Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Economi

Beth sydd mewn enw? Mae’r dyfodol yn aneglur ar ôlBrexit ar gyfer enwau bwyd a ddiogelir yng Nghymru

Mae’n bosibl na chaiff cynhyrchion bwyd Cymreig premiwn eu diogelu’n awtomatig rhag cael eu hefelychu yn yr UE ar ôl Brexit. Mae rhai o gynhyrchion bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys cig oen Cymru, Halen Môr Ynys Môn a chaws traddodiadol Caerffili, wedi’u gwarchod ar hyn o bryd yn yr UE oherwydd bod ganddynt statws Dangosydd Daearyddol yr UE (GI). Mae Llywodraeth y DU, fodd bynnag, yn cynnig sefydlu cynllun ar wahân yn y DU ar ôl i ni ymadael â’r UE.

02 Hydref 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthgyl yma yn Saesneg

Mae’n bosibl na chaiff cynhyrchion bwyd Cymreig premiwn eu diogelu’n awtomatig rhag cael eu hefelychu yn yr UE ar ôl Brexit.

Mae rhai o gynhyrchion bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys cig oen Cymru, Halen Môr Ynys Môn a chaws traddodiadol Caerffili, wedi’u gwarchod ar hyn o bryd yn yr UE oherwydd bod ganddynt statws Dangosydd Daearyddol yr UE (GI). Mae Llywodraeth y DU, fodd bynnag, yn cynnig sefydlu cynllun ar wahân yn y DU ar ôl i ni ymadael â’r UE.

O dan y cynigion, bydd holl gynhyrchion Dangosydd Daearyddol y DU presennol yn cael statws Dangosydd Daearyddol y DU newydd yn awtomatig, ond fel y mae hi ar hyn o bryd, byddai’n rhaid i gynhyrchwyr ail-wneud cais am statws DD yn yr UE.

Beth yw Dangosyddion Daearyddol bwyd

Diben cynllun enwau bwydydd a warchodir yr UE yw rhoi gwarchodaeth gyfreithiol, rhag cael eu hefelychu, i fwydydd neu ddiodydd rhanbarthol a thraddodiadol cofrestredig ledled yr UE.

Y nod yw sicrhau elw teg i ffermwyr a chynhyrchwyr am rinweddau a nodweddion cynnyrch penodol, a galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau prynu gwybodus.

Mae’r cynllun yn cynnwys tri dangosydd ansawdd cynnyrch gwahanol yr UE, sef Dangosyddion Daearyddol Gwarchodedig (PGI), Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) a Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG). Mae’r tri dangosydd hyn ar y cyd yn aml yn cael eu galw’n GIs (Dangosyddion Daearyddol).

Gall cynhyrchion o’r tu allan i’r UE hefyd fod â statws enw a warchodir.

Dewis o gawsiau a arddangosir ar lechen

Faint yw gwerth Dangosyddion Daearyddol?

Mae’n anodd gwybod i sicrwydd. Canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2015 (PDF 745KB) fod allforion cig oen Cymru wedi cynyddu’n sylweddol ar ôl ennill statws GI. Awgrymodd Hybu Cig Cymru fod 25 y cant o’r twf mewn allforion cig oen rhwng 2003 a 2012 i’w briodoli’n uniongyrchol i statws GI Cig Oen Cymru.

Cyfrifodd astudiaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2012 gyfradd bremiwm gwerth cyfartalog ar gyfer cynhyrchion GI yn yr UE ar lefel 1.55. Felly mae cynhyrchion dangosyddion daearyddol yn cael eu gwerthu am 1.55 gwaith cymaint â chynhyrchion nad ydynt â statws dangosydd daearyddol ar gyfer yr un faint o gynhyrchion.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd hefyd wedi dweud mai cyfanswm gwerth gwerthiant cynnyrch GI oedd €54.3 biliwn yn 2010, sy’n cyfateb i 6 y cant o sector bwyd-amaeth a diod yr UE.

Beth mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig?

Mae cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cynllun newydd y DU wedi’u nodi’n fanwl ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

Ceir rhagor o fanylion mewn Hysbysiad dim bargen o ran Brexit i’r DU a gyhoeddwyd ar 24 Medi. Mae’r nodyn yn dweud:

  • Bydd y DU yn sefydlu ei chynllun ei hun a fydd “yn fras yn adlewyrchu” cynllun yr UE a “heb fod yn fwy beichus i gynhyrchwyr”;
  • Cynhelir proses ymgynghori a fydd yn edrych yn fanwl ar logo GI ar gyfer y DU, a phroses apelio;
  • Bydd y warchodaeth a ddarperir gan y cynllun newydd yn debyg i’r warchodaeth sydd gan gynhyrchwyr GI y DU ar hyn o bryd, gyda phob un o’r 86 cynnyrch GI yn y DU yn cael statws GI y DU yn awtomatig;
  • Ni fyddai’n ofynnol i’r DU bellach gydnabod statws GI yr UE;
  • Byddai cynhyrchwyr yr UE yn gallu gwneud cais am statws GI y DU; a
  • Chaiff canllawiau ar gynlluniau GI y DU eu cyhoeddi ar ddechrau 2019.

Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd pob cynnyrch statws GI cyfredol y DU yn parhau i gael eu diogelu gan gynlluniau GI yr UE ar ôl Brexit. Mae’r hysbysiad yn awgrymu, fodd bynnag, y dylai cynhyrchwyr cynhyrchion GI y DU, pe bai dim bargen Brexit, ystyried:

  • Defnyddio logo newydd y DU ar gynhyrchion a gaiff eu marchnata yn y DU; a
  • Gwneud cais am statws GI yn yr UE, neu ddilyn camau eraill i ddiogelu uniondeb y cynnyrch, fel gwneud cais am ddiogelwch nod masnach.

Efallai y bydd y cynigion ar gyfer logo GI y DU yn ddadleuol i rai yng Nghymru o gofio’r sylwadau mewn cysylltiad â brandio yn y Neuadd Fwyd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gynharach eleni. Yn draddodiadol, mae’r neuadd fwyd wedi’i brandio fel lle sy’n dangos nwyddau “Cymreig”, ond eleni cafodd y bwyd ei frandio fel bwyd “Prydeinig” fel rhan o Ymgyrch hyrwyddo Prydain Wych (‘GREAT’) Llywodraeth y DU.

Beth yw hysbysiadau dim bargen Brexit?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyfres o dri o hysbysiadau a fwriadwyd i helpu busnesau a’r cyhoedd i baratoi ar gyfer dim bargen o ran Brexit.

Cyhoeddwyd yr hysbysiadau diweddaraf ar 23 a 24 Medi. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi erthyglau sy’n trafod yr hysbysiadau blaenorol, a gyhoeddwyd ar 23 Awst a 13 Medi.

Beth yw barn yr UE ar Ddangosyddion Daearyddol?

Nid ymddengys bod yr UE a’r DU o’r un safbwynt o ran Dangosyddion Daearyddol (GIs). Mae’r DU yn paratoi ar gyfer cynllun annibynnol a fydd yn agored i geisiadau gan gynhyrchwyr yr UE, ond dywedodd Michel Barnier, Prif Negodwr yr UE, ym mis Awst:

Brexit should not lead to a loss of existing intellectual property rights. We must protect the entire stock of geographical indications.

Dywedodd hefyd fod yn rhaid sicrhau bod dyfodol GI yng Nghytundeb Ymadael y DU yn eglur.

Beth mae’r diwydiant bwyd yn ei ddweud?

Dengys tystiolaeth a gyflwynwyd ar gyfer yr ymchwiliad i Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad bod y diwydiant yn pryderu am statws y cynhyrchion GI cyfredol yn y dyfodol ar ôl Brexit. Roedd y sylwadau a gafwyd yn pwysleisio gwerth y statws hwn wrth farchnata cynhyrchion safonol Cymru.

Ymatebodd Matthew O’Callaghan, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Bwyd Gwarchodedig y DU, i’r cynigion ar gyfer cynllun y DU, gan ddweud bod Llywodraeth y DU yn gweithio o dan y “gobaith ffug” y bydd nwyddau GI cyfredol y DU yn parhau i gael eu diogelu gan gynlluniau GI yr UE ar ôl Brexit:

Why should they? If we won’t recognise the European products in the UK after Brexit, why should the EU continue protecting ours? …

And if the EU doesn’t recognise our products? – Well the ‘helpful’ advice from the Government is that we can all reapply to the EU again to protect our products under the EU scheme – a process which for the Melton Mowbray Pork Pie took 11 years and expensive appearances in both the High Court and Court of Appeal.

Or, continues the advice, we can go through the time consuming and extremely expensive option of using trade mark solicitors and securing trade mark certification for every single product in every single country – well beyond the means for micro GI producers such as Anglesey Sea Salt.

Dywedodd Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells:

Yr hyn sy’n rhaid bod yn ofalus yw y gallai unrhyw gynllun newydd anelu at gael yr un egwyddorion a’r un gydnabyddiaeth â’r cynllun bresennol ond mae’n cymryd amser i sicrhau ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth defnyddwyr yn y farchnad yn Ewrop ac nid yw hynny’n digwydd dros nos.

Ar y posibilrwydd o logo DU newydd yn cynnwys baner y DU, dywedodd:

Byddai’n ddryslyd a gallai fod yn negyddol oherwydd ein bod yn gwybod o ran ymchwil diweddar nad yw cynnig Prydain yr un mor boblogaidd ar y cyfandir â chynnig Cymru mewn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal, er enghraifft.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?

Mynegodd Lesley Griffiths Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ei ffafriaeth i gynhyrchion bwyd Cymru allu cadw eu statws GI yr UE ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

O gofio bod Llywodraeth y DU yn credu bod GI yn fater a gadwyd yn ôl a’i bod yn  bwrw ymlaen â’i chynlluniau, mae’r potensial i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU yn y maes hwn yn edrych yn gynyddol gyfyngedig.

Pa rai yw cynhyrchion Dangosydd Daearyddol Cymru?

Mae 15 o gynhyrchion o Gymru sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd o dan gynllun yr UE gyda dau arall yn aros am gymeradwyaeth. Y rhai sydd wedi’u cymeradwyo yw:

  • Cig oen Cymru (PGI)
  • Cig eidion Cymru (PGI)
  • Porc pedigri Cymreig a fagwyd mewn ffordd draddodiadol (TSG)
  • Tatws cynnar Sir Benfro (PGI)
  • Halen Môn (PDO)
  • Ham Caerfyrddin (PGI)
  • Cregyn gleision Conwy (PDO)
  • Caws Caerffili Traddodiadol (PGI)
  • Bara lawr Cymru (PDO)
  • Gwin Rhanbarthol o Gymru (PGI)
  • Gwin Cymru (PDO)
  • Eog a ddaliwyd o gwrwgl Gorllewin Cymru (PGI)
  • Brithyll a ddaliwyd o gwrwgl Gorllewin Cymru (PGI)
  • Seidr Cymreig traddodiadol (PGI)
  • Perai Cymreig traddodiadol (PGI)

Y rhai sy’n aros am gymeradwyaeth yw cig oen Mynyddoedd y Cambria ac Eirin Dinbych, Dyffryn Clwyd.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru