Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit

Beth mae Bil Amaethyddiaeth y DU yn ei olygu i Gymru?

Ar 12 Medi, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Amaethyddiaeth gerbron Senedd y DU. Nod y Bil yw darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a sefydlu systemau newydd ar gyfer cymorth amaethyddol a rheoli tir ledled y DU.

28 Medi 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthgyl yma yn Saesneg

Beth yw nodau’r Bil Amaethyddiaeth?

Ar 12 Medi, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Amaethyddiaeth gerbron Senedd y DU. Nod y Bil yw darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a sefydlu systemau newydd ar gyfer cymorth amaethyddol a rheoli tir ledled y DU.

Er bod y Bil yn ceisio gosod y fframwaith ar gyfer y polisi yn y dyfodol yn Lloegr mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymestyn i’r DU gyfan ac i rannau gwahanol o’r DU. Mae Atodlen 3 yn gymwys yn benodol i Gymru.

I Loegr, bydd y Bil yn disodli’r system bresennol o daliadau uniongyrchol fesul cam ac yn sefydlu system rheoli tir amgylcheddol newydd. Bydd y system newydd yn darparu ffrwd incwm ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir yn seiliedig ar arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus â phwyslais amgylcheddol.

Bydd y dull newydd hefyd yn cynnwys cymorth a fydd yn anelu at:

  • helpu busnesau fferm i ddod yn fwy gwydn, cynhyrchiol a chystadleuol;
  • helpu gyda gwelliannau i les anifeiliaid y tu hwnt i’r llinell sylfaen reoleiddiol; a
  • cheisio mynd i’r afael ag arferion masnachu annheg yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Beth yw darpariaethau Cymru?

Mae Atodlen 3 yn pennu pwerau i Weinidogion Cymru barhau i wneud taliadau i ffermwyr a rheolwyr tir ar ôl Brexit, i wneud newidiadau i’r cynlluniau presennol ac i weithredu cynlluniau newydd. Mae Atodlen 3 wedi’i gynnwys ar gais Llywodraeth Cymru ac mae angen cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad.

Y bwriad yw bod cyfyngiad amser i’r pwerau hyn tan y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Fil Amaethyddiaeth ei hun, a disgwylir i hynny fod cyn diwedd y Cynulliad hwn.

Mae agweddau nodedig Atodlen 3 yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru:

  • Terfynu Taliadau Uniongyrchol yn raddol;
  • Datgysylltu cymorth ariannol o gynhyrchu amaethyddol;
  • Rhoi cymorth ar gyfer darpariaeth nwyddau cyhoeddus, yn enwedig canlyniadau amgylcheddol;
  • Rhoi cymorth i wella cynhyrchiant;
  • Rhoi cymorth i fusnesau a chymunedau gwledig
  • Rhoi cymorth i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu, prosesu, marchnata neu ddosbarthu cynnyrch sy’n deillio o weithgareddau amaethyddol, garddwriaethol neu goedwigaeth sy’n dod o’r meini prawf ‘ffermwr actif’ presennol ar gyfer taliadau;
  • Pwerau i fuddsoddi mewn gorfodaeth reoliadol ar gyfer cydymffurfio â meini prawf cymhwyster; ac
  • Ymestyn y cyfnod pontio amaethyddol sydd wedi’i bennu o fewn y Bil am saith mlynedd gan ddechrau gyda 2021 (sy’n golygu mai’r flwyddyn olaf y caiff Taliadau Uniongyrchol eu gwneud fydd 2027, ond mae modd ymestyn hynny).

Mae rhai cymalau yn gymwys yng Nghymru ond nid oes angen cydsyniad deddfwriaethol arnynt gan mai safbwynt Llywodraeth y DU yw eu bod wedi’u cadw’n ôl. Mae’r rhain yn cynnwys Cymalau 22-26; Cymalau 29-36; Atodlen 1; Atodlen 2 ac Atodlen 5. Yn bwysicach, mae Cymal 26 yn cynnwys rheoliadau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) sy’n caniatáu i    Lywodraeth y DU bennu terfynau ariannol ar y gweinyddiaethau datganoledig mewn perthynas â chymorth amaethyddol a ystyrir yn ystumio masnach (trafodir hyn yn nes ymlaen).

Sut mae darpariaethau Cymru yn wahanol i’r rhai sy’n berthnasol yn Lloegr?

Mae Atodlen 3, Rhannau 1-5 sy’n berthnasol i Gymru yn debyg i Rannau 1-5 sy’n gymwys i Loegr. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau, yn enwedig yn Rhan 1.

Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cefnogi cymunedau a busnesau gwledig sydd ond wedi’u cynnwys yn adrannau’r Bil sy’n berthnasol yng Nghymru. Mae ystod y rhai sy’n gymwys i dderbyn Cymorth hefyd yn ehangach yn Rhan Cymru, gan gynnwys rheolwyr tir a rhai drwy gydol y gadwyn gyflenwi, tra bod taliadau yn Lloegr yn cael eu cyfyngu i’r rhai sy’n dechrau gweithgaredd amaethyddol, garddwriaethol neu goedwigaeth, neu’n gwella’r gwaith o gynhyrchu gweithgaredd o’r fath.

 Llun o ffermio ucheldir gyda dafad yn y blaen

Sut groeso gafodd y Bil?

Llywodraeth Cymru

Ar 12 Medi, cyhoeddodd ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ddatganiad ysgrifenedig ar Fil Amaethyddiaeth y DU. Er bod y datganiad yn pwysleisio cefnogaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru i’r Bil, mae hefyd yn nodi dau faes lle ceir anghytundeb.

Yn gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â Llywodraeth y DU ar y graddau y mae’r cymal yn ymwneud â’r ffaith bod y DU yn credu bod Cytundeb WTO ar Amaethyddiaeth yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl. Mae’r datganiad yn pwysleisio’r berthynas gref rhwng pwerau WTO a chyfrifoldebau datganoledig ar gymorth amaethyddol, ac yn nodi:

Mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau cytundeb pwysig gan Lywodraeth y DU i ymrwymo yn y Senedd i ymgynghori â’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar reoliadau sy’n gysylltiedig â’r WTO. Rydym hefyd wedi cytuno i ddod o hyd i broses ar gyfer sut y bydd rheoliadau o’r fath yn cael eu llunio. Fodd bynnag, mae ymrwymiad i ymgynghori yn annigonol o ystyried pwysigrwydd y mater hwn. Byddwn felly yn parhau i weithio tuag at gytundeb sy’n sicrhau bod cysylltiad priodol gyda safbwyntiau Gweinidogion Cymru a gweinyddiaethau eraill ac ystyriaeth ohonynt.

Yn ail, hoffai Llywodraeth Cymru weld pwerau yn ymwneud ag ailddosbarthu’r ardoll cig coch wedi’i gynnwys ar wyneb y Bil ac mae’n disgwyl diwygiad gan Lywodraeth Cymru ei newid ‘i gywiro hyn cyn gynted â phosib’.

Ffi yw’r ardoll cig coch a delir gan bob cynhyrchwr neu gigyddwr yn y man lladd (neu’r man allforio byw). Caiff yr ardoll ei thalu i’r bwrdd ardollau perthnasol ym mhob gwlad i’w defnyddio ar gyfer marchnata a hybu cynhyrchion cig y wlad honno. Y wlad lle caiff yr anifail ei ladd sy’n pennu ardoll pa wlad a delir. Yng Nghymru, telir yr ardoll i Hybu Cig Cymru (HCC), a ariennir yn bennaf drwy’r ardoll.

Mae’r ardoll wedi cael ei beirniadu yn y gorffennol gan nad yw’n ystyried da byw a gynhyrchwyd mewn un wlad a gaiff eu lladd mewn un arall; telir yr arian i’r bwrdd ardollau yn y wlad lle y caiff yr anifail ei ladd, ni waeth o ble y daw.

Barn rhanddeiliaid

Mae NFU Cymru wedi nod bod y Bil yn dangos diffyg cydnabyddiaeth bod ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd. Mae’n nodi:

NFU Cymru maintains that any future Welsh agricultural policy should contain volatility or stability measures, to sit alongside environmental and productivity measures, in order to support farmers’ core role as food producers.

Dywedodd dadansoddwr polisi, Pete Kennedy fod y cymal sy’n darparu cymorth ariannol ar gyfer cynhyrchiant ar hyn o bryd yn cynnwys agwedd mor gyffredinol fel gall y llywodraeth roi arian i unrhyw un mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed Monsanto yn gwneud pethau mewn cysylltiad â gwella iechyd planhigion a gwella cynhyrchiant amaethyddiaeth.

Mae Grwpiau Gwyrdd, gan gynnwys RSPB, wedi croesawu pwyslais amgylcheddol y Bil, sy’n mynd i’r afael â diffygion system yr UE yn eu barn nhw.

Beth yw’r camau nesaf i Gymru?

Mae Papur Gwyrdd, Brexit a’n Tir wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad, ac mae’n cynnwys cynigion ar gyfer ‘Rhaglen Rheoli Tir’ newydd sy’n cynnwys dau gynllun:

  • Y Cynllun Cadernid Economaidd: buddsoddiad ar gyfer gweithgareddau economaidd, yn enwedig cynhyrchu bwyd a choed; a
  • Cynllun Nwyddau Cyhoeddus: cymorth uniongyrchol ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer yr amgylchedd.

Mae hefyd yn nodi’r cyfnod pontio arfaethedig i’r polisi newydd, y sonnir amdano mewn erthygl blog flaenorol. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn bwriadu edrych ar ddarpariaethau’r Papur Gwyrdd y tymor hwn. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn yn y gwanwyn, cyn Bil Amaethyddiaeth Cymru arfaethedig.

Dim ond rhan o’r darlun yw Bil Amaethyddiaeth y DU a chynigion Llywodraeth Cymru. Bydd cynigion masnachol y DU yn y dyfodol, yn ogystal ag ymrwymiadau ynghylch gwariant sydd heb eu cyhoeddi eto, yn arwain at oblygiadau sylweddol ar y sector ar ôl Brexit.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru