Setliad Dros Dro I Lywodraeth Leol Ar Gyfer 2019-20 Wedi'i Gyhoeddi

Cyhoeddwyd 10/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (Alun Davies AC) Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2019-20. Bydd Cyllid Allanol Cyfun (CAC), sef y cyllid refeniw cyffredinol sydd ar gael i awdurdodau lleol, yn gostwng o 0.3 y cant o'i gymharu â 2018-19 (wedi'i addasu).

Disgwylir mai cyfanswm y CAC ar gyfer 2019-20 fydd £4.2 biliwn, gostyngiad o £12.3 miliwn. Mae CAC yn cynnwys Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig wedi'u Hailddosbarthu ac, er bod gostyngiad cyffredinol, disgwylir y bydd Ardrethi Annomestig wedi'u Hailddosbarthu yn cynyddu ychydig o £997.5 miliwn i £1.0 biliwn.

O'r 22 o awdurdodau lleol, bydd 7 yn cael cynnydd (arian parod) yn 2019-20. Caerdydd fydd yn cael y cynnydd mwyaf, sef 0.4 y cant. Bydd y 15 awdurdod lleol sy'n weddill yn cael gostyngiad mewn cyllid ac, o'r 15 hynny, bydd 5 yn cael cyllid atodol (y cyfeirir ato fel "cyllid gwaelodol") er mwyn sicrhau na fydd cyllid yn gostwng o fwy nag 1 y cant. Mewn termau real, bydd pob awdurdod lleol yn cael toriad mewn cyllid.

Amlinellir isod yr awdurdodau sy'n cael cyllid atodol, a'r symiau a geir:

  • Ynys Môn – £83,000
  • Conwy – £513,000
  • Sir y Fflint – £218,00
  • Powys – £979,000
  • Sir Fynwy – £703,000

Amlinellir y newidiadau dros dro i CAC awdurdodau lleol yn y ffeithlun isod: Mae Cyllid Cyfalaf Cyffredinol Heb ei Neilltuo wedi'i gynnal ar £143 miliwn.

Hefyd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddiadau penodol ar gyllid yn y setliad. Mae ei ddatganiad ysgrifenedig (PDF, 171KB) yn amlinellu'r canlynol:

  • cyllid ar gyfer costau ychwanegol yn deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy ddyfarniad cyflog yr athrawon (cyfanswm o £23.5 miliwn, gydag £8.7 miliwn ar gael drwy grantiau penodol yn 2018-19. Ar gyfer 2019-20, mae £13.7 miliwn wedi'i gynnwys yn y setliad a bydd £1.1 miliwn yn cael ei gynnig fel grant penodol)
  • cyllid "i adlewyrchu pwysigrwydd rôl llywodraeth leol yn y system iechyd a gofal cymdeithasol"(£20 miliwn yn y setliad, £30 miliwn o gyllid wedi'i dargedu y tu allan i'r setliad)
  • cyllid mewn perthynas â chynigion am feini prawf cymhwysedd newydd i gael prydau ysgol am ddim (£7 miliwn, £4 miliwn hefyd i'w ddarparu i awdurdodau lleol yn 2018-19 drwy grant penodol)
  • £15 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion drwy'r Prif Grŵp Gwariant Addysg yn Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £600,000 eto yn 2019-20 i gefnogi llywodraeth leol i roi'r gorau i godi tâl am gladdedigaethau plant.

Hefyd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet £60 miliwn o arian cyfalaf dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd awdurdodau lleol.

Y llynedd, awgrymodd Llywodraeth Cymru y gall fod newidiadau i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2019-20. Fodd bynnag, caiff Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ei gynnal ar gyfer 2019-20 ar £244 miliwn, gyda'r trefniadau ar gyfer 2020-21 ymlaen i'w pennu fel rhan o ystyriaethau Llywodraeth Cymru i "sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy teg".

Mae proses gyllideb ddau gam Llywodraeth Cymru yn golygu y cyhoeddir gwybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf yn unol â'r gyllideb fanwl, sef ar 23 Hydref (yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd erthygl gennym ar y gyllideb amlinellol, y gallwch ei darllen yma).

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol a'r tablau cefndir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Owen Holzinger a Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru