Dathlu Diwrnod Morwrol y Byd a Phorthladdoedd Cymru

Cyhoeddwyd 27/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw yw Diwrnod Morwrol y Byd, ac mae'n gyfle i ystyried pwysigrwydd diogelwch llongau, diogelwch morwrol a'r amgylchedd morol. Eleni, rydym yn dathlu 70 mlynedd ers sefydlu'r Sefydliad Morwrol Rhyngwladol, a chan hynny, y thema eleni yw "Ein Treftadaeth - Gwell Llongau ar gyfer Gwell Dyfodol".

Ffordd morglawdd Bae Caerdydd Ffordd morglawdd Bae Caerdydd

Mae hyn yn rhoi inni'r cyfle i ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu sector morwrol Cymru - nawr ac yn y dyfodol. Yng Nghymru, mae ein porthladdoedd yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi drwy gefnogi swyddi, ennyn twf, a hwyluso masnach. Bydd y DU, fel gwlad ar ynys, bob amser yn symud nwyddau drwy ein porthladdoedd. Unwaith y byddwn yn gadael yr UE ac yn dod yn drydedd wlad, bydd masnach rhwng y DU a'r UE yn parhau i fod yn bwysig, a gallai effaith Brexit ar ein porthladdoedd fod yn sylweddol.

Gallai "Porthladdoedd Rhydd" fod yn un opsiwn i gefnogi porthladdoedd ar ôl gadael yr UE. Gyda sylw cynyddol yn ddiweddar i gysyniad "porthladdoedd rhydd", mae'r erthygl hon yn trafod beth ydynt, sut y gellir eu sefydlu, ac a allent roi hwb i borthladdoedd Cymru a'r sector morwrol.

Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y Dyfodol

Ni wyddwn eto sut beth fydd perthynas y DU a'r UE yn y dyfodol, ond rydym yn gwybod mai un o nodweddion allweddol cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth economaidd yn y dyfodol yw creu Ardal Masnach Rydd newydd ar gyfer nwyddau. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau nad oes dim cwota na gofynion rheolau tarddiad ar gyfer nwyddau rhwng y DU a'r UE, gan hwyluso masnach ddirwystr mewn perthynas â nwyddau.

Fodd bynnag, nid oes cytundeb i'w gael hyd yma. Er bod ymateb rhanddeiliaid trafnidiaeth y DU a'r diwydiannau cysylltiedig i'r Papur Gwyn wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, roedd ymateb Michel Barnier i'r Papur Gwyn yn llai calonogol ar faterion allweddol megis masnach hwylus a thollau.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyfres o hysbysiadau technegol ynghylch sut i baratoi ar gyfer senario 'dim bargen'. Mae hyn yn cynnwys busnesau sydd angen cymhwyso yr un rheolau tollau tramor a chartref i nwyddau sy'n symud rhwng y DU a'r UE ag sydd ar waith ar hyn o bryd rhwng DU a gwledydd nad ydynt yn yr UE, er enghraifft datganiadau tollau a datganiadau diogelwch.

Trafodir yr hysbysiadau hyn mewn rhagor o fanylder mewn blog blaenorol gan y gwasanaeth ymchwil.

Parthau Rhydd

Ardaloedd sydd wedi'u lleoli'n ddaearyddol o fewn ffiniau tir gwlad ond sydd y tu hwnt i reolaeth tollau yw parthau rhydd. Yn yr ardaloedd hyn, ni chodir tollau mewnforio na threth ar werth hyd nes y bydd nwyddau'n gadael y parth ac yn mynd i mewn i'r wlad y mae'r parth wedi'i lleoli ynddi, gan olygu bod prosesau gwerth ychwanegol yn cael eu cynnal yn y porthladd. Pan fydd parthau rhydd wedi'u lleoli mewn porthladdoedd môr, maent yn aml yn cael eu galw'n borthladdoedd rhydd.

Ymddengys parthau rhydd ledled y byd, o Frasil i Fwlgaria, gan weithredu fel catalyddion ar gyfer masnach ryngwladol drwy ganiatáu i fasnachwyr a chwmnïau cludo ar longau storio nwyddau gydag ychydig iawn o gost a biwrocratiaeth - ac o'r herwydd maent yn cael eu trafod fwyfwy yng nghyd-destun trafodaethau Brexit a threfniadau masnachu yn y dyfodol â'r UE.

Parthau Rhydd a'r UE

Er nad oes Parthau Rhydd yn weithredol yn y DU ar hyn o bryd, mae rhai wedi'u gwasgaru ledled Ewrop, â thua 80 parth rhydd ar draws 20 o wledydd yr UE.

Yn ôl Comisiwn yr UE, ym mis Tachwedd 2017, Croatia oedd â'r nifer fwyaf o barthau rhydd, gan ddatgan bod ganddi 11 o barthau rhydd sylweddol, tra bod gan yr Almaen a Ffrainc ddau yr un.

Mae Cod Tollau yr Undeb Ewropeaidd yn caniatáu i unrhyw aelod-wladwriaeth ddatgan unrhyw ran o'u tiriogaeth yn barth rhydd. Mae'n rhaid i'r parthau hyn fod wedi'u hamgáu ac mae'n rhaid i'r mynedfeydd ac allanfeydd fod o dan oruchwyliaeth. Mae'r cod yn datgan bod pobl, nwyddau a chyfryngau cludo sy'n mynd i mewn i'r parthau hyn neu'n eu gadael yn ddarostyngedig i reolaeth o ran tollau.

Dynodi Parthau Rhydd

Mae dynodiad a gweithrediad Parth Rhydd yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth yr UE sydd wedi'i gosod yng Nghod Tollau'r Undeb. Mae trefniadau ar gyfer sefydlu parthau rhydd yn y DU wedi'u nodi yn Neddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979. Yn y bôn, gall y Trysorlys sefydlu parthau rhydd drwy Orchymyn fel ardal arbennig at ddibenion tollau.

Mae dynodiad Parth Rhydd yn bwnc sydd wedi'i gadw gan Lywodraeth y DU felly, hynny yw, mae'n fater heb ei ddatganoli.

Polisi Porthladdoedd Cymru

Mae Deddf Cymru 2017 ("Deddf 2017") yn datganoli ystod o bwerau gweithredol mewn perthynas â phorthladdoedd Cymru, gan gynnwys cyfrifoldeb dros ddatblygu porthladdoedd, ynghyd â chymhwysedd deddfwriaethol yn yr ardaloedd hyn. "Porthladdoedd ymddiriedolaeth a gedwir" ("Reserved trust ports"), fel y'u diffinnir yn adran 32 o Ddeddf 2017, yw'r unig eithriad sydd heb eu datganoli.

Cyrff statudol annibynnol yw "porthladdoedd ymddiriedolaeth" ("trust ports") a gânt eu llywodraethu gan eu deddfwriaeth eu hunain. Yn eu hanfod, porthladdoedd ymddiriedolaeth mawr yw "porthladdoedd ymddiriedolaeth a gedwir", gan asesu eu maint yn ôl eu trosiant blynyddol - yng Nghymru, Aberdaugleddau yw'r unig borthladd ymddiriedolaeth a gedwir.

Fodd bynnag, fel yr amlinellir uchod, mae dynodi ardal i fod yn Barth Rhydd yn fater sydd wedi'i gadw gan Lywodraeth y DU.

A allai porthladdoedd rhydd fod yn hwb i Gymru ar ôl Brexit?

Fel rhan o ymchwiliad i effaith Brexit ar Borthladdoedd Cymru, clywodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol dystiolaeth ar 12 Mehefin 2017 ynghylch y manteision posibl ynghlwm wrth sefydlu un neu fwy o barthau rhydd ym mhorthladdoedd Cymru. Caiff hyn ei drafod yn fanylach mewn erthygl flaenorol. Clywodd y Pwyllgor gan arbenigwyr a eglurodd:

  • [Free Ports could] improve the appeal of Welsh ports by providing a stopover point where goods can be stored tax-free before being re-exported;
  • help businesses manage their import and export costs; and
  • bring increased shipments to the area, increasing employment and economic growth in the port areas.

Yn dilyn y dystiolaeth hon, cafodd porthladdoedd rhydd eu trafod mewn sesiwn dystiolaeth gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ar 3 Gorffennaf 2017. Pan ofynnwyd a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi defnyddio porthladdoedd rhydd, atebodd Ken Skates:

If the UK Government determines that free ports can be rolled out, then we’d certainly want to get our fair share of them, but not just in terms of sea ports; I think there is huge potential for Cardiff [airport] in this regard.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn credu ei bod hi'n fwy priodol bod y porthladdoedd eu hunain yn penderfynu yn unigol a chyda'i gilydd pa rai y dylid eu dynodi'n borthladdoedd rhydd, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

Yn ei bapur ‘Brexit Dividend: Supporting Trade and Growth’ (PDF 1.92KB), dywed Cymdeithas Porthladdoedd Prydain ei bod yn debygol na fyddai dynodi porthladdoedd rhydd yn cynnig ateb i Brexit mewn perthynas â chludo nwyddau 'mewn union bryd' yn effeithlon ac yn ddibynadwy (rhan hanfodol yn y gadwyn gyflenwi gyfandirol sy'n aml yn gymhleth ac ar fyrder). Dywed:

Dependent on the final Brexit agreement there could be competition issues to consider on customs and excise procedures, therefore free ports should be kept under review. Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru