Blwyddyn yn Llyfrgell y Cynulliad: Cofnod o'm trafodion i

Cyhoeddwyd 09/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Rwyf wedi cael y fraint o dreulio'r 12 mis diwethaf ar secondiad fel Llyfrgellydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wrth i mi baratoi i ddychwelyd i fy swydd barhaol, rydw i’n awyddus i rannu rhywfaint o wybodaeth am yr hyn y gall staff llyfrgell y Cynulliad ei gynnig a sut y mae'r Llyfrgell yma’n wahanol i lyfrgelloedd eraill rwyf wedi gweithio ynddynt. i. Peidiwch â phoeni, fydda i ddim yn siarsio neb i fod yn dawel na’n stampio unrhyw lyfrau...

Mae'r Llyfrgell yn y Cynulliad yn rhan annatod o Wasanaeth Ymchwil arbenigol y Cynulliad. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r arbenigwyr polisi, gan ddefnyddio'n sgiliau arbenigol o adalw a rheoli gwybodaeth i ddod o hyd i wybodaeth awdurdodol a chyfredol yn gyflym.

Mae tîm y Llyfrgell hefyd yn darparu gwybodaeth ddibynadwy i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth – gwybodaeth y gallai fod yn anodd dod o hyd iddi fel arall. Mae llawer o'n casgliad yn "llenyddiaeth lwyd", sef dogfennau ac adroddiadau, a gynhyrchir yn aml gan lywodraethau neu gyrff cysylltiedig, ac y gallai fod yn anodd dod o hyd iddynt heb gymorth arbenigwyr gwybodaeth.

Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynhyrchu cyfres o hysbysiadau dwyieithog i roi gwybod am faterion cyfredol a chefnogi gwaith y Cynulliad, er mwyn i’r Aelodau a'u staff fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan, trafodion y Cynulliad, ac adroddiadau ac adnoddau sydd newydd eu cyhoeddi.

Gallwch ymddiried ynof fi, llyfrgellydd ydw i

Mae llyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth yn arbenigwyr ym maes rheoli, trefnu ac adalw gwybodaeth. Rydym hefyd yn dilyn cod moesegol proffesiynol sy'n golygu bod y cyngor y byddwn yn ei gynnig yn gyfrinachol ac yn ddiduedd. Efallai’n wir y gall Google ddod o hyd i filiynau o ganlyniadau mewn nanoeiliad - ond mae staff llyfrgell arbenigol yn cynnig cymaint mwy, gallant:

  • ddangos i chi sut i ddehongli'r canlyniadau hynny
  • eich cynghori ynghylch pa ffynonellau sydd fwyaf cyfredol a / neu ddibynadwy (nid yw’r ddau bob amser yr un peth!)
  • sut i addasu’ch chwiliadau er mwyn cael canlyniadau mwy perthnasol

At hyn, rydym yn gwybod am ffynonellau gwybodaeth arbenigol eraill - mae rhwydwaith eang o wybodaeth ar flaenau’n bysedd! Rydym bob amser yn falch o ddangos i holl Aelodau'r Cynulliad a’u staff sut i ddefnyddio ein cronfeydd data arbenigol a'r catalog Llyfrgell ar-lein. Yn y cyswllt hwn ...

Gwasanaethau eraill y gall y Llyfrgell eu cynnig (nad ydych, efallai, yn gwybod bod arnoch eu hangen hyd yn oed)

  • Sut i gael eich hysbysu gan Google pan fydd newyddion yn torri am bynciau neu unigolion penodol sydd o ddiddordeb i chi
  • Sut i chwilio am gyllid i helpu etholwyr. Mae gennym dudalen we gyfan sy’n cynnwys adnoddau i helpu etholwyr
  • Gwasanaethau monitro personol - gallwn roi gwybod i chi am adroddiadau / dogfennau / ystadegau newydd sy’n ymdrin â meysydd sydd o ddiddordeb i chi
  • Adnoddau a llyfrau’n ymwneud ag ysgrifennu areithiau, ymchwil seneddol, sut i gadeirio cyfarfodydd a llawer mwy o bynciau sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliad seneddol

Rhai uchafbwyntiau

Rwyf wedi cael blwyddyn mor ddiddorol yn y Cynulliad, mae’n anodd dewis dim ond rhai uchafbwyntiau. Ond mi ro’i gynnig arni:

  • Cael profiad uniongyrchol o’r gofynion arbenigol sydd ynghlwm wrth weithio i ddeddfwrfa ddatganoledig
  • Llwyddo yn yr Arholiad Lefel Cwrteisi yn y Gymraeg - bendigedig!
  • Gweithio gydag Aelodau a staff cymorth o bob plaid i sicrhau bod y broses ddemocrataidd yng Nghymru yn cael ei chynnal drwy ddarparu’r dystiolaeth a'r wybodaeth fwyaf dibynadwy sydd ar gael.

Yn gryno: mae Llyfrgell y Cynulliad yn croesawu'r staff i gyd i'r Llyfrgell i ddysgu sut y gallwn eich helpu yn eich gwaith.

Dyma rai o'r sylwadau diweddar gan ein defnyddwyr Swyddog Ymchwil a Cyfathrebu i Lynne Neagle AC

Mae'r adnoddau a'r staff yn y llyfrgell yn wych. Rwy'n hoffi'r ffaith ei bod mor rhwydd dod o hyd i'r adroddiadau a'r papurau sy'n cael eu trafod yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos honno, a’r adroddiadau pwyllgor diweddaraf ac ystod helaeth o bapurau newydd a chylchgronau. Nid wyf eto wedi gwneud ymholiad lle nad yw rhywun o staff y llyfrgell wedi gallu fy helpu!

Uwch Ymchwilydd i Julie Morgan AC

Rwy'n defnyddio'r llyfrgell yn aml i gasglu gwybodaeth ar gyfer dadleuon yn y Cyfarfod Llawn. Mae’r canllawiau ymchwil yn ddefnyddiol iawn, mae'r staff bob amser yn cynnig helpu, ac mae blogiau’r gwasanaeth ymchwil yn amserol.

David Melding AC:

Ein gwasanaeth llyfrgell ac ymchwil yw'r ffynhonnell fwyaf pwerus o arbenigedd polisi cyhoeddus y tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae dadansoddi, gwybodaeth a data perthnasol, ac ymchwil gymharol wrth wraidd craffu effeithiol ac ni ellid ei gyflwyno'n well yn hyn o beth. Mae ansawdd y deunyddiau briffio a gaiff eu paratoi ar gyfer pwyllgorau'r Cynulliad yn haeddu sylw arbennig, gan nad oes unrhyw beth yn amserlen brysur Aelod Cynulliad, sy’n fwy defnyddiol na briffio clir, meddylgar a chryno. Dros y blynyddoedd rwyf hefyd wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth a gefais gyda'm gwaith fy hun ar gwestiynau cyfansoddiadol a hebddynt ni fyddai fy llyfrau ac erthyglau wedi bod yn bosibl.

Erthygl gan Vikki Killington, ar secondiad o Lyfrgell Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru i'r Gwasanaeth Ymchwil