Brexit Cyfansoddiad

Gofyn i’r Cynulliad newid y gweithdrefnau ar gyfer deddfwriaeth yn ymwneud ag Ymadael â’r UE

Ddydd Mercher 3 Hydref 2018, bydd cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Bydd hyn yn digwydd oherwydd, pan fydd y DU yn gadael â’r UE, bydd yn rhaid newid y gweithdrefnau er mwyn rhoi Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("Deddf 2018") ar waith.

02 Hydref 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthgyl yma yn Saesneg

Cyflwyniad

Ddydd Mercher 3 Hydref 2018, bydd cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Bydd hyn yn digwydd oherwydd, pan fydd y DU yn gadael â’r UE, bydd yn rhaid newid y gweithdrefnau er mwyn rhoi Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“Deddf 2018”) ar waith.

Mae’r newidiadau hyn yn dilyn adroddiad a baratowyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef y Pwerau ym Mil UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth – materion gweithredol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ac a gafodd ei grynhoi mewn erthygl flaenorol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Medi 2018.

Mae’r cynnig hwn yn datgan:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

  1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018.
  2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21 a 27, ac i gyflwyno Rheolau Sefydlog 30B a 30C newydd, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ag Adroddiad y Pwyllgor Busnes a’r newidaidau i’r Rheolau Sefydlog ar 25 Medi 2018. Gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo’r cynigion ar 3 Hydref.

Mathau newydd o is-ddeddfwriaeth

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“Deddf 2018”) yn creu categorïau newydd o is-ddeddfwriaeth:

  • rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y mae angen iddynt fod yn destun proses newydd o “sifftio” (h.y. argymell a ddylai’r weithdrefn negyddol ynteu’r weithdrefn gadarnhaol fod yn gymwys)  gan bwyllgor;
  • rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU sy’n cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad dros dro, y mae angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer; a
  • rheoliadau eraill a wneir gan Weinidogion y DU nad oes angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer ond y dylid hysbysu’r Cynulliad amdanynt.

Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog

Isod, mae crynodeb o’r newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog.

Newidiadau i Reol Sefydlog 21:

Pwyllgor sifftio’r Cynulliad i gyflwyno adroddiad ar reoliadau a gaiff eu sifftio (h.y. yr holl reoliadau a ddaw i’r Cynulliad o dan y broses sifftio), ac i gyflwyno adroddiad o fewn 14 diwrnod calendr.

Caiff Rheolau Sefydlog sy’n gymwys i reoliadau wedi iddynt gael eu sifftio eu datgymhwyso ar gyfer y broses sifftio.

Newidiadau i Reol Sefydlog 27:

Dylai’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â rheoliadau a gaiff eu sifftio gynnwys: (a) y datganiad y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei wneud wrth osod y rheoliadau drafft ynghylch pam y credant y dylid dilyn y weithdrefn negyddol, a (b) y rhesymau dros y farn honno.

Rheol Sefydlog 30B newydd:

Mae hon yn ymdrin â’r broses ar gyfer adrannau 109A ac 80(8) o Ddeddf 2018 sy’n galluogi Gweinidogion y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac mae’n ddarostyngedig i benderfyniad y Cynulliad i roi cydsyniad.

Rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiadau ynghylch pam y mae’r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad i’w osod gerbron y Cynulliad.

Rhaid i Weinidogion Cymru osod yr adroddiadau y bydd Llywodraeth y DU yn eu paratoi bob tri mis ar gyfyngiadau cymhwysedd.

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Cynulliad pan gaiff cyfyngiadau ar gymhwysedd eu codi.

Rheol Sefydlog 30C newydd

Gweinidogion Cymru i hysbysu’r Cynulliad o offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig os bydd yr offerynnau statudol yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi creu tudalen we sy’n cynnwys gwybodaeth am y broses sifftio.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru