Chwyldroi data digartrefedd yng Nghymru: Camau tuag at system ganolog ar gyfer casglu data

Cyhoeddwyd 04/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae hon yn erthygl blog gwadd gan Dr Ian Thomas, WISERD.

Yn dilyn ymgorffori'r 'agenda atal' yn neddfwriaeth tai Cymru drwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae'r Homelessness Reduction Act 2017 yn Lloegr yn gosod dyletswyddau cyfreithiol tebyg ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Ochr yn ochr â'r newidiadau mewn deddfwriaeth, mae Lloegr hefyd wedi cychwyn system statudol newydd ar gyfer casglu data ac adrodd. O dan yr hen system gasglu, byddai pob awdurdod lleol yn dychwelyd nifer grynswth o aelwydydd a gafodd gymorth o dan ddeddfwriaeth digartrefedd i lywodraeth ganolog - mae dull gweithredu tebyg yn cael ei fabwysiadu ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r system newydd ar gyfer casglu data yn Lloegr, Homelessness Case Level Information Collection, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol anfon data am bob unigolyn/cartref sy'n cael cymorth o dan yr Homelessness Reduction Act. Nid yw monitro deddfwriaeth digartrefedd ar lefel unigolyn/aelwyd yn unigryw i Loegr, gyda'r Alban yn mabwysiadu'r dull gweithredu hwn ers 2001.

Ynghyd â symud tuag at system ganolog o gasglu ac adrodd data ar lefel unigolyn/aelwyd gan wasanaethau digartrefedd statudol, mae Cymru a'r Alban yn ystyried ffyrdd newydd o reoli achosion a monitro cysgu ar y stryd. Mae'r Rhwydwaith Gwybodaeth Digartrefedd ar y Stryd (SHIN) yng Nghymru yn system sy'n cael ei datblygu i storio data manwl am bobl sy'n cysgu ar y stryd a/neu yn ymwneud â ffyrdd o fyw ar y stryd. Fel y nodwyd yn yr ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol, bydd SHIN yn helpu i wella cywirdeb yr amcangyfrifon o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru, yn ogystal â chynnig llwyfan ar gyfer gwaith rhwng asiantaethau.

Yn yr Alban, un o'r argymhellion gan Homelessness and Rough Sleeping Action Group Llywodraeth yr Alban oedd y dylid datblygu llwyfan newydd ar gyfer integreiddio data am bobl sy'n cysgu ar y stryd ar draws gwasanaethau statudol ac anstatudol. I'r perwyl hwn, mae Llywodraeth yr Alban wedi gofyn i'r Centre for Homelessness Impact ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer system genedlaethol i rannu data.

Mae'r gwahanol ddatblygiadau hyn ledled y DU yn dangos y pwysigrwydd canfyddedig o gasglu data ar lefel unigolyn/aelwyd yn ganolog. Er bod data crynswth yn ddefnyddiol ar gyfer monitro'r lefelau cyffredinol o gymorth digartrefedd, mae angen data ar lefel unigolyn er mwyn asesu canlyniadau tymor hwy a'r hyn sy'n gweithio o ran atal/lliniaru digartrefedd. Felly, mae nawr yn adeg briodol i ailystyried sut y caiff data digartrefedd statudol eu casglu a'u hadrodd yng Nghymru. Yn unol â hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ariannu prosiect yn rhannol gyda'r UK Collaborative Centre for Housing Evidence i ymchwilio i opsiynau ynghylch system newydd ar gyfer casglu data digartrefedd statudol a fyddai'n casglu data'n ganolog am unigolion/aelwydydd sy'n cael cymorth o dan Ddeddf Tai (Cymru).

Person digartref

Dysgu gan eraill

Yn hytrach na dechrau o'r dechrau, mae ystod o systemau casglu data lleol, cenedlaethol a rhyngwladol y gall Cymru dynnu arnynt wrth ail-ddylunio'r ffordd y mae'n ymdrin â data digartrefedd statudol. Nid un ffordd a fydd yn rhoi'r yn darparu'r ateb i Gymru, o ystyried bod casgliadau data'n amrywio yn ôl diben, cyd-destun deddfwriaethol, a seilweithiau data cyffredinol ym mhob ardal. Fodd bynnag, caiff gwahanol agweddau ar y systemau hyn eu hystyried fel bod modd dod o hyd i'r opsiwn gorau. Er enghraifft, mae Canada yn cynnig astudiaeth achos ddiddorol o sut y gall gwahanol fathau o gasglu data gyfrannu at adrodd ar ddigartrefedd ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol.

Mae'r National Homelessness Information System (NHIS) yng Nghanada yn dwyn data ynghyd sy'n cael eu cyflwyno gan ddarparwyr gwasanaethau digartrefedd sy'n gweithio dan yr Homelessness Partnering Strategy. Er bod sefydliadau'n gallu cyflwyno eu data yn uniongyrchol i'r NHIS, mae Llywodraeth Canada hefyd yn cynnig meddalwedd rheoli achosion yn rhad ac am ddim, o'r enw yr Homeless Individuals and Families Information System (HIFIS). Gall sefydliadau fel llochesi digartrefedd lwytho meddalwedd HIFIS, a gall fod yn sail i'w systemau lleol ar gyfer rheoli achosion. Un o’r amodau ar gyfer defnyddio'r feddalwedd yw bod y sefydliad hefyd yn cytuno i ddarparu ei ddata i NHIS.

Fodd bynnag, mae ardal Calgary wedi mynd ati ar y cyd i gasglu data ac adrodd am ddigartrefedd drwy fabwysiadu Homeless Management Information System (HMIS) sy'n cael ei gweinyddu'n lleol. Mae system Calgary yn galluogi sefydliadau i rannu gwybodaeth am bobl sy'n ddigartref, nodi unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau lluosog, a chyfeirio achosion at sefydliadau eraill. Gofynnir caniatâd gan y person sy'n defnyddio'r gwasanaeth er mwyn rhannu data o fewn sefydliadau a chydag eraill sy'n rhan o'r HMIS. Felly, mae Calgary yn dangos sut y mae modd defnyddio system sy'n galluogi rheoli achosion a rhannu data rhwng sefydliadau hefyd fel modd o adrodd a monitro gweithgarwch gwasanaethau digartrefedd, gyda'r data o'r HMIS yn cael eu cyflwyno i'r system genedlaethol ar gyfer casglu data.

Yr allwedd i lwyddiant

Yn syml, ni fydd creu system newydd o reidrwydd yn denu awdurdodau lleol i'w defnyddio; mae gan bob awdurdod ei arferion gwaith a dulliau o gasglu data, a allai wrthdaro â system newydd. Felly, yr allwedd i annog defnydd ac integreiddio system newydd ar gyfer casglu data digartrefedd yn llwyddiannus yw ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ei chynllunio. Bydd ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn golygu y bydd y casgliad yn berthnasol i'w gwaith o dan Ddeddf Tai (Cymru), gan gynyddu'r tebygolrwydd y bydd awdurdodau'n gallu gweithio gyda'r system newydd, ac yn barod i wneud hynny. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd yn creu ystyr cyffredinol i'r system newydd ar gyfer casglu data, yn benodol ei diben, gan gynnwys sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio data, gan bwy, a pha fesurau diogelu a fydd ar waith o ran cadw a dadansoddi data. Daw enghraifft o ganlyniadau methu â meithrin yr ystyr cyffredinol hwn o Seland Newydd.

Yn 2016, newidiodd y Ministry of Social Development (MSD) yn Seland Newydd y contractau ariannu gyda sefydliadau anllywodraethol (NGOs) i'w gwneud yn ofynnol iddynt ddatgelu data personol am gleientiaid i MSD. Fodd bynnag, wedi i nifer o gyrff anllywodraethol droi at y Comisiynydd Preifatrwydd, cychwynnodd adolygiad o'r galw gan MSD am ddata ar lefel cleientiaid. Canfu adolygiad y Comisiynydd nad oedd diben y casgliad data yn glir, a bod y diffyg tystiolaeth ddigonol ac ymgynghori am y rheswm pam mae angen y casgliad data newydd, a pham nad oes modd diwallu hyn drwy ddulliau eraill, yn 'ddiffyg difrifol yn y broses datblygu polisi'. Rydym am osgoi rhywbeth fel hyn yng Nghymru. Fel rhan o'r gwerthusiad o'r opsiynau ar gyfer system statudol newydd ar gyfer casglu data digartrefedd, caiff arolwg rhanddeiliaid ei gynnal gyda'r nod o gasglu mwy o wybodaeth am y defnydd presennol o ddata digartrefedd statudol yng Nghymru, ynghyd â safbwyntiau am y cyfleoedd a'r heriau o ran rhoi system casglu data ar waith ar lefel aelwyd/unigolyn.

Yn ogystal â'r arolwg hwn, bydd arolwg yn cael ei anfon at bob awdurdod lleol yng Nghymru a fydd yn mynd i'r afael â'r arferion presennol o ran casglu data statudol digartrefedd. Yn seiliedig ar yr arolygon hyn, cysylltir â sampl o awdurdodau lleol i archwilio eu casgliadau data yn fanwl, a hefyd i asesu materion posibl o ran symud i system casglu data ac adrodd ar lefel aelwyd/unigolyn. Yn olaf, bwriedir cynnal cyfres o weithdai i drafod yr opsiynau ar gyfer system newydd ar gyfer casglu data, a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, sefydliadau trydydd sector, a rhanddeiliaid eraill. Bydd y gweithdy cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 11 Hydref.


Erthygl gan Dr Ian Thomas, WISERD.

Llun o Flickr gan Lars Plougmann. Dan drwydded Creative Commons.