gyda chrynodeb o’r materion allweddol yn y fideo isod.

Mewn cyfweliad ar BBC Wales ar 30 Medi, holwyd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Theresa May AS, am y trefniadau ar gyfer datganoli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef Cronfa ar gyfer y DU gyfan, a faint o arian y gallai Cymru ddisgwyl ei gael o’r gronfa hon ar ôl Brexit. Pan ofynnwyd iddi a fyddai Cymru  yn cael cymaint o arian ag a gaiff ar hyn o bryd drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE, dywedodd:

The point of the shared prosperity fund is that we will be looking at issues of disparities between the nations of the UK – disparities within nations and regions and deciding expenditure of money so that we are ensuring that money is being spent as effectively as possible to deliver for people.

Gofynnwyd i’r Prif Weinidog hefyd faint o reolaeth fyddai gan Lywodraeth Cymru dros Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Tanlinellodd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt am y modd y caiff y gronfa ei strwythuro, gan ddweud:

I fully recognise the role that the Welsh Government has played and the role that the Welsh Government has played in decisions for Wales.  But obviously as we look at the shared prosperity fund across the whole of the UK we want to ensure that we get the right structure and the right processes involved in that so that the money that is being spent is being spent as effectively as possible because it’s about delivering for people on the ground.

Mae’r rownd bresennol o gyllid yr UE yn rhedeg tan 2020, ond mae trefniadau’n cael eu gwneud i’r DU ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019.  Mae’r Setliad Ariannol sy’n ffurfio rhan o’r Cytundeb Diddymu drafft a gytunwyd rhwng y DU a’r UE yn nodi y bydd y DU yn cymryd rhan ym mhob rhaglen a ariennir gan yr UE hyd at fis Rhagfyr 2020, yn amodol ar gytundeb negodedig terfynol.  Os bydd y DU yn ymadael â’r UE o dan ‘senario dim bargen’, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn gwarantu cyllid yr UE i sefydliadau hyd at ddiwedd 2020.

Pa gyllid yr UE y mae Cymru yn eu cael ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae Cymru yn cael cyllid yr UE o nifer o ffynonellau. Y prif ddau yw Cronfeydd Strwythurol sy’n ceisio mynd i’r afael â thlodi a lleihau anghysondebau rhanbarthol; a thrwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).  Mae dwy elfen i gyllid PAC – taliadau uniongyrchol i ffermwyr; a’r Rhaglen Datblygu Gwledig.  Mae Cymru hefyd yn cael arian gan nifer o ffynonellau eraill, gan gynnwys cyllid ymchwil ac arloesi drwy Horizon 2020; Creative Europe; a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Ffigur 1: Cronfeydd yr UE y mae Cymru yn eu cael bob blwyddyn

Graff sy'n dangos gwerth cronfeydd yr UE y mae Cymru yn eu cael bob blwyddyn

Yn benodol, mae Cymru wedi cael llawer mwy o Gronfeydd Strwythurol na’r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr.  Mae hyn yn bennaf oherwydd bod gan ranbarthau gorllewin Cymru a chymoedd Cymru y Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) isaf y pen o unrhyw ran o’r DU, sef 68 y cant o gyfartaledd yr UE o’i gymharu â 611 y cant ar gyfer Gorllewin Llundain Fewnol.  Mae gan y DU y gwahaniaeth economaidd rhanbarthol mwyaf mewn Cynnyrch Domestig Gros y pen o unrhyw un o 28 o Aelod-wladwriaethau’r UE.  O ganlyniad i hyn, dros y rownd gyfredol ar gyfer 2014-2020 o Gronfeydd Strwythurol, bydd Cymru yn cael dros bedair a hanner gymaint o Gronfeydd Strwythurol y pen na chyfartaledd y DU.

Ffigur 2: Cronfeydd Strwythurol y pen a geir gan wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr dros gyfnod 2014-20

Graff sy'n cymharu Cronfeydd Strwythurol y pen a geir gan wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr rhwng 2014 a 2020

Beth allai ddisodli ffrydiau cyllido’r UE?

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig Cronfa Ffyniant Gyffredin ledled y DU i ddisodli’r Cronfeydd Strwythurol.  Hyd yma ychydig o fanylion sydd ar gael am sut y gallai hyn weithredu, ond mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn disgwyl yr ymgynghorir ar y cynigion ar adeg Datganiad Hydref 2018 Llywodraeth y DU.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU ei Fil Amaethyddiaeth yn gynharach y mis hwn i awdurdodi gwariant newydd i roi cefnogaeth i’r sector rheoli tir unwaith y bydd y PAC yn dod i ben.  Mae hefyd yn caniatáu i daliadau gael eu gwneud yn ystod cyfnod pontio yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. 

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau, pan fyddant yn dod yn gyfraith, a fydd yn rhoi pwerau sy’n gyfyngedig o ran amser i Lywodraeth Cymru barhau i wneud taliadau a chyflwyno cynlluniau newydd hyd nes ei bod yn cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun.  Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil Amaethyddiaeth cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn 2021.  Fel y cam cyntaf yn datblygu ei chynigion ar gyfer cymorth rheoli tir ar ôl Brexit, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y rhain yn Brexit a’n tir.

Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer parhau i gymryd rhan mewn, neu ddisodli, ffynonellau cyllido eraill yr UE, megis cyllid ymchwil ac arloesi Horizon Europe, rhaglen cyfnewid myfyrwyr ERASMUS+, a Banc Buddsoddi Ewrop yn parhau i fod yn destun trafodaethau rhwng y DU a’r UE.

Beth y mae’r Pwyllgor yn argymell ddylai ddigwydd i sicrhau’r fargen orau i Gymru?

Mae’r Pwyllgor wedi gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, ac yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried y rhain ac ymateb iddynt Mae ei brif argymhellion yn cynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau â’i hymdrechion i sicrhau nad yw Cymru ‘geiniog ar ei cholled’ o ganlyniad i benderfyniad y DU i ymadael â’r UE, a dylai barhau i gael o leiaf £680 miliwn y flwyddyn, ynghyd â chwyddiant, o ffrydiau cyllido ar ôl Brexit;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddatblygu dewis amgen hirdymor cynaliadwy yn lle fformiwla Barnett, sy’n dyrannu cyllid ar draws y DU yn seiliedig ar angen;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyd-drafod gyda Llywodraeth y DU i sicrhau o leiaf y lefelau cyllid cyfredol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyfan;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyfrifoldeb dros weinyddu a rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru o’i thrafodaethau â Llywodraeth y DU;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i gael ei lefel gyllido gyfredol ar ôl i’r DU adael y Polisi Amaethyddol Cyffredin; a
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod fframwaith y DU gyfan ar gyfer cymorth amaethyddol yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf posibl i Lywodraeth Cymru i’w galluogi i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi anghenion penodol y sector rheoli tir yng Nghymru. 

Yn ogystal â’r prif argymhellion hyn, gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion eraill sy’n canolbwyntio ar y modd y gallai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU weithredu yng Nghymru; dyfodol y cyllid ymchwil ac arloesi; dyfodol Banc Buddsoddi Ewrop; disodli Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop; ac arian ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yn y dyfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion y Pwyllgor ac yn ymateb iddynt, ac yna cânt eu trafod yn y Cyfarfod Llawn.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru