Cododd allyriadau yng Nghymru o 5 y cant rhwng 2015 a 2016

Cyhoeddwyd 01/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 y DU. Ei rôl yw rhoi cyngor a monitro cynnydd ar faterion sy'n ymwneud â'r hinsawdd ar gyfer Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig. Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd adroddiad cynnydd Lleihau allyriadau'r DU - Adroddiad Cynnydd 2018 i'r Senedd, Pwyllgor ar Newid Hinsawdd Mehefin 2018 (Saesneg yn unig) (PDF, 5.93MB) i Senedd y DU yn amlinellu'r sefyllfa bresennol yn y DU.

Sut y mae'r DU yn perfformio?

Mae adroddiad 2018 yn tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi'i wneud i leihau allyriadau o lefelau 1990. Mae'n dangos gostyngiad o 43 y cant mewn allyriadau carbon ar gyfer y DU gyfan. Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn honni mai datgarboneiddio'r sector ynni fu prif gyflawniad y degawd diwethaf, ond mae'n rhybuddio am gydbwysedd anwastad mewn gostyngiad allyriadau.

Mae'r adroddiadau'n dangos bod gostyngiadau allyriadau wedi bod yn bennaf oherwydd effeithlonrwydd cynyddol y sector pŵer sydd wedi bod yn gyfrifol am 75 y cant o ostyngiadau allyriadau ers 2012, tra bo'r rhan fwyaf o sectorau eraill wedi aros yn gyson fwy neu lai o ran allyriadau yn y DU.

Defnyddir gwynt ar y môr fel enghraifft o sut y gellir gweithredu'r cyfuniad o dargedau uchelgeisiol a dulliau wedi'u dylunio'n dda i annog y diwydiant i leihau costau a chynyddu'r nifer sy'n ei ddefnyddio a chyd-fanteision economaidd ehangach diwydiannau newydd. Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylid defnyddio gwersi a ddysgwyd o'r diwydiant gwynt ar y môr i helpu i annog rhagor o ddiwydiannau i dyfu yn unol â Strategaeth Ddiwydiannol (PDF, 9.51MB) Llywodraeth y DU sy'n ceisio helpu'r DU i gael mantais gystadleuol mewn technolegau carbon isel.

Beth am Gymru?

Er bod y DU wedi gwneud cynnydd go iawn o ran lleihau allyriadau, nid yw lleihau allyriadau Cymru wedi bod mor llwyddiannus, gyda chynnydd blynyddol cyfartalog o 1.4 y cant rhwng 2009 a 2016. Cynyddodd cyfanswm yr allyriadau yng Nghymru o 5 y cant yn 2016. Mae hyn yn dilyn gostyngiadau mewn allyriadau yn 2014 a 2015. O gymharu hyn â lefelau 1990, mae Cymru wedi lleihau allyriadau o 14 y cant, sy'n eithaf pell o darged anstatudol Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (2010) (PDF, 2.8MB) Llywodraeth Cymru, sef gostyngiad o 40 y cant erbyn 2020, gyda Phwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn credu ei bod yn debygol iawn na chaiff y targed ei gyrraedd.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi newid i ddull sy'n seiliedig ar gyllideb garbon i leihau allyriadau o 80 y cant erbyn 2050 o'u cymharu â lefelau 1990. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r targedau dros dro ar gyfer 2020, 2030, a 2040, gan gyd-fynd â'r targedau a gynghorwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017, fel y'u gwelir yn Nhabl 1. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dwy gyllideb garbon gyntaf: gostyngiad o 23 y cant ar gyfartaledd ar gyfer 2016-2020 a gostyngiad o 33 y cant ar gyfartaledd ar gyfer 2021-2025. Dylid nodi y credai Grŵp Cyfeirio Arbenigol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (PDF, 655KB, t16) nad oedd targedau Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn ddigon uchelgeisiol ac y gellid ystyried eu bod yn 'gwobrwyo methiant'.

Mae adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn dweud bod cynnydd yn allyriadau Cymru wedi bod yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn galw am bŵer, gydag allyriadau'r sector pŵer yn dangos twf o 21 y cant rhwng 2009 a 2016.

Gan fod y galw am bŵer yn cynyddu, mae cau gorsaf bŵer niwclear Wylfa wedi golygu bod angen ateb y galw o ffynonellau eraill. Mae Ffigur 1 yn dangos y bu cynnydd yn y cyflenwad pŵer o nwy ers ei chau.

Disgwylir cau'r unig waith glo sydd ar ôl yng Nghymru, Aberddawan B, erbyn 2025 o dan gynllun (PDF, 247KB) Llywodraeth y DU i roi terfyn ar lo heb dechnoleg dal a storio carbon. Yn 2015, roedd Gorsaf Bŵer Aberddawan yn cyfrif am 51 y cant o allyriadau cynhyrchu pŵer Cymru.

Mae adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd hefyd yn dangos bod allyriadau cludiant wedi cynyddu yng Nghymru gyda chynnydd mewn allyriadau o 1.6 y cant yn cyd-fynd â chynnydd mewn traffig (PDF, 833KB) o 2.2 y cant rhwng 2015 a 2016. Cynyddodd allyriadau o adeiladau dibreswyl ac adeiladau preswyl hefyd o 5 y cant a 2 y cant yn y drefn honno dros yr un cyfnod.

Yr unig sector i leihau allyriadau rhwng 2015 a 2016 oedd y sector diwydiannol a ddangosodd ostyngiad o 9 y cant, yn bennaf oherwydd gostyngiad o 11 y cant mewn allyriadau o waith dur Port Talbot. Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn nodi'r anhawster y gall Cymru ei wynebu wrth leihau allyriadau diwydiannol yn y dyfodol oherwydd cyffredinolrwydd diwydiannau mawr sy'n defnyddio llawer o ynni.

Mae newid defnydd tir yn faes arall lle mae Cymru ar ei hôl hi yn ei thargedau. O'r blaen, mae Pwyllgor NHAMG wedi dweud (PDF, 655KB, t26) nad yw'n debygol y bydd Cymru yn cyrraedd ei tharged, sef plannu 100,000 hectar rhwng 2010 a 2030 heb 'newid sylfaenol mewn dull gweithredu'. Cynyddodd allyriadau o amaethyddiaeth hefyd o 5 y cant rhwng 2015 a 2016.

Er bod Cymru ar ei hôl hi ar dargedau ar gyfer allyriadau cyffredinol, newid defnydd tir a thrafnidiaeth, mae wedi arwain y ffordd ym maes gwastraff. Mae ymgyrch bolisi ar y cyd yng Nghymru, gan gynnwys targedau statudol a chasgliadau gwastraff gwell wedi rhoi hwb i swm y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio o 60.2 y cant i 63.8 y cant rhwng 2015 a 2016. Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn credu bod Cymru, felly, ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged statudol, sef ailgylchu 70 y cant o wastraff erbyn 2025. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddiei bod yn bwriadu haneru gwastraff bwyd yng Nghymru erbyn 2025.

Beth nesaf?

Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn awgrymu bod angen i'r DU gyfan ddysgu o arfer gorau a, thrwy gyfuno polisïau cenedlaethol, datganoledig a lleol, y bydd yn bosibl i'r DU gyrraedd ei thargedau. Drwy ddysgu o brofiad a pholisi blaenorol, mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn credu y gellir lleihau allyriadau a gwastraff heb rwystro twf economaidd. Mae Pwyllgor NHAMG wedi cyhoeddi ei adroddiad (PDF, 655KB) cyntaf yn ddiweddar yn craffu ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar liniaru newid hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ynghylch Llwybr carbon isel hyd at 2030 (PDF, 2MB), gan geisio barn am y camau y dylai Cymru eu cymryd er mwyn lleihau allyriadau hyd at 2030. Er mwyn cyrraedd y targedau a chyllidebau carbon uchelgeisiol, mae'n amlwg bod rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu rhaglen weithredu drawslywodraethol.


Erthygl gan Chris Wiseall, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru